Darllen Fy Hawliau
Darllen fy Hawliau: Gall straeon ein helpu i wneud synnwyr o’r byd. Gallan nhw fynd â ni i lefydd a chyfnodau gwahanol. Maen nhw’n ddihangfa pan fydd angen i ni ddianc o’n lle a’n hamser ein hunain am awr neu ddwy. Gall straeon hefyd wneud i ni feddwl am sefyllfaoedd y gallem eu profi ein hunain, a gwneud i ni feddwl pam ddigwyddodd rhywbeth.

Yn aml ceir sefyllfaoedd mewn straeon lle mae rheolau cyfreithiol yn berthnasol. Yn aml, mae’r rheolau cyfreithiol yn cael eu hepgor o’r stori – efallai bod awduron yn credu nad oes diddordeb gan ddarllenwyr yn y rhesymau cyfreithiol. Ar y llaw arall, i rywun sy’n cael eu hunain yn y sefyllfa honno, mae gwybod beth yw’r rheolau, gwybod pam gallai rhywbeth ddigwydd neu pam bod rhywbeth wedi digwydd, yn ddefnyddiol. Bydd ein blog ‘Darllen Fy Hawliau’ yn bwrw golwg ar rai llyfrau poblogaidd, esbonio rhai o’r rheolau cyfreithiol sydd ar waith y tu ôl i’r llenni yn y straeon – a beth fyddai’n digwydd yng Nghymru ‘mewn bywyd go iawn’.
Llyfrau:
Dear Martin – Nic Stone
The Boy in the Dress – David Walliams
The Suitcase Kid – Jacqueline Wilson
The Best Possible Answer – Katharine Kottaras
The One Memory of Flora Banks – Emily Barr
The Hunger Games – Suzanne Collins
The Curious Incident of the Dog in the Night time – Mark Haddon
Lily Alone – Jacqueline Wilson
Harry Potter and the Deathly Hallows – J K Rowling
The Catcher in the Rye – J D Salinger
The Perks of Being a Wallflower – Stephen Chbosky
Oliver Twist – Charles Dickens
Journey to the River Sea – Eva Ibbotson
The Nearest Faraway Place – Hayley Long
A Series of Unfortunate Events: A Bad Beginning – Lemony Snicket
The Story of Tracy Beaker – Jacqueline Wilson
Lies We Tell Ourselves – Robin Talley
Matilda – Roald Dahl
Cyfranogiad ‘Iawn’ — Beth bynnag mae hynny’n ei olygu
Beth sy’n gwneud cyfranogiad plant a phobl ifanc yn ystyrlon? Strwythur? Perthynas? Canlyniad? Adborth? Lle, llais, cynulleidfa a dylanwad? Ar ôl bron i wyth mlynedd yn ymwneud â’r gwaith hwn, yn gyntaf fel cyfranogwr, yna fel...
Cyfle Gwych i ymuno â Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr, ac mewn partneriaeth â Just for Kids Law, rydym ni’n edrych ymlaen at recriwtio ar gyfer dwy swydd newydd yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru - Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid a Chynorthwyydd Polisi ac...
Partneriaeth Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru gyda Just for Kids Law ar Brosiect Pwysig i Drawsnewid Plismona er mwyn Plant
Mae’n bleser gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru gyhoeddi partneriaeth newydd â Just for Kids Law ar y prosiect Newidwyr Cyfiawnder Plant, yn dilyn buddsoddiad pum mlynedd sylweddol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiect yn cefnogi plant a...

