Mae The One Memory of Flora Banks gan Emily Barr, yn dilyn stori Flora Banks sy’n 17 oed ac heb gof byr dymor oherwydd amnesia anterograde. Nes i un parti ac un bachgen newid popeth, gall Flora ddim hyd yn oed cofio ei henw ond am ryw reswm mae hi’n cofio’r cyfarfyddiad penodol hwn. Ar ôl cyfres o negeseuon e-bost, a chynllun a baratowyd gan Flora, mae’n penderfynu teithio ar draws y  byd i’w weld unwaith mae ei rhieni i ffwrdd. Heb neb i ofalu amdani ac i’w hatgoffa i gymryd ei meddyginiaeth, mae’n mynd yn sâl iawn ac mae’n rhaid i’w thad ei hachub.  Ar ôl yr anturiaeth hon, mae Flora yn gwaethygu a datgelir bod ei mam wedi bod yn gwrthod triniaeth newydd ers blynyddoedd, a allai wella cyflwr Flora yn sylweddol. Rydym yn dal ein hanadl wrth i ni ddysgu bod tad Flora a’i ffrind gorau yn ceisio ei helpu i dderbyn y driniaeth newydd cyn gynted ag y bydd yn 18 oed – yr oedran cyfreithiol i wneud eich penderfyniadau meddygol eich hun. Mae’r llyfr hwn yn tynnu sylw at rai o’r materion y gall plant eu hwynebu o ran cydsynio i driniaeth feddygol.Eich hawliau

Ar ôl i chi droi’n 18 oed, rydych yn oedolyn cyfreithiol ac yn gallu gwneud eich penderfyniadau meddygol eich hun, tybir bod gennych y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drosoch eich hun – oni bai ei fod wedi’i sefydlu fel arall. Yn gyffredinol, gall unrhyw un dros 16 oed gydsynio i feddyginiaeth a thriniaeth drostyn nhw eu hunain gan eu bod yn cael eu trin fel oedolyn. Felly gall person 16-17 oed gydsynio i driniaeth lawfeddygol, meddygol a deintyddol eu hunain o dan adran 8 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969 (oni bai bod digon o dystiolaeth fel arall). Yn achos Flora, er ei bod yn 17 oed, oherwydd ei amnesia, ni all wneud penderfyniadau gwybodus drosti hi ei hun. Bydd yn rhaid i blant o dan 16 oed basio rhywbeth a elwir yn ‘brawf cymhwysedd Gillick’ i ddangos eich bod yn deall holl agweddau’r driniaeth arfaethedig. Mae Erthygl 12 (1) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989 yn nodi bod gan blant sy’n gallu llunio eu barn eu hunain yr hawl i fynegi’r farn honno yn rhydd, a bydd y pwys a roddir i’ch barn yn dibynnu ar eich oedran a’ch aeddfedrwydd.

A ellir diystyru eich penderfyniad?

Er bod plant o dan 16 oed yn gallu cydsynio drostyn nhw eu hunain yn y rhan fwyaf o amgylchiadau (os bernir eu bod yn gymwys), mae gan unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant rywfaint o bŵer o ran y penderfyniad. Gall rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant fod yn rhiant, gwarcheidwad neu awdurdod lleol. Hyd yn oed os bernir eich bod yn gymwys o dan brawf Gillick, os ydych yn gwrthod triniaeth a allai achub eich bywyd, yna gellir diystyru eich penderfyniad. Nid yw’r llys yn gallu caniatáu i chi niweidio eich hun yn fwy drwy wrthod triniaeth, dylai’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant wastad ystyried eich budd pennaf. Efallai na fydd pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed yn gallu cydsynio drostyn nhw eu hunain os ydyn nhw’n brin o allu o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005: nid oedd Flora yn gallu cydsynio drosti hi ei hun oherwydd hyn, yn ôl diffiniad y ddeddf, roedd gan Flora nam meddwl a effeithiodd ar ei gallu i ddeall y driniaeth a’r cydsynio. Serch hynny, cofiwch os ydych yn 16 neu’n 17 oed, ni ddylai gweithwyr meddygol proffesiynol ddatgelu gwybodaeth amdanoch i unrhyw un heb eich cydsyniad.

Beth os yw fy rhiant neu warcheidwad yn gwrthod y driniaeth?

Os ydych o dan 16 oed a bod eich rhiant neu warcheidwad yn gwrthod cydsynio ar eich rhan, gellir eu herlyn am esgeulustod os ydyn nhw’n anghytuno â gweithdrefn a allai achub eich bywyd. Gallai’r llys orfod cymryd rhan yn eich achos a gorchymyn triniaeth o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989, ac mae hyn yn cael ei alw’n orchymyn mater penodol, a gall orchymyn gweithred benodol ar gyfer mater unigol fel brechu. Os oes un rhiant neu warcheidwad yn cydsynio a’r llall yn gwrthod triniaeth, byddai’r llys dal i orfod yn cymryd rhan gan fod meddygon yn wyliadwrus o roi triniaeth pan fydd gwrthdaro.

Tynnu organau ar ôl marw

Yng Nghymru, tybir bob amser eich bod wedi cydsynio i roi organau oni bai bod prawf pendant na wnaethoch chi gydsynio. Tybir bod pob person dros 18 oed wedi cydsynio oni bai eu bod wedi optio allan ar wefan y GIG. Os ydych o dan 18 oed, gallwch siarad â’ch teulu i fynegi eich dymuniadau er mwyn iddyn nhw allu gweithredu ar eich rhan ar ôl marw.

Mae’n bwysig gwybod eich hawliau a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu yng Nghymru. Mae nifer o sefyllfaoedd gwahanol lle mae’n bosibl y bydd angen i chi wybod y wybodaeth yma. Roedd achos Flora yn eithaf anodd ond mae’n galonogol gwybod y byddai’r gyfraith yn ei gwarchod. Gallwch ddarllen mwy am sut mae’r gyfraith yn eich gwarchod mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ein tudalennau!

Fy enw i yw Zuzanna Cybulska ac rwy’n fyfyrwraig trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio’r gyfraith.  Rwy’n anelu i fod yn gyfreithiwr teulu, felly mae’r prosiect hwn yn bwysig iawn i fi. Rwy’n gwirfoddoli cryn dipyn o fewn y brifysgol a thu allan i gael mewnwelediad i helpu teuluoedd a phobl agored i niwed, fel y gallaf wastad wneud fy ngorau i helpu! Mae’n hanfodol bod pawb yn gwybod eu hawliau er mwyn iddyn nhw fod yn ddiogel ac i gael help os oes unrhyw beth yn mynd o’i le. Rwyf wastad wedi mwynhau darllen ac yn ddarllenwraig frwd. Rwyf newydd orffen llyfr o’r enw ‘Norwegian Wood’ gan Haruki Murakami, sef llyfr ynglŷn â bachgen a’i brofiadau prifysgol yn Japan gyda phwyslais ar ddod o hyd i gariad. Mae’n llyfr y gellir uniaethu ag ef gyda rhai sefyllfaoedd trasig a thorcalonnus.