Rhywbeth rydw i wedi ei ddysgu yn y sesiwn heddiw: “Bod gan blant hawliau.”  Dyma adborth gan ddisgybl Blwyddyn 7 yn ystod Sesiwn Addysg Gyfreithiol a oedd yn cael ei dreialu i drafod Yr Amgylchedd a Llygredd.

Sut allwn ni ddisgwyl i bobl ifanc dyfu i fod yn ddinasyddion gwybodus, cyfrifol os nad ydyn nhw’n gwybod am y cyfreithiau sy’n dylanwadu ar eu bywydau neu’n deall y cyfreithiau hyn?

 

Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, credwn y dylai addysg gyfreithiol fod yn rhan greiddiol o siwrnai ddysgu pob plentyn. Mae cyfreithiau’n effeithio ar bopeth, yn amrywio o ysgolion a thai i iechyd, gofal cymdeithasol, a diogelwch personol – ac eto mae llawer gormod o bobl ifanc yng Nghymru yn ceisio canfod eu ffordd o gwmpas y byd cymhleth hwn heb yr wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen.

 

Beth mae’r Ymchwil yn ei Ddangos

Nid yw’r angen hwn am well addysg gyfreithiol yn newydd. Mewn adroddiad yn dwyn y teitl The Desert (2018), gan Jane Williams, Athro yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, a Hannah Bussicott, disgrifiwyd Cymru fel “diffeithwch o ran addysg gyfreithiol gyhoeddus” — term a ddefnyddiwyd i dynnu sylw at y prinder difrifol o adnoddau addysg gyfreithiol gyhoeddus i blant, yn enwedig adnoddau sydd wedi’u teilwra ar gyfer cyfraith Cymru. Rhai canfyddiadau allweddol o’r adroddiad:

  • Mae pobl ifanc mewn perygl. Mae llawer yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol, eu cyfoedion, neu sïon am gyngor cyfreithiol, ac mae hynny’n arwain at gamwybodaeth a dryswch.
  • Mae gan Gymru ei chyfreithiau ei hun. Mae datganoli wedi creu gwahaniaethau mawr rhwng cyfraith Cymru a Lloegr mewn meysydd fel tai, addysg, ac iechyd—ond nid yw pawb yn deall y newidiadau hyn.
  • Mae ymdrechion yn dameidiog. Er bod rhai ysgolion a sefydliadau’n gwneud gwaith gwych, nid oes un dull cyson, cydgysylltiedig o ddarparu addysg gyfreithiol ledled Cymru.

Dyna lle mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn dod i mewn. Diolch i gefnogaeth gan Sefydliad Paul Hamlyn, creodd y Ganolfan rôl Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu—er mwyn troi’r ymchwil yn gamau gweithredol. Ymgymerodd Rhian Howells â’r swydd hon ym mis Mehefin 2023, â’r nod o adeiladu a darparu sesiynau addysg gyfreithiol ystyrlon i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Ar ôl ymgynghori â 70 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a chynnal ymarfer cwmpasu er mwyn nodi’r adnoddau sy’n bodoli’n barod—gan ddefnyddio gweithgareddau sgorio diemwnt—dewiswyd naw maes pwnc.

  • Troseddau Cyllyll
  • Secstio/ Manteisio’n Rhywiol
  • Fepio a Sylweddau Caethiwus
  • Iechyd Meddwl
  • Costau Byw (Budd-daliadau, Prydau Ysgol am Ddim, Grant Gwisg Ysgol Gyffredin)
  • Perthnasoedd (Teulu a Phersonol)
  • Hunaniaeth
  • Yr Amgylchedd a Llygredd
  • Cyswllt â’r heddlu

Crëwyd pecyn adnoddau ar gyfer pob maes, sy’n cynnwys cynllun gwers ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru, PowerPoint gwers a ffeithlun a oedd yn ceisio crynhoi’r wybodaeth i blant. Rydym wedi treialu pob un o’r saith sesiwn gyda disgyblion blwyddyn 7 mewn dwy ysgol uwchradd yn Abertawe.

Yn ychwanegol at hyn, buom yn gweithio gyda’r Myfyrwyr Cyfraith Stryd ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn cynhyrchu sesiwn ac adnodd ychwanegol ym meysydd troseddau cyllyll a secstio.

 

Beth Rydym wedi’i Ddysgu Hyd yn Hyn

Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ar ôl treialu’r adnoddau â thros 200 o fyfyrwyr Blwyddyn 7, roedd yr adborth yn dangos bod myfyrwyr yn cymryd diddordeb, yn chwilfrydig, ac yn aml yn synnu at yr hyn roedden nhw wedi ei ddysgu. Nid oedd llawer ohonynt yn gwybod bod yr oedran derbyn cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru cyn ised â 10 oed. Roedd eraill yn synnu y gallent, mewn rhai amgylchiadau, gael eu noeth-chwilio yn gyfreithlon yng ngorsaf yr heddlu.

Yn dilyn y sesiwn ‘Cyswllt â’r Heddlu’, pan ofynnwyd iddynt ysgrifennu rhywbeth roeddent wedi ei ddysgu, ysgrifennodd un myfyriwr Blwyddyn 7: “Gallwch gael chwiliad corff noeth/chwiliad â dwylo dros ddillad.”

Roedd y sesiynau hyn yn aml yn arwain at drafodaethau a dadleuon a oedd yn ysgogi’r myfyrwyr i feddwl, ac yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a rhannu profiadau na fyddent o bosibl wedi cael cyfle i’w mynegi fel arall. Mae’r adborth yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd hyn i gael deialog agored. Dywedodd un myfyriwr, “Roedd y clipiau fideo yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig pan oedden ni’n eu trafod nhw mewn grwpiau.” Roedd y teimlad hwn yn cael ei ategu yn yr adborth, a thynnwyd sylw at bwysigrwydd dysgu rhyngweithiol a chydweithredol.

Er enghraifft, roedd sesiynau ar ganlyniadau troseddau cyllyll yn annog myfyrwyr i feddwl sut y byddent yn ymateb mewn sefyllfaoedd amrywiol ac i ystyried gwahanol bersbectifau. Cafodd camdybiaethau – er enghraifft y gred bod cario cyllell i ‘amddiffyn eich hun’ yn gyfreithlon – eu herio’n uniongyrchol, ynghyd â chamsyniadau ynglŷn â pha mor aml y mae pobl yn cael eu niweidio gan eu harfau eu hunain.

Roedd llawer o ddisgyblion wedi clywed am droseddau cyllyll drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu’r newyddion, lle mae storïau yn aml yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy cyffrous neu’n cael eu hadrodd yn anghywir. Roedd arnyn nhw eisiau clywed y ffeithiau. Roedd arnyn nhw eisiau deall eu hawliau a chanlyniadau go iawn penderfyniadau cyfreithiol.

Mae hyn yn cefnogi galwadau—fel y rhai a wnaethpwyd gan Dr Rhian Croke—am ddull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael â throseddau cyllyll yng Nghymru. Mae gwybodaeth, yn y cyd-destun hwn, yn offeryn ataliol pwerus.

Y Darlun Mwy

Am flynyddoedd, roedd llawer o ysgolion Cymru yn dibynnu ar sesiynau yn cael eu harwain gan yr heddlu (School Beat), a oedd yn canolbwyntio ar gyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chyfiawnder troseddol. Er bod y rhaglen hon yn werthfawr, roedd ei ffocws yn gyfyng, ac mae hefyd wedi gweld toriadau mewn cyllid ac wedi cael ei gweithredu’n anghyson mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Ein nod yw creu adnoddau sy’n darparu offer cyson i weithwyr proffesiynol ym maes addysg i’w galluogi i ddarparu sesiynau Addysg Gyfreithiol sy’n diwallu anghenion plant yng Nghymru heddiw.

 

Beth sy’n Digwydd Nawr

Rhwng Mawrth a Mehefin 2025, buom yn treialu’r sesiynau hyn ac yn casglu adborth. Mae’r canlyniadau’n glir – mae ar bobl ifanc eisiau cael yr addysg hon, ac mae arnyn nhw ei hangen.

Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, rydym wedi ymrwymo i wneud addysg gyfreithiol yn rhan reolaidd o fywyd yr ysgol – yn hytrach nag un digwyddiad. Oherwydd pan fydd pobl ifanc yn deall eu hawliau cyfreithiol, a’r systemau sy’n effeithio arnyn nhw, maen nhw wedi cael eu paratoi’n well ar gyfer y dyfodol, ac maen nhw hefyd yn ddinasyddion mwy diogel, cryfach, a mwy gwybodus heddiw.

 

Yn bwysig iawn, mae ein sesiynau Addysg Gyfreithiol yn canolbwyntio ar gyfraith droseddol ac ar feysydd eraill, fel Cyfraith Sifil a Chyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er enghraifft, mae sesiwn ar Gostau Byw yn ymdrin â’r gefnogaeth y dylai Llywodraethau ei darparu i deuluoedd sy’n cael anhawster, a sut mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

 

Gwyliwch y Gofod!

Mae’n amlwg o’r adborth gan blant a staff a rhanddeiliaid eraill sydd wedi cysylltu â Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, bod awydd am yr adnoddau hyn. Mewn byd sy’n newid o hyd, mae ar blant a phobl ifanc eisiau gwybodaeth glir, gyfredol a chywir am y materion sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw. Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi’r adnodau yn eu ffurf derfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.