Deddf Mudo Anghyfreithlon

Ein prif alwad am newid:

  • Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Roedd CGPC yn bryderus iawn ar ddechrau’r broses o gyflwyno’r Bil Mudo Anghyfreithlon, gan deimlo y byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael effaith negyddol ar allu Llywodraeth Cymru a chyrff statudol i gyflawni dyletswyddau Cymru dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol.  Sicrhau bod pob plentyn sy’n ceisio lloches yn gallu mwynhau’r holl hawliau a nodir yn CCUHP, a dylent gael yr un diogelwch ag unrhyw blentyn arall.  Mae’r Bil hefyd yn tanseilio dull gweithredu Cenedl Noddfa yng Nghymru mewn ffordd amlwg.

Rhoddodd Dr Croke dystiolaeth ysgrifenedig am y Bil Mudo Anghyfreithlon, a gyflwynwyd i Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn trwy Grŵp Monitro CCUHP Cymru.  Roeddem yn falch iawn o weld yr argymhelliad cryf gan Bwyllgor CU:

Diwygio’r Bil Mudo Anghyfreithlon ar fyrder a diddymu’r holl ddarpariaethau drafft a fyddai’n mynd yn groes i hawliau plant dan y Confensiwn a Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951 a sicrhau bod y Bil yn cyd-fynd â rhwymedigaethau’r Wladwriaeth sy’n barti dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol.

Cyflwynodd Dr Croke dystiolaeth i bwyllgorau craffu y Senedd mewn perthynas â’r Bil Mudo Anghyfreithlon gyda’i phartneriaid yn Sefydliad Bevan, a Chymdeithas y Plant.  Gellir gweld y dystiolaeth yma.  Cyfeiriwyd at y dystiolaeth yn adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Troseddol y Senedd, y mae modd troi ato yma.  Ar 20 Mehefin 2023, pleidleisiodd y Senedd dros wrthod rhoi caniatâd i ddarpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon.  Yn anffodus, cychwynnodd y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon mewn cyfraith yn 2023.

Mae Siân Pearce, cyn Gyfreithiwr Mewnfudo a myfyriwr PhD, wedi ysgrifennu diweddariad defnyddiol am y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, y mae modd ei weld yma.

YMATEB I YMGYNGHORIAD

Nodyn briffio am fater caniatâd deddfwriaethol i’r Bil Mudo Anghyfreithlon a’i effaith ar Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru (Ymateb ar y cyd gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, Sefydliad Bevan a Chymdeithas y Plant).