Camfanteisio Troseddol ar Blant

Ein prif alwad am newid:

  • Caiff pob plentyn sydd wedi bod yn destun camfanteisio troseddol eu trin fel plant yn y lle cyntaf, a chaiff eu hawliau a’u hanghenion eu hystyried.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Mae CGPC yn croesawu’r ffaith bod gan blant yn y system cyfiawnder ieuenctid yr hawl i ymateb diogelu a Rhoi Plant yn Gyntaf dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Act 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.  Nodir yr hawliau hyn yn Rhan 11 y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd dan y Ddeddf.

Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith bod gan Gymru ei Chanllawiau Ymarfer penodol ei hun ar gyfer Diogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol, i’w darllen gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae’r Canllaw yn nodi, ‘Mae Camfanteisio Troseddol ar Blant yn fater diogelu.  Dylid ystyried plant a gamdrinir drwy Gamfanteisio Troseddol ar Blant (CTaB) fel plant yn gyntaf a dylid ystyried eu hanghenion gofal a chymorth yn yr un ffordd ag ar gyfer unrhyw blentyn. Gall CTaB achosi niwed sylweddol iddynt ac mae yn ei wneud.’

Cynlluniwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru i gynorthwyo pobl ac asiantaethau ar draws Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth gadw plant yn ddiogel.  Mae’n bwysig bod ymarferwyr hefyd yn llwyr ymwybodol o’r Ddyletswydd statudol i Adrodd Plant sydd mewn Perygl i bartneriaid statudol dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith bod gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cynghori mewn canllawiau am CTaB y ‘dylent fabwysiadu Dull Gweithredu yn Seiliedig ar Hawliau Plant, fel yr amlinellir yn nogfen Y Ffordd Gywir y Comisiynydd Plant, ac yn unol â dyletswydd sylw dyledus i (CCUHP) a dilyn y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.’

Mae modd gweld ein pryderon a’n hargymhellion mewn perthynas â Chamfanteisio Troseddol ar Blant mewn ymateb a ysgrifennwyd gan Dr Croke i Ymchwiliad Ar Goll ar yr Ymylon Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Am waith ymchwil manwl a thystiolaeth am Gamfanteisio Troseddol ar blant, trowch at ein partneriaid CASCADE a Gweithredu dros Blant.

BLOG

Lorna (Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe) Llinellau cyffuriau, troseddau cyllyll, y gyfraith, a’ch hawliau yng Nghymru

YMATEB I YMGYNGHORIAD

Ymateb Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i Ymchwiliad Ar Goll ar yr Ymylon Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd

DIWEDDARIAD

Adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ‘Plant sydd ar yr Ymylon’ Mawrth 2025