Noeth-chwiliadau o blant
Ein prif alwadau am newid:
- Rhaid rhoi stop ar noeth-chwiliadau o blant
- Dylid datblygu canllawiau statudol sy’n canolbwyntio ar hawliau ac anghenion penodol plant
- Dylid buddsoddi mewn dewisiadau amgen i noeth-chwiliadau (gan gynnwys technolegau amgen)
Mae noeth-chwiliadau o blant yn drawmatig, yn greulon ac yn ddiraddiol, gan fynd yn groes i hawliau plant.
Nid yw cyfraith a chanllawiau presennol y DU mewn perthynas â noeth-chwiliadau yn addas i’r diben i blant, ac nid ydynt yn cyd-fynd â gofynion hawliau dynol rhyngwladol. Mae angen diwygiadau sylweddol er mwyn sicrhau y caiff deddfwriaeth a chanllawiau eu datblygu i gynorthwyo plant, gan ganolbwyntio ar eu hanghenion a’u hawliau penodol.
Tan yn ddiweddar, bu’r gwaith o fonitro mynychdra yr achosion lle y cynhelir noeth-chwiliadau o blant ar draws y DU, yn wael. Mae Dr Croke wedi bod yn ymchwilio ac yn dadlau o blaid rhoi stop ar gynnal noeth-chwiliadau o blant yng Nghymru er 2022, gan gyfleu i asiantaethau perthnasol, gan gynnwys yr Heddlu yng Nghymru, y bu diffyg gwaith monitro ac adrodd tryloyw am noeth-chwiliadau o blant.
Gweler blog gan Dr Croke yma a datganiad sy’n amlinellu ein hargymhellion yma. Yn ogystal, cyd-gynhaliom weminar fyd-eang yn 2023 ynghylch noeth-chwiliadau o blant gyda Chanolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid, ac mae modd gweld rhagor o wybodaeth yma.
Cyflwynodd Dr Croke dystiolaeth am noeth-chwiliadau o blant fel rhan o adroddiad Amgen NGO Cymru, ac yn ystod y gwrandawiad cyn-sesiynol. Roeddem yn falch iawn o weld am y tro cyntaf, argymhelliad gan Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn i roi stop ar noeth-chwiliadau o blant, yn ei Arsylwadau i Gloi y DU.
Cymryd mesurau deddfwriaethol i wahardd, yn ddieithriad, yr arfer o gynnal noeth-chwiliadau o blant (Argymhelliad 30a).
Ar ôl gwaith eiriolaeth parhaus a sawl cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, rhannwyd y data am Gymru yn benodol gyda Llywodraeth Cymru a gydag Aelodau’r Senedd (Mawrth 2024) o’r diwedd. Mae’n gadarnhaol gweld bod Plismona yng Nghymru yn datblygu systemau gwell i fonitro noeth-chwiliadau o blant, ond mae cryn dipyn i’w wneud eto i sicrhau bod y data, ar y lleiaf, yn bodloni gofynion Codau ymarfer yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) a Deddf Cydraddoldeb y DU 2010.
Mae Dr Croke yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghynghrair Hawliau Plant Lloegr (rhan o Just for Kids Law), Canolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid a chyflwynodd ymateb ar y cyd i Ymgynghoriad Codau A a C Pace Swyddfa Gartref y DU yn ddiweddar (mynediad i’r ymateb yma), yn galw am roi stop ar gynnal noeth-chwiliadau o blant ar fyrder, gan fuddsoddi mewn technolegau amgen, ac mae’n rhaid i’r canllawiau statudol diwygiedig fod yn benodol i anghenion a hawliau plant.
BLOG
Noeth-chwilio plant: Mynd yn groes i hawliau plant.
BLOG
Ymateb i Adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr ar Noeth-chwilio Plant Mawrth 2023.
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, CRAE (rhan o Just for Kids Law), ymateb Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i Godau A a C PACE Swyddfa Gartref y DU ar Chwiliadau EIP. Mehefin 2024
CYFLWYNIAD
Gweminar: ‘A yw hi fyth yn iawn cynnal noeth-chwiliadau o blant’