Profiad Gofal fel Nodwedd Warchodedig

Ein prif alwad am newid:

  • Gwneud profiad o fod mewn gofal yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cyflwyniad 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, caiff nodweddion penodol, fel hil, rhywedd, anabledd, ac oedran, eu gwarchod yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu. Fodd bynnag, nid yw profiad o fod mewn gofal neu o “dderbyn gofal” yn nodwedd warchodedig ar hyn o bryd. Mae’r ddogfen friffio hon yn amlinellu pam y dylid ychwanegu profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf, gan bwysleisio’r heriau unigryw y mae unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hwynebu.

Bregusrwydd ac anfanteision unigryw 

Yn aml, bydd plant â phrofiad o fod mewn gofal (plant sy’n derbyn gofal) yn wynebu amrywiaeth o brofiadau andwyol, gan gynnwys esgeulustod, camdriniaeth, a newidiadau mynych i’w trefniadau byw. Gall y profiadau hyn gael effaith sy’n para ar eu llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol. Wrth i’r unigolion hyn dyfu’n oedolion, byddant yn aml yn wynebu heriau penodol sy’n gysylltiedig â’u magwraeth, gan gynnwys ansefydlogrwydd o ran tai, addysg, a chyflogaeth. Mae’r anfanteision hyn, sydd wedi’u gwreiddio yn eu profiad o fod mewn gofal, yn peri eu bod yn fwy agored i wahaniaethu ac anghydraddoldeb.

Effaith hirdymor profiad o fod mewn gofal 

Gall pontio o fod mewn gofal i fod yn oedolyn fod yn arbennig o anodd, ac mae llawer o bobl ifanc yn gadael gofal heb fod systemau angenrheidiol ar waith i’w cynorthwyo. Mae ystadegau’n dangos bod y rheini sy’n gadael gofal yn fwy tebygol o wynebu digartrefedd, diweithdra, a phroblemau iechyd meddwl o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt wedi bod mewn gofal. Gall yr unigolion hyn hefyd wynebu stigma neu ragfarn oherwydd eu hanes, a gall hyn lesteirio ymhellach eu gallu i gael mynediad at gyfleoedd a gwasanaethau.

Cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol 

O gynnwys profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, byddai’n gam pwysig tuag at hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddai’n cydnabod y rhwystrau penodol y mae unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hwynebu ac yn darparu fframwaith cyfreithiol i’w diogelu rhag gwahaniaethu mewn meysydd fel addysg, cyflogaeth, tai, a gofal iechyd. Byddai’r newid hwn yn cynorthwyo i sicrhau tegwch, gan wneud yn siŵr nad yw’r rheini â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu anfantais annheg dim ond oherwydd eu cefndir.

Cydweddu â nodweddion gwarchodedig eraill 

Bwriedir i lawer o’r nodweddion gwarchodedig presennol, fel anabledd, hil a rhywedd, ddiogelu unigolion rhag gwahaniaethu ar sail eu bregusrwydd cynhenid neu’u profiadau o fod yn fregus. Yn debyg iawn i nodweddion gwarchodedig eraill, mae profiad o fod mewn gofal yn ffactor sy’n gallu arwain at anfantais ac allgáu cymdeithasol. Felly, mae cynnwys profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig yn gyson ag egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb, a hynny i sicrhau bod unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd ac yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith.

Pwy sy’n galw am i brofiad o fod mewn gofal fod yn nodwedd warchodedig?

Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023 o dan y teitl “Os nad nawr, yna pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal” bu i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru argymell diwygiadau sylweddol i system ofal Cymru. Un o’r prif gynigion oedd gwneud ‘profiad o fod mewn gofal’ yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Fodd bynnag, roedd ymateb Llywodraeth Cymru’n gyfyngedig. Dim ond pedwar o’r 27 argymhelliad y bu iddi eu derbyn, ac mae’n drawiadol iddi wrthod llawer o’r cynigion mwy radical, gan gynnwys yr alwad i wneud profiad o fod mewn gofal yn nodwedd warchodedig.

Mae elusennau, fel ein partneriaid yng Ngwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, ac elusennau eraill yn y DU, fel y Gymdeithas Ymadawyr Gofal a Become neu’r Ymddiriedolaeth Who Cares, hefyd yn dadlau o blaid rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i unigolion â phrofiad o fod mewn gofal fel grŵp gwarchodedig.

Erbyn mis Mai 2024, roedd dros 90 awdurdod lleol ledled y DU wedi ymrwymo i gydnabod profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig. Bwriedir i’r fenter hon gydnabod yr heriau unigryw y mae unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hwynebu ac atal gwahaniaethu ym mholisïau a phenderfyniadau cynghorau. Mae Terry Galloway, ymgyrchydd blaenllaw a chyd-sylfaenydd y Cynnig Lleol i Rai sy’n Gadael Gofal, wedi chwarae rhan allweddol drwy ddadlau o blaid y newid hwn.

Ym mis Ionawr 2024, Cyngor Dinas Casnewydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gydnabod profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig. Ers hynny, mae sawl cyngor arall yng Nghymru wedi mabwysiadu mesurau tebyg, er enghraifft:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Ym mis Ebrill 2024, cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unfrydol i drin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig, gyda’r nod o gryfhau hawliau unigolion â phrofiad o fod mewn gofal.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: Ym mis Medi 2024, pasiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gynnig i gydnabod profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig, gan dynnu sylw at yr heriau unigryw y mae’r grŵp hwn yn eu hwynebu.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: Ym mis Gorffennaf 2024, cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i flaenoriaethu hawliau pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal drwy drin eu profiad fel nodwedd warchodedig.

Er bod y datblygiadau hyn yn addawol, ni ellir cael gafael yn rhwydd ar restr gynhwysfawr o bob awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu’r safbwynt hwn. Fodd bynnag, mae’r duedd yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd cynorthwyo unigolion â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru.

Casgliad 

O ychwanegu profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddai’n gam pwysig tuag at fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae unigolion sydd wedi bod mewn gofal yn eu hwynebu. Byddai’n gwella’r mesurau cyfreithiol i’w gwarchod, yn hyrwyddo gwell cydraddoldeb, ac yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar yr unigolion hyn i oresgyn eu hanfanteision i’w galluogi i wireddu eu potensial yn llwyr.

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn galw am wneud profiad o fod mewn gofal yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.