Gorchmynion Amddifadu o Ryddid
Ein prif alwadau am newid:
- Rhoi stop ar y defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid ar Blant, gan sicrhau bod llety diogel digonol yn bodoli sy’n diogelu ac sy’n parchu hawliau plant
- Sicrhau y caiff niferoedd y plant sy’n destun Gorchmynion Amddifadu o Ryddid ar hyn o bryd yng Nghymru, a’r rheswm pam, eu monitro yn gyson
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Ceir nifer o blant y mae eu hanghenion cymhleth yn golygu bod angen gofalu amdanynt mewn llety diogel, oherwydd efallai y byddant yn rhoi eu hunain neu eraill mewn perygl. Dan yr amgylchiadau hyn, yn ôl y gyfraith, dylid gofalu amdanynt mewn cartref plant diogel, neu sefydliad i droseddwyr ifanc, neu mewn ysbyty. Fodd bynnag, os na fydd y lleoliadau hyn ar gael, neu os nad ydynt yn gallu bodloni anghenion cymhleth y plant agored i niwed, mae gan yr Uchel Lys (Llys Teulu) y grym i amddifadu plentyn o’u rhyddid, gan roi’r plant agored i niwed hyn mewn llety anniogel ac sy’n aml heb gael ei reoleiddio, filltiroedd o’u cartref.
Gwyliwch y fideo defnyddiol hwn lle y mae Arsyllfa Teulu Nuffield yn esbonio’r Gorchmynion Amddifadu o Ryddid, yma.
Cyflwynodd Dr Croke dystiolaeth am y mater hwn fel rhan o’r gwaith o adrodd i Bwyllgor CU Hawliau’r Plentyn. Cyfrannodd y gwaith hwn at Orchmynion Amddifadu o Ryddid yn ymddangos fel mater yn Arsylwadau i Gloi Pwyllgor CU, a gwnaethpwyd sawl cyfeiriad atynt yn ystod archwiliad gwladwriaeth sy’n Barti gan Bwyllgor CU.
Mae Dr Croke wedi cyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i ‘Diwygio Radical ar gyfer gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal’ hefyd. Adlewyrchir y dystiolaeth yn adroddiad Ymchwiliad y Senedd (24.05.23), wrth i’r Pwyllgor gyhoeddi argymhelliad cryf (gweler Argymhelliad 20 tudalen 14) i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, “ddatblygu cynllun gweithredu ar fyrder i leihau’r defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid a chynnal dadansoddiad o niferoedd y plant sy’n destun Gorchmynion Amddifadu o Ryddid yng Nghymru.”
Rydym yn parhau i fonitro ymateb Llywodraeth Cymru ac ymateb asiantaethau eraill i’r mater hwn sy’n peri pryder, yn ogystal ag ystyried cyfleoedd ar gyfer ymgyfreitha strategol.
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, Diwygio Radical ar gyfer Gwasanaeth i Blant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal.