The Nearest Faraway Place: beth sy’n digwydd pan na allwch chi fyw gyda’ch rhieni mwyach?

The Nearest Faraway Place: beth sy’n digwydd pan na allwch chi fyw gyda’ch rhieni mwyach?

Gall straeon ein helpu i wneud synnwyr o’r byd. Gallan nhw fynd â ni i lefydd a chyfnodau gwahanol. Maen nhw’n ddihangfa pan fydd angen i ni ddianc o’n lle a’n hamser ein hunain am awr neu ddwy. Gall straeon hefyd wneud i ni feddwl am sefyllfaoedd y gallem eu profi ein hunain, a gwneud i ni feddwl pam ddigwyddodd rhywbeth.

Yn aml ceir sefyllfaoedd mewn straeon lle mae rheolau cyfreithiol yn berthnasol. Yn aml, mae’r rheolau cyfreithiol yn cael eu hepgor o’r stori – efallai bod awduron yn credu nad oes diddordeb gan ddarllenwyr yn y rhesymau cyfreithiol. Ar y llaw arall, i rywun sy’n cael eu hunain yn y sefyllfa honno, mae gwybod beth yw’r rheolau, gwybod pam gallai rhywbeth ddigwydd neu pam bod rhywbeth wedi digwydd, yn ddefnyddiol. Bydd ein blog ‘Darllen Fy Hawliau’ yn bwrw golwg ar rai llyfrau poblogaidd, esbonio rhai o’r rheolau cyfreithiol sydd ar waith y tu ôl i’r llenni yn y straeon – a beth fyddai’n digwydd yng Nghymru ‘mewn bywyd go iawn’.

The Nearest Faraway Place

Enillodd The Nearest Faraway Place gan Hayley Long (2017) wobr Tir na n-Og yn 2018. Mae’n adrodd hanes y brodyr Griff a Dylan sy’n gorfod symud i Aberystwyth i fyw gyda pherthynas bell a’i gŵr. Mae’n gyfrol wych, sy’n cynnwys galar, y berthynas rhwng y brodyr, a’r gobaith yn y pen draw wrth i Griff a Dylan lywio eu ffordd drwy’r sefyllfaoedd ofnadwy ac yn dechrau gweld y dyfodol.

The Nearest Faraway Place by Hayley Long won the Tir na n-og prize and is a great book for helping to understand what could happen if your parents die

Dydyn ni ddim yn mynd i sbwylio’r stori (does dim spoilers fan hyn!), ond nid yw’n gyfrinach bod un o’r troeon plot allweddol yn The Nearest Faraway Place yn digwydd ar ddechrau’r llyfr. Mae rhieni Griff a Dylan yn marw mewn damwain car wrth i’r teulu ddod adref o’u gwyliau. Er mai Prydeinwyr yw’r teulu (mae mam y plant yn Gymraes) maen nhw wedi bod yn byw dramor ers blynyddoedd ac yn byw yn America pan mae’r ddamwain yn digwydd. Heb deulu yn America, beth fydd yn digwydd i Griff a Dylan?

Pwy sy’n gofalu amdanoch chi os yw eich rhieni yn marw?

Mae’n deimlad trist a brawychus y gallai eich rhieni farw. Ble fyddech chi’n mynd? Pwy fyddai’n gofalu amdanoch chi? Mae The Nearest Faraway Place yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Byddwn yn edrych ar y sefyllfa gyfreithiol sy’n arwain at Griff a Dylan yn symud i Aberystwyth i fyw gyda chefnder eu mam, Dee, a’i gŵr Owen a’r cyfreithiau fyddai’n amddiffyn unrhyw blentyn yng Nghymru mewn sefyllfa debyg.

Eich hawliau

Mae gan blant a phobl ifanc dan 18 oed hawliau penodol sydd wedi’u cynllunio i sicrhau eu bod yn derbyn gofal priodol ac yn gallu datblygu i’w llawn botensial. Mae’r hawliau hyn hefyd wedi’u cynllunio i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu, eu trin yn wael neu eu hecsbloetio gan oedolion. Fe’u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Yng Nghymru, mabwysiadwyd CCUHP yn ffurfiol fel cyfraith Cymru ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Erbyn hyn mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi ‘sylw dyledus’ i’r CCUHP pryd bynnag bydd yn gwneud unrhyw benderfyniad neu’n gwneud unrhyw gyfraith newydd.

Nid oes rhaid i ddeddfau a wneir gan Senedd y DU ac sy’n gymwys yng Nghymru ystyried y Confensiwn yn yr un modd. Mae’r DU wedi llofnodi CCUHP – nid yw wedi ei ymgorffori mewn cyfraith yn yr un ffordd â Chymru.

Mae rhai o Hawliau CCUHP sy’n berthnasol i sefyllfa Griff a Dylan yn The Nearest Faraway Place yn cynnwys:

  • Yr hawl i enw, cenedligrwydd a chysylltiadau teuluol (Erthygl 8 CCUHP)
  • Yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd yn eich barn chi pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau amdanoch chi, ac i ystyried eich barn (Erthygl 12 CCUHP)
  • Yr hawl i gael gofal priodol a’ch amddiffyn rhag trais, camdriniaeth neu esgeulustod gan y bobl sy’n gofalu amdanoch (Erthygl 19 CCUHP)


Symud i Gymru

Fel dinasyddion y DU, nid oedd gan Griff a Dylan unrhyw hawl gyfreithiol i aros yn yr Unol Daleithiau ar ôl i’w rhieni farw. Byddai angen caniatâd (fisâu) arnyn nhw i fod yn yr Unol Daleithiau a byddai hyn wedi bod yn gysylltiedig â fisâu eu rhieni i fyw ac i weithio yn America.

In teh Nearest Faraway Place, brothers Dylan and Gruff must move to Aberystwyth in Wales following the death of their parents

Gweithiodd Gonswliaeth Prydain, y sefydliad sy’n gofalu am ddinasyddion y DU dramor, gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau i wneud trefniadau i ddod â Griff a Dylan yn ôl i’r DU, ond nid yw hynny’n datrys y broblem pwy fydd yn gofalu amdanyn nhw.

 

Derbyn gofal

Pe bai rhieni Griff a Dylan wedi gwneud ewyllys, gallan nhw fod wedi dweud pwy oedden nhw eisiau i ofalu am y bechgyn pe baen nhw’n (y rhieni) marw. Byddai’r person hwnnw (neu’r bobl) yn dod yn ‘Warcheidwad Testamentaidd’. Er nad yw’n glir o’r llyfr, mae’n edrych fel pe bai hynny heb ddigwydd, a bu’n rhaid cynnal ymchwiliadau o ran gyda phwy y byddai’r bechgyn yn byw. Arweiniodd yr ymchwiliadau hyn at Dee, cefnder eu mam yn Aberystwyth, sy’n barod ac yn hapus i ofalu am y bechgyn.

Yn dibynnu ar sut mae’r trefniant wedi’i wneud, gall Dee fod yn ‘Ofalwr Anffurfiol sy’n Berthynas’ ar Griff a Dylan, neu ‘Ofalwr Maeth sy’n Berthynas’. Os na fu’r Gwasanaethau Cymdeithasol/Plant yn rhan o’r trefniant, bydd yn drefniant anffurfiol. Os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol/Plant wedi bod yn gysylltiedig â hyn, mae’r trefniant yn fwy tebygol o fod yn Ofal Maeth gan Berthynas. Gan y bu’n rhaid cynnal ymchwiliadau i bwy fyddai’n gofalu am y bechgyn, mae’n eithaf tebygol y byddai’r Gwasanaethau Plant wedi bod yn rhan o hyn. Ac yn gynnar pan mae’r bechgyn newydd gyrraedd Aberystwyth, gydag Alison, o Gonswliaeth Prydain, mae sôn am Swyddog Cyswllt Teulu yn Aberystwyth a fydd yn cadw mewn cysylltiad ‘am y flwyddyn nesaf o leiaf’.

 Cymorth ariannol

Os mai’r trefniant yw Gofal Maeth gan Berthynas, bydd Dee ac Owen yn cael cymorth gan yr Awdurdod Lleol i’w helpu i ofalu am y bechgyn. Efallai y bydd arian gan rieni Griff a Dylan ar gael hefyd i helpu i ofalu amdanyn nhw.

Pe bai rhieni Griff a Dylan wedi gadael ewyllys, byddai eu harian yn cael ei ddosbarthu yn ôl yr ewyllys. Os na, byddai unrhyw arian ac eiddo ym meddiant y rhieni yn cael eu rhannu yn ôl rhywbeth a elwir yn ‘rheolau diffyg ewyllys’. O dan y rheolau hyn, byddai’r holl eiddo a’r arian a oedd ym meddiant rhieni Griff a Dylan yn mynd i’r plant. Gan fod Griff a Dylan o dan 18 oed, byddai’r arian yn cael ei roi mewn ‘ymddiriedolaeth’ a’i roi yng ngofal ymddiriedolwyr sy’n oedolion nes eu bod yn 18 oed. Gellid defnyddio arian yr ymddiriedolaeth i helpu i ofalu am y bechgyn wrth iddyn nhw fyw gyda Dee ac Owen.

Cyfrifoldeb Rhieni

Un o’r materion allweddol i Griff a Dylan fydd pwy sydd â ‘chyfrifoldeb rhieni’ amdanyn nhw. Cyfrifoldeb rhieni yw’r term a ddefnyddir ar gyfer yr awdurdod sydd gan rieni i wneud penderfyniadau ar ran eu plant. Nid yw cyfrifoldeb rhieni yn trosglwyddo’n awtomatig i’r person sy’n gofalu am blentyn o ddydd i ddydd, felly mae’n bosibl y bydd gorchymyn llys wedi cael ei wneud ar ryw adeg, er mwyn rhoi cyfrifoldeb rhiant i Dee (ac o bosibl ei gŵr Owen). Fel arall, efallai na fydd modd cymryd penderfyniadau ynglŷn â ble byddai’r bechgyn yn mynd i’r ysgol, neu unrhyw driniaeth feddygol y gallai fod ei hangen arnyn nhw. Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar eu bywydau yn Aberystwyth.

A gafodd hawliau Griff a Dylan eu parchu?

Erbyn diwedd y llyfr, mae Griff a Dylan mewn sefyllfa llawer gwell nag yr oedden nhw ar ôl y ddamwain, wedi setlo yn yr ysgol a gwneud ffrindiau yn Aberystwyth. Mae’n ganlyniad positif, ac mae’n edrych yn debyg na fu unrhyw gymhlethdodau cyfreithiol yn deillio o’u sefyllfa. Ond a barchwyd eu hawliau bob tro?

Mae Erthygl 12 CCUHP yn cynnwys hawl allweddol i fynegi eich barn a’ch safbwyntiau pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud amdanoch chi. Pan symudodd Griff a Dylan i Aberystwyth gyntaf, nid yw’n edrych fel pe bai’r hawl hon wedi’i pharchu. Mae’r bechgyn wedi’u hepgor o’r trefniadau – ymddengys nad oedd neb wedi gofyn iddyn nhw beth oedd eu barn nhw am y bwriad i symud i Gymru. Mae’n cael ei gyflwyno iddyn nhw fel ‘cytundeb sydd wedi’i drefnu’n barod’. Yn ddiweddarach, pan gynigir cyfle i fyw yn rhywle arall, gall Griff wneud y penderfyniad ei hun.

Drwy nodi aelodau o’r teulu y gall y bechgyn fyw gyda nhw, cedwir eu hawl i gysylltiadau teuluol, ac ymddengys bod y cysylltiad rhwng Dee a mam y bechgyn yn eu helpu wrth iddyn nhw addasu i fywyd yng Nghymru, gan gysylltu nôl ag Erthygl 8 CCUHP. Yn yr un modd, er nad ydyn nhw gyda’u rhieni, nid oes gan y bechgyn unrhyw gwynion am Dee ac Owen a sut maen nhw’n derbyn gofal. Mae’r trefniadau a roddwyd ar waith yn golygu eu bod yn derbyn gofal priodol o dan Erthygl 19 CCUHP.

Mae’n galonogol gweld sut mae Griff a Dylan yn derbyn gofal, a sut mae trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau y gallan nhw symud ymlaen â’u bywydau. Tra bod Griff a Dylan yn ffodus o gael Dee, nid yw wastad mor syml â hynny. Mae yna sefyllfaoedd hefyd lle na fydd eich rhieni yn gallu gofalu amdanoch chi, neu ddim yn gofalu amdanoch yn iawn, am resymau eraill. Yn union fel y gwnaeth fframwaith cyfreithiol ddiogelu Griff a Dylan, mae yna fframwaith cyfreithiol i’ch amddiffyn chi yn y sefyllfaoedd eraill hyn – gallwch ddarllen mwy am hynny ar ein tudalennau ynglŷn â derbyn gofal.

Cadwch lygad am ein blogiau eraill yn y gyfres Darllen fy Hawliau!

Gadael Ymateb