Cynnwys CCUHP yng nghyfraith Cymru
Ein prif alwad am newid:
- Bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cael ei gynnwys yng nghyfraith Cymru yn uniongyrchol.
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru (CGPC), rydym yn canolbwyntio ar hyrwyddo newid am y “Mesurau Gweithredu Cyffredinol”, sy’n strategaethau llywodraethol, seneddol a barnwrol er mwyn cyflawni hawliau pob plentyn.
Mae Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn, yn ei Sylw Cyffredinol Rhif 5 yn argymell y dylai Gwladwriaethau sy’n barti:
- gynnwys CCUHP yn llawn ac yn uniongyrchol,
- cael Gweinidog Plant sydd â throsolwg clir dros hawliau plant,
- cynnal asesiadau o’r effaith ar hawliau plant ar bob polisi a chyllideb,
- cael cynllun gweithredu cenedlaethol ar hawliau plant,
- sicrhau bod cyfrifoldeb clir dros feithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o CCUHP.
Dulliau yw’r rhain er mwyn gweithredu CCUHP yn well ac maent yn cael effaith sylweddol ar fynediad plant i’w hawliau. Rydym wedi bod yn monitro ac yn eirioli dros newid mewn perthynas â’r datblygiadau hyn yng Nghymru (Am wybodaeth bellach, gweler Blog Dr Croke yma).
Yng Nghymru, rydym wedi sicrhau cynnydd mewn rhai o’r meysydd hyn, megis cynnwys CCUHP mewn ffordd anuniongyrchol. Bu’r tîm a ddaeth yn Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn ddiweddarach yn allweddol wrth gynnig cyngor arbenigol a arweiniodd at basio Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cymru roi ‘sylw dyladwy’ i ran 1 CCUHP a Phrotocolau Dewisol penodedig ym mhopeth a wnânt.
Rydym yn cydnabod bod y ‘ddyletswydd sylw dyladwy’ i CCUHP dan y Mesur Hawliau wedi helpu i wreiddio hawliau plant mewn llywodraeth genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw wedi gwneud fawr ddim i wella’r atebolrwydd cyfreithiol dros hawliau plant, gan nad yw’r ddeddfwriaeth yn cynnig y dewis i blant gael eu hawliau CCUHP wedi’u gorfodi mewn llys barn.
Yn yr Alban, pasiwyd UNCRC (Incorporation) (Scotland) Act ym mis Gorffennaf 2024. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynd gam ymhellach nag y mae ein cyfraith ni yng Nghymru, trwy fynnu bod pob corff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â CCUHP wrth gyflawni eu swyddogaethau, sy’n golygu y gall llysoedd barn orfodi hawliau plant yn yr Alban.
Credwn y dylai plant yng Nghymru gael yr hawl i fanteisio ar yr un lefel o ran diogelwch, ac y dylid cyflwyno Bil sy’n ymgorffori CCUHP yn uniongyrchol.
BLOG
Gweithredu CCUHP yng Nghymru: Strwythurau a Mecanweithiau Effeithiol ar gyfer Plant
BLOG
‘Beth sydd o’i le gyda hawliau plant?’
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Cyflwyniad i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar flaenoriaethau’r 6ed Senedd. Cyflwyniad i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar flaenoriaethau’r 6ed Senedd.
CYFLWYNIAD
CYFLWYNIAD
Dr Rhian Croke, Seminar Garden Court Chambers 2024.
“Arddel Hawliau Plant? Gweithredu CCUHP: Cymhariaeth rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon”
CYFLWYNIAD
Dr Rhian Croke, Seminar Cyfraith Gyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru 2024
YMCHWIL AC ADRODDIADAU
Hoffman, S.; Nason, S.; Beacock, R.; Hicks, E. (gyda chyfraniad gan Croke, R.)(2021). Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, adroddiad GSR rhif 54/2021