Plant yn nalfa’r heddlu

Ein prif alwad am newid:

  • Terfynu’r arfer o gadw plant yn nalfa’r heddlu

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Mae plant sy’n cael cyswllt gyda’r system cyfiawnder troseddol yn rhai o’r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac yn aml, mae ganddynt anghenion cymhleth.  Gallent fod yn:

  • blant sydd wedi derbyn gofal,
  • meddu ar anghenion dysgu ychwanegol,
  • neu fod yn niwrowahanol,
  • wedi profi trawma,
  • esgeulustod neu gam-drin.

 

Ceir gorgynrychiolaeth plant o gefndiroedd difreintiedig ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder ieuenctid hefyd.

Gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y rhai sy’n cael eu cyswllt cyntaf gyda’r system cyfiawnder ieuenctid dros y ddegawd ddiwethaf, ond eleni, mae nifer y newydd-ddyfodiaid wedi codi yn anffodus.  Rhaid cael dull gweithredu holistig ar gyfer hawliau plant, mesurau atal ac ymyrraeth gynnar, gan weithio ar draws adrannau ac asiantaethau er mwyn atal plant rhag mynd i ddalfa’r heddlu, a buddsoddiad digonol mewn adnoddau dynol ac ariannol.

Mae plant wedi adrodd bod treulio amser mewn cell yr heddlu yn brofiad arswydus a bygythiol.  Cynlluniwyd cyfleusterau dalfa yr heddlu i gadw oedolion y ceir amheuaeth eu bod wedi cyflawni gweithgarwch troseddol.  Nid ydynt wedi cael eu cynllunio i fod yn addas i blant neu i gynnig cysur neu sicrwydd emosiynol i blant sydd wedi cael eu hamddifadu o gymorth eu teulu.  Gall unrhyw amser a gaiff ei dreulio mewn amgylchedd o’r fath fod yn niweidiol ac yn drawmatig i blant.  Mae

CGPC yn credu bod yn rhaid clustnodi adnoddau er mwyn sefydlu mannau diogel sy’n addas i blant ac sy’n gallu cynnig lle i blant mewn argyfwng.

Mae’r gyfraith eisoes yn cynnwys dyletswydd i gadw plant allan o ddalfa yr heddlu dros nos.  Dylai fod cyllid digonol ar gyfer llety diogel er mwyn galluogi awdurdodau lleol a’r heddlu i gyflawni eu dyletswyddau dan adran 38(6) PACE ac Adran 77 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Yn ogystal, ceir Canllawiau Cymru ar Reoli a throsglwyddo plant gan yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol.

Mae’r ffaith bod y ddyletswydd hon yn cael ei thorri yn rheolaidd yn golygu y dylid datblygu model i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, gan neilltuo buddsoddiad digonol ar gyfer hyn.  Rhaid i awdurdodau lleol, yr Heddlu a Llywodraeth Cymru a Phanel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, wneud ymrwymiad clir ac sy’n rhwym i amserlen benodol, ynghylch sut y byddant yn lleihau nifer y plant sydd yn cael eu cadw nalfa’r heddlu bob blwyddyn, gan weithio tuag at derfynu’r arfer.