Iechyd Meddwl

Ein prif alwadau am newid:

  • Rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl plant trwy gyfrwng gweithgarwch atal, ymyrraeth gynnar a gwasanaethau mewn argyfwng i blant.
  • Sicrhau Dull Gweithredu holistig i Hawliau Plant a ‘Dim drws Anghywir’ ar gyfer cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl i blant.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Ceir hanes hir o flaenoriaethu iechyd meddwl plant mewn ffordd annigonol yng Nghymru.  Er y gwelwyd ychydig gynnydd yn ddiweddar wrth gyflwyno polisi a deddfwriaeth newydd, mae angen gwneud mwy eto er mwyn sicrhau y cyflawnir hawl pob plentyn i sicrhau iechyd meddwl o’r safon uchaf yng Nghymru.

Rydym yn pryderu’n arbennig am y ffaith bod Mind Cymru wedi adrodd:  Mae’r amseroedd aros i blant a phobl ifanc mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn sylweddol hwy na’r rhai i oedolion.  Y targed yw rhoi asesiad i 80% o blant a phobl ifanc o fewn 28 diwrnod i gael atgyfeiriad, ond ni chafodd y targed hwn ei gyrraedd yn unrhyw un o’r pum mlynedd hyd at 2021’.  Mae hanes hir i blant yn cael llai o gymorth o’u cymharu ag oedolion o ran gwasanaethau iechyd meddwl.  Canfu Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru bod plant yn aros yn hwy nag oedolion am wasanaethau iechyd yn fwy cyffredinol, gan ddadlau bod gwariant yn cael ei sgiwio yn erbyn yr ifanc.    

Mae iechyd meddwl plant yn faes sy’n peri pryder sylweddol i CGPC, gan ei fod yn berthnasol i’r holl faterion sy’n ymwneud â hawliau plant.  Rydym yn dechrau monitro achosion o fynd yn groes i hawliau ar y mater hwn ac yn ystyried cyfleoedd ar gyfer ymgyfreitha strategol.

NODYN BRIFFIO

Iechyd Meddwl Plant yng Nghymru