A Series of Unfortunate events : ‘Dechrau gwael’ – Beth sy’n digwydd pan fydd oedolion yn eich trin chi’n wael?

A Series of Unfortunate events : ‘Dechrau gwael’ – Beth sy’n digwydd pan fydd oedolion yn eich trin chi’n wael?

Gan Istarin McVicar

Mae rhywun bob amser yn dweud wrthym y dylem wrando ar oedolion gan eu bod yn hŷn na ni ac yn gwybod orau. Fel rheol mae hyn yn wir ac mae’r rhan fwyaf o blant yn ddigon lwcus i gael rhieni sy’n gofalu amdanynt ac i ddweud wrthynt beth i’w wneud gan eu bod yn eu caru ac eisiau eu hamddiffyn. Yn anffodus, mae rhai oedolion yn cam-drin plant ac yn credu ei bod yn iawn iddynt wneud hynny dim ond am eu bod yn hŷn ac yn fwy.

Fodd bynnag, nid yw rhai plant yn gwybod bod ganddynt hawliau. Mae gennym ni i gyd hawliau o’r eiliad y cawn ein geni ac mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu gwarchod fel y gallwn fyw yn hapus heb ofn. Mae’r hawliau a roddir i ni’n dod o dan y gyfraith. Yn amlwg, mae’r gyfraith yn eithaf hir a chymhleth ac felly mae’n amhosib gwybod popeth amdani. Felly mae ein prosiect blog ‘Reading my rights’ yn ceisio sicrhau eich bod yn deall, er bod plant yn cael eu hystyried yn agored i niwed gan gymdeithas oherwydd eu hoedran a’u diffyg gwybodaeth, mae ganddynt hawliau cyfreithiol o hyd, yn yr un modd ag oedolion. Bydd y prosiect hwn yn archwilio rhai llyfrau poblogaidd i helpu i ddangos y rheolau cyfreithiol sy’n ein hamddiffyn.

Mae ambell i gyfeiriadau a allai ddifetha’r llyfr i chi yn y blog felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y llyfr yn gyntaf!

A series of unfortunate events

Mae A Series of Unfortunate Events yn gyfres o lyfrau a ysgrifennwyd gan Lemony Snicket o 1999 i 2006. Mae 13 llyfr i gyd yn yr unfortunate series ond mae’r llyfrau hefyd wedi cael eu troi’n ffilm ac, yn fwyaf diweddar, yn gyfres deledu boblogaidd ar Netflix. Mae’r llyfrau yn edrych ar fywydau’r ddwy chwaer a’r brawd Baudelaire; Violet, Klaus a Sunny. Collodd y plant eu rhieni yn ifanc ac fe’u gwnaethpwyd yn amddifad felly cawsant eu rhoi yng ngofal Iarll Olaf.

Olaf yw dihiryn y gyfres, mae’n benderfynol o ddwyn ffortiwn y plant. Mae’r llyfrau’n canolbwyntio ar y perthnasoedd y mae’r plant yn eu ffurfio ag oedolion. Caiff eu lles ei aberthu oherwydd hunanoldeb Olaf ac mae cymeriadau eraill, fel Poe, yn aml yn anwybyddu eu trafferthion. Mae Poe yn fanciwr ac ef sy’n gyfrifol am ewyllys rhieni’r plant. Nid yw byth yn gwrando’n iawn ar y plant ac mae bob amser yn credu’r oedolion eraill er nad yw’r oedolion hyn yn rhoi lles y plant yn gyntaf. Mae’n rhaid i’r plant wynebu llawer o rwystrau i ddianc o grafangau barus Olaf. A fyddai’r sefyllfa hon yn digwydd mewn bywyd go iawn? Sut y gall y plant gael eu hamddiffyn yn iawn rhag oedolyn cas fel Olaf?

Beth fydd yn digwydd os bydd eich rhieni yn marw?

Bydd gan y rhan fwyaf o rieni ewyllys. Dogfen gyfreithiol yw hon sy’n nodi eu dymuniadau ar ôl iddynt farw. Bydd y ddogfen yn nodi pwy fydd yn gofalu am eu plant. Yn yr achos hwn Iarll Olaf yw’r oedolyn y dewisodd y rhieni Baudelaire ac ef yw’r hyn a elwir yn ‘warcheidwad testamentaidd’. Mae hyn yn golygu bod ganddo hawl i ofalu am y plant.  Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw Iarll Olaf yn oedolyn addas. A fyddai’n cael gofalu amdanynt mewn bywyd go iawn?

Mae UNICEF yn dweud bod plentyndod yn amser ‘gwerthfawr’ ac felly dylai plant fod yn ‘ddiogel rhag trais ac wedi’u hamddiffyn rhag camdriniaeth’. Felly yn y DU Mae gan blant hawliau penodol ac mae’r rhain wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Yng Nghymru, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gyfraith gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi ‘sylw dyledus’ i’r CCUHP pan fydd yn deddfu.

Mae’r hawliau a fyddai’n berthnasol i blant Baudelaire yn cynnwys:

  • Erthygl 20: plant sy’n methu byw gyda’u teulu
  • Erthygl 19: Amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Erthygl 12: Parchu barn y plentyn

Yn y llyfr Iarll Olaf yw’r ‘in loco parentis’ ac mae Poe yn egluro i’r plant bod hyn yn golygu y gallai’r Iarll fagu’r plant fel y dymuna ef. Yn ôl y gyfraith gelwir hyn yn ‘gyfrifoldeb rhiant’ sy’n golygu bod yn rhaid i Olaf wneud penderfyniadau ar ran y plant.

Fodd bynnag, mae’r Iarll yn meddwl ei bod hi’n iawn iddo gam-drin y plant. Er enghraifft pan drawodd Klaus ar draws ei wyneb neu pan wnaeth ei ffrindiau fygwth Violet oni fyddai’n gwneud fel y mae Olaf yn ei ddweud y byddai’n difetha ei hwyneb del. Mewn bywyd go iawn pan na fydd plentyn yn gallu byw gyda’i deulu, rhaid i’r llywodraeth roi gwarchodaeth a chymorth arbennig iddo a rhoi’r plentyn mewn gofal parhaus, sy’n parchu diwylliant, iaith a chrefydd y plentyn. Felly ni fyddai’n briodol caniatáu i’r plant fyw gyda dyn sy’n eu cam-drin gan na fyddai hynny’n diwallu eu hanghenion.

Caiff yr hawl hon ei chryfhau gydag erthygl 19. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac athrawon roi gwybod i’r awdurdod lleol os oes ganddynt achos rhesymol dros gredu bod plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed. Gan fod plant Baudelaire yn gweithio i Iarll Olaf yn hytrach na mynd i’r ysgol, byddai hyn yn ymddangos yn od i’w hathrawon a byddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymweld â’r plant.

Ar ben hynny, o dan y ddeddf hon yn adran 21, lle yr ymddengys i’r awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn lle’r gofal a ddarperir gan deulu’r plentyn (Olaf yn yr achos hwn) rhaid i’r awdurdod asesu a oes angen gofal ar y plentyn ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Mae hyn yn golygu y byddai’r awdurdod lleol yn edrych ar anghenion plant Baudelaire ac yn archwilio eu lles. Petai achos plant Baudelaire yn achos go iawn mae’n sicr y byddai’r awdurdod lleol yn asesu nad oedd byw gydag Olaf yn dda i’w lles. Byddai’n frawychus iawn byw mewn tŷ lle mai’r unig reswm nad yw eich gwarcheidwad wedi torri bob un o’ch esgyrn yw er mwyn cael gafael ar eich arian.

Felly gall y llys ddewis dod â chyfrifoldeb rhiant Olaf i ben er mwyn amddiffyn y plant.

Eich llais

Yn y llyfr cafodd lleisiau’r plant eu hanwybyddu gan yr oedolion. Un enghraifft yw pan oedd y plant yn dymuno byw gydag Ustus Strauss, ond yn hytrach cawsant eu llusgo oddi wrth y posibilrwydd o fywyd hapus at wyneb dieithr gyda pherthynas ddieithr.

Fodd bynnag, mewn bywyd go iawn byddai llais y plant yn cael ei glywed oherwydd yn ôl erthygl 12, rhaid parchu barn y plant. Mae hyn yn golygu y dylid bod wedi ystyried dymuniad y plant i fyw gydag Ustus Strauss.

Enghraifft arall o beidio â gwrando ar lais y plant yw pan mae Violet yn cael ei gorfodi i briodi Iarll Olaf. Mae’r llyfr yn dangos sut y gellir defnyddio bwlch yn y gyfraith i ganiatáu priodasau dan orfod. Yn y DU, ni chewch briodi nes eich bod yn 18 oed ond gallwch briodi yn 16 oed gyda chydsyniad rhiant. Yn yr achos hwn Olaf oedd rhiant Violet felly gallai roi caniatâd ar ei rhan. Yn ffodus, mewn bywyd go iawn, ni fyddai hyn yn digwydd. Y rheswm am hyn yw gan fod gennym Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn gorfodi rhywun i briodi, gan gynnwys plentyn, y gallwch wynebu carchar am hyd at saith mlynedd. Mae hyn yn amddiffyn yn erbyn priodasau plant.

Er bod y Baudelaires wedi cael eu cam-drin yn greulon, dylai fod yn gysur gwybod y byddai eu hawliau’n cael eu hamddiffyn mewn bywyd go iawn. Er bod y fframwaith cyfreithiol yno i’n diogelu nid oes llawer o blant yn gwybod beth yw eu hawliau. Yn 2022 mae’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru yn mynd i gael ei ddiwygio ac yn ôl adroddiad gan yr Amddiffynwyr Hawliau Dynol Plant yn 2018, y gobaith yw y bydd y cwricwlwm yn cynnwys mwy o hawliau dynol plant. Gobeithio y gall y prosiect hwn helpu gyda hyn.

Chwiliwch am fwy o flogiau yn y gyfres ‘Darllen Fy Hawliau’.

Fy enw i yw Istarin McVicar, rwy’n un o raddedigion y gyfraith o Brifysgol Caerwysg ac rwyf ar hyn o bryd yn astudio cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio dod yn gyfreithiwr er nad wyf yn siŵr ym mha faes yr hoffwn weithio eto. Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerwysg, gwirfoddolais fel rhan o grŵp o fyfyrwyr i archwilio achosion troseddol a gweld a oedd unrhyw gyfle i apelio. O’m profiadau i, rwyf wedi deall pa mor bwysig yw hi i bawb gael gwybod beth yw eu hawliau, a dyna pam yr wyf mor falch o fod yn rhan o’r prosiect ‘Reading my Rights’. Yn ogystal â mwynhau darllen, rwyf hefyd yn mynd i ddosbarthiadau zumba ac rwy’n hoffi syrffio weithiau, pan mae’r tywydd yn braf.

 

 

 

Gadael Ymateb