Ein cefndir
Tyfodd Canolfan Gyfreithiol y Plant o waith yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant. Mae’r Arsyllfa’n gweithio ar wreiddio hawliau drwy newid sefydliadol a strategol, ac ar ddulliau o rymuso plant i gynnal ymchwil, ac mae’n hybu atebolrwydd i blant. Roedd Tîm yr Arsyllfa yn rhan ganolog o gynnig cyngor arbenigol a arweiniodd at wneud Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn gyfraith yn 2011. Ond er gwaethaf fframwaith polisi a deddfwriaethol blaengar Cymru ar hawliau plant, ni oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â chael canolfan gyfreithiol i blant! Drwy ymchwil fel rhan o waith adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a hefyd ein hymchwil ein hunain, fe wnaethom ddysgu nad oedd digon o wybodaeth, cyngor a chymorth cyfreithiol ar gael i’r cyhoedd, yn enwedig i blant ar y gyfraith yng Nghymru.
Yn 2016, gyda chymorth Sefydliad Paul Hamlyn a gwaith maes ar y cyd â llawer o bobl a sefydliadau, cafodd Canolfan Gyfreithiol y Plant ei lansio i fynd i’r afael â’r angen hwn.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn darparu cyngor a gwybodaeth gyfreithiol ddwyieithog ar-lein i blant ledled Cymru. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth am y gyfraith fel y mae’n effeithio ar blant yng Nghymru, ac yn rhedeg rhaglen addysg. Tîm bach ydyn ni, felly ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol yn uniongyrchol i aelodau o’r cyhoedd ar hyn o bryd. Ond rydyn ni’n gallu cyfeirio plant a’u rhieni at Glinig y Gyfraith Abertawe a’n partneriaid cyfreithiol uchel eu parch. Rydyn ni’n cefnogi achosion ymgyfreitha strategol ac eiriolaeth polisi. Ewch i’n gwefan i weld ein prif alwadau am newid i blant ac i gael rhagor o wybodaeth.
Ein cefnogwyr
Rydyn ni mor ddiolchgar am gefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn, Sefydliad Esmee Fairbairn, y Sefydliad Addysg Gyfreithiol a’r Rhwydwaith Ymchwil Addysg Gyfreithiol, ac am gefnogaeth barhaus Prifysgol Abertawe sy’n ariannu ein gwaith. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth pro-bono y cyfreithwyr gwych ar ein Rhwydwaith Cyfreithwyr dros Blant Cymru Gyfan a’n haelodau gwych ar Grŵp Ymgyfreitha Strategol Hawliau Plant Cymru Gyfan. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion cyfraith eraill, cyfreithwyr ac arweinwyr polisi, yn ogystal ag unrhyw un sydd am wireddu hawliau dynol plant a gwneud y gyfraith yn hygyrch i blant. Cysylltwch â ni os hoffech chi fod yn rhan o’n rhwydwaith cynyddol o gefnogwyr neu os byddech chi’n elwa ar unrhyw un o’n gwasanaethau.