Perthnasoedd
- Mae eich perthnasoedd fel arfer yn fater preifat – ond mae eich hawliau yno i’ch diogelu os ydych yn mynd i drafferth
- O oedran ifanc iawn, byddwch yn tyfu perthnasoedd gyda llawer o wahanol bobl
- Gall berthnasoedd fod yn gymleth, a dylech allu gofyn am help os ydych yn teimlo fod pethau yn anodd
Mae gennych berthnasoedd â llawer o wahanol bobl – eich rhieni, athrawon, ac oedolion eraill, eich ffrindiau, plant a phobl ifanc eraill yn yr ysgol ac yn ble bynnag rydych yn byw. Wrth i ni fynd yn hŷn, mae ein perthnasoedd yn mynd yn fwy cymhleth ac weithiau gall fod yn anodd gwybod ble rydym yn sefyll, a beth sy’n iawn a beth sy’n anghywir. . Efallai y byddwn yn teimlo’n ansicr ynghylch ein rhywioldeb neu gallwn gael ein twyllo i ymddwyn mewn ffyrdd nad ydym eisiau ac weithiau gallwn gael ein brifo. Drwy wybod beth yw eich hawliau a deall beth sy’n dderbyniol a beth sy’n annerbyniol mewn sefyllfaoedd gwahanol, boed yn berthynas â’ch rhieni a’ch teulu, â’ch ffrindiau neu ag oedolion eraill, gall hynny roi’r hyder i chi fod yn chi eich hun a datblygu perthnasoedd iach.
Darllen ein blog a newyddion
‘Secstio’ a Chyfryngau Cymdeithasol – Darllen fy hawliau
Rwyf wedi darllen llyfr o’r enw The Best Possible Answer gan Katherine Kottaras, sy’n nofel ar gyfer oedolion ifanc. Er mai ffuglen yw’r llyfr, mae’r prif gymeriad Viviana yn canfod ei hun mewn sefyllfa fodern, sy’n real ac yn frawychus iawn. Pan fyddwch rhwng 13 a 17...
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.