Mae’r Gyfraith yn Wahanol yng Nghymru
Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn aml yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr.
Mae hyn oherwydd bod llywodraeth y DU wedi rhoi pŵer i’r Senedd (ac i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon) i wneud rhai o’i deddfau ei hun. Mae’r gyfraith yn arbennig o wahanol mewn llawer o’r meysydd sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hefyd yn wahanol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Prosiect bach yw Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Mae’n ddrwg iawn gennym ond ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol i aelodau o’r cyhoedd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw cefnogi achosion ymgyfreitha strategol, darparu gwybodaeth am y Gyfraith fel y mae’n effeithio ar blant yng Nghymru, a rhedeg rhaglen addysg. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2021