Gwaharddiadau o Ysgolion

Ein prif alwadau am newid:

  • Terfynu’r defnydd o waharddiadau o ysgolion yn y cynradd nawr.
  • Terfynu’r defnydd o waharddiadau o ysgolion uwchradd, gan sicrhau yn y cyfamser eu bod yn cael eu defnyddio fel y dewis olaf absoliwt ac nad ydynt fyth o natur gwahaniaethol.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Mae gwaharddiadau o ysgolion yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o blant:

  • plant o gefndiroedd tlotach,
  • plant sy’n derbyn gofal,
  • plant sydd â phroblemau iechyd meddwl,
  • plant sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol,
  • plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • plant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol penodol.

 

Mae plant sy’n cael eu gwahardd mewn mwy o berygl o ddioddef salwch corfforol a meddyliol, digartrefedd a throseddu ieuenctid.  Mae gwaharddiadau o ysgolion yn destun pryder cynyddol yng Nghymru.  Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2021/22 yn dangos y gyfradd gofnodedig uchaf o waharddiadau o ysgolion er 2013, ar draws pob math o waharddiad:  parhaol, cyfnod penodol (dros 5 diwrnod), a chyfnod penodol (5 diwrnod neu lai) (Llywodraeth Cymru, 2023).  Gwelwyd y gyfradd waharddiadau yn lleihau yn ystod y pandemig (2019/20 a 2020/21).  Yn dilyn y pandemig, yn 2021/22, gwelwyd cyfraddau pob math o waharddiadau yn codi ac yn mynd y tu hwnt i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

Gallwch droi at ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru ynghylch gwaharddiadau o ysgolion yma a’r fersiwn Addas i Blant yma.

Mae CGPC yn gweithio gyda phartneriaid i roi’r gorau i ddefnyddio gwaharddiadau mewn ysgolion cynradd.  Rydym yn falch o weld, yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r Arsylwadau i Gloi 2023, eu bod, fel cam cyntaf, yn ystyried cyfyngu ar bwerau penaethiaid/athrawon sy’n gyfrifol am reoli Unedau Cyfeirio Disgyblion i wahardd plant cynradd.

Mae CGPC hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i derfynu’r defnydd o waharddiadau anghyfreithlon a gwahaniaethol o ysgolion, ac rydym yn falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei chanllawiau mewn perthynas â phlant sydd â nodweddion gwarchodedig.  Byddwn hefyd yn parhau i weithio ar hyrwyddo’r ffaith bod canllawiau ynghylch gwaharddiadau o ysgolion yn ymwreiddio Dull Gweithredu Hawliau Plant.

Mae CGPC yn atgyfeirio rhieni/gofalwyr a phlant i’n partneriaid cyfreithiol uchel eu parch os ceir tystiolaeth o’r ffaith bod plentyn yn wynebu gwaharddiad anghyfreithlon neu wahaniaethol.  Fel rhan o’r prosiect ymgyfreitha strategol a’r bartneriaeth gyda Phrosiect Hawl i Addysg EYST, rydym yn dymuno nodi achosion a fydd yn cael effaith strategol ehangach i blant yng Nghymru.

Estynnodd EYST wahoddiad i Dr Rhian Croke ysgrifennu ymateb i’w hadroddiad am brofiadau plant o leiafrifoedd ethnig o waharddiadau o ysgolion, gan ddefnyddio Dull Gweithredu Hawliau Plant.  Cyhoeddwyd ei blog fel rhan o gyfres o flogiau ehangach yn gwahodd myfyrdodau am gyrff cyhoeddus sy’n ymwreiddio Dull Gweithredu Hawliau Plant mewn sefyllfaoedd go iawn.

BLOG

Defnyddio Dull Hawliau Plant tuag at Addysg:  myfyrio am hiliaeth a gwaharddiadau o ysgolion a brofir gan Blant o Leiafrifoedd Ethnig

YMATEB I YMGYNGHORIAD

Ymchwiliad Ar Goll ar yr Ymylon Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd