Gartref
- Mae gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn lawer i’w ddweud am eich hawl i fod gartref ac i fyw gyda’ch teulu
- Yng Nghymru, os oes angen help ar eich teulu i ofalu amdanoch, fe ddylai gael yr help hwnnw
- Os nad yw eich rhieni’n gofalu amdanoch yn iawn, fe ddylech gael eich diogelu
Rydych yn treulio llawer o amser gartref. I’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc mae’n lle diogel, ond weithiau dyw pethau ddim cystal â hynny. Efallai nad ydych yn cyd-dynnu â’r bobl rydych yn byw gyda nhw, neu efallai fod rhywun yn gwneud i chi deimlo’n anniogel. Does dim ots beth yw eich cefndir nac o ble rydych wedi dod. Os ydych yn byw yng Nghymru, mae gennych hawliau i wneud yn siŵr eich bod yn cael digon o ofal gartref. Os nad ydych yn cael digon o ofal gartref, neu os oes rhywbeth arall wedi digwydd sy’n golygu na allwch fyw gartref, mae gennych hawliau i’ch diogelu.
Darllen ein blog a newyddion
Anghydfodau ynglŷn â Gwarchodaeth yn ‘The Suitcase Kid’
Helo bawb! Gobeithio eich bod yn iach ac yn gwneud y gorau o’r haf er gwaetha’r amgylchiadau anodd diweddar. Yn gyntaf mi hoffwn ddiolch i chi am gymryd amser i ddarllen y blog hwn rwyf wedi’i ysgrifennu. Mae’n ymwneud â sawl mater sy’n agos iawn at fy nghalon ac...
Sut i gael help os ydych yn Ofalwr Ifanc fel Katniss Everdeen
The Hunger Games, gan Suzanne Collins, yw un o’r llyfrau mwyaf llwyddiannus erioed a masnachfraint ffilm fwyaf proffidiol y 21ain ganrif. Mae’n dilyn stori Katniss Everdeen, sy’n enwebu ei hun fel Tribute pan mae ei chwaer, Prim, yn cael ei dewis i gystadlu yn yr...
Smacio plant yng Nghymru – pam bydd y gyfraith yn wahanol i Loegr cyn bo hir?
Cyn bo hir bydd smacio plant yng Nghymru yn cael ei wahardd (o 2022 ymlaen). Efallai eich bod wedi gweld hyn ar y newyddion yn gynharach eleni pan gyhoeddwyd y newid hwn yn y gyfraith yng Nghymru. Felly pam bod y gyfraith yn newid yng Nghymru a pha wahaniaeth fydd hyn...