Mae The Boy in the dress gan David Walliams yn llyfr gwych. Mae’n dilyn hanes of Dennis, bachgen ifanc sy’n mwynhau pêl droed a rhaglenni teledu yn ystod y dydd ac sydd ar ôl cyfres o ddigwyddiadau, yn sylweddoli ei fod yn hoffi gwisgo ffrogiau. Mae ei ffrind yn ddigon ddewr i’w berswadio i wisgo ffrog i fynd i’r ysgol, ond mae hynny’n achosi iddo gael ei wahardd o’r ysgol ac i golli ei le yn y tîm pêl droed a hwythau ar fin chwarae yn y ffeinal. Nid oedd Dennis wedi gwneud dim byd o’i le heblaw am fynegi ei hun, a’i hunaniaeth, a chafodd ei gosbi’n hallt am hynny. Ni ddylai hyn ddigwydd i chi, nac i neb arall.

Mae dau reswm pam na ddylai hyn fod wedi digwydd. Yn gyntaf, yr unig beth roedd Dennis yn ei wneud oedd yr hyn oedd yn gwneud iddo deimlo’n gyfforddus. Yn ail, yng Nghymru, mae credoau, hunaniaeth a barn plant i gyd yn cael eu diogelu. Mae gan bob un plentyn yr hawl i fod y sawl maent yn dewis bod! Mae hyn wedi’i ddatgan yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n berthnasol i bawb o dan 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddilyn y Siarter hon, felly os byddai Dennis yn byw yng Nghymru yna mae erthyglau yn y Siarter hon y dylai wybod amdanynt.

Pa Hawliau sydd gen i?

Y rhan gyntaf o’r Siarter y dylech wybod amdani yw Erthygl 8, sy’n dweud bod gan bob plentyn hawl i’w hunaniaeth ei hun. Mae hyn yn golygu waeth pwy bynnag ydych chi, beth yw eich crefydd neu, fel Dennis, pa ddillad rydych yn eu gwisgo, dylech gael eich parchu!  Ac na ellir newid dim byd sy’n gysylltiedig â chi, fel eich enw, eich cenedligrwydd na’ch perthnasoedd heb eich bod chi eisiau iddynt gael eu newid. Dylai Llywodraeth Cymru warchod y pethau hyn, a phe bai Dennis yn byw yng Nghymru, ni ddylai fod wedi cael unrhyw broblem.

Yn ail, mae Erthygl 12 yn dweud bod gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu hun. Yr unig beth mae Dennis yn ei wneud yn y llyfr yw mynegi ei hun a bod y person mae’n teimlo ei fod. Roedd yr ysgol yn anghywir wrth wahardd am hyn, ac ni fyddai hyn wedi digwydd yng Nghymru gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r hawliau hyn!

Yn olaf, mae Erthygl 28 o’r Siarter yn dweud bod gan blant a phobl ifanc hawl i addysg, pwy bynnag ydynt. Mae hyn yn golygu beth bynnag yw eich hil, rhyw, neu anabledd, mae gennych yr un hawl i addysg â phawb arall. Os nad ydych yn meddwl eich bod yn cael yr un addysg â’ch cyd-fyfyrwyr, yna dylech siarad â rhywun am y peth, gan na ddylai fod yn wahanol o gwbl.

Beth am y gyfraith?

Yn olaf, mae’n bwysig eich bod yn gwybod am Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hon yn enwi 9 o nodweddion gwarchodedig, ac os bydd rhywun yn gwneud rhywbeth i chi oherwydd bod gennych un o’r nodweddion hyn, yna byddant wedi troseddu. Y nodweddion yw Oedran, Anabledd, Beichiogrwydd, Hil, Crefydd, Rhyw, Hunaniaeth Rywiol a Rhywedd. Efallai nad oedd Dennis yn dod o fewn dim un o’r categorïau hyn am ei fod wedi cael ei wahardd o’r ysgol am yr hyn roedd yn ei wisgo yn hytrach na phwy oedd o. Ond mae’n bwysig gwybod bod gennych yr hawl yng Nghymru a’ch bod yn cael eich amddiffyn i fod eich hunan ac na ddylai neb ddweud yn wahanol wrthych. Os byddant, rydych yn gwybod eu bod yn anghywir a bod help ar gael. Gall camau yn erbyn y nodweddion hyn fod ar unrhyw ffurf, felly os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth yn bod, siaradwch â’ch rhieni, eich athrawon neu cysylltwch â Chanolfan Gyfreithiol Cymru am help.

Yn ffodus i Dennis, mae ei dîm pêl droed yn ei synnu pan maent yn gwisgo ffrogiau pan fyddant yn chwarae yn y ffeinal, ac mae’r pennaeth mor flin fel bod yn rhaid iddo adael i Dennis chwarae a dychwelyd i’r ysgol, felly mae diweddglo hapus i’r stori,. Ond os ydych chi’n cael problemau fel Dennis, rwyf yn gobeithio y bydd diweddglo hapus yn aros amdanoch chi hefyd.

Os ydych chi’n cael problemau oherwydd pwy ydych chi, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod eich bod yn cael eich amddiffyn a bod help ar gael i chi. Mae digonedd o hawliau a chyfreithiau i’ch diogelu yng Nghymru. Cewch ragor o wybodaeth yn childrenslegalcentre.wales/cy/hafan/

Ysgrifennwyd gan Laurence Cooper, myfyriwr y gyfraith yn ei drydedd flwyddyn, cynrychiolydd myfyrwyr a Llywydd Cymdeithas Ddadlau’r Gyfraith Feddygol.