Dwi’n siŵr bod pawb yn gyfarwydd â chwedlau tylwyth teg. “Un tro”, “pawb yn byw yn hapus am byth”, ydy hynny’n canu cloch? Ro’n i’n meddwl y byddai. Er mai gwir gariad a hapusrwydd i’n harwyr hoff ydy diwedd y storïau hyn fel arfer, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod eu taith hyd at y cam hwnnw’n llawn anobaith a thristwch yn aml iawn. Mae’r storïau hyn yn gallu dangos enghreifftiau clir o rywun yn cael ei drin yn wael, ac enghreifftiau y byddet ti’n gallu eu profi yn dy fywyd di. Mae’n bwysig gwybod sut byddai’r gyfraith yng Nghymru yn dy warchod di os byddet ti mewn sefyllfaoedd tebyg rywbryd, ac mae llyfrau’n gallu ein helpu ni i ddeall. Beth am i ni ganolbwyntio ar stori Sinderela, a gafodd ei haddasu gan Charles Perrault a’r Brodyr Grimm.

Hanes merch ifanc a oedd wedi profi tristwch mawr ydy Sinderela. Bu farw ei mam, ac fe briododd ei thad â menyw arall. Wel, mae’n deg dweud bod y gwir sefyllfa wedi dod yn glir yn gyflym iawn, gyda natur wirioneddol erchyll llysfam newydd Sinderela yn dod i’r amlwg. I wneud pethau’n waeth, daeth y llysfam ddieflig â’i dwy ferch annifyr gyda hi, a oedd yn debyg iawn i’w mam. Roedd Sinderela wedi’i hamgylchynu gan aelodau ei theulu creulon, a oedd yn ei thrin yn ofnadwy ac yn annheg. Yna, daeth tro ar fyd.

Dydyn ni ddim am fynd dros ben llestri gyda’r hud a lledrith sy’n digwydd wrth i’r stori ddatblygu – rydyn ni am roi sylw i fywyd Sinderela yn y cartref. Roedd Sinderela yn cael ei gorfodi i weithio drwy’r dydd a drwy’r nos. Roedd hi’n glanhau, yn sgwrio ac yn cysgu ar wely o wellt ar y llawr. Heb ddim dillad heblaw am hen bethau budr blêr a dim rhyddid, mae’n amlwg ei bod hi wedi cael ei hesgeuluso. Hefyd, mae ei llyschwiorydd annifyr yn ei bwlio ac yn gwneud hwyl am ei phen. Er nad ydych chi’n gweld rhywun yn cael ei gam-drin yn emosiynol, a’r niwed seicolegol mae hynny’n ei achosi, mae’r peth yr un mor real i’r person sydd yn y sefyllfa.

Roedd Sinderela yn anhapus iawn. Doedd hi ddim am fentro cwyno wrth ei thad, ac felly, ni chafodd unrhyw help. Ni ddylai neb orfod dioddef y math o fywyd a gafodd y greadures yma. Os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi cael dy drin fel mae Sinderela wedi cael ei thrin, efallai dy fod ti eisiau dysgu am dy hawliau.

Beth i’w wneud os wyt ti’n cael dy esgeuluso a/neu dy gam-drin yn emosiynol yn y cartref?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), sydd wedi cael ei lofnodi gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi hawliau i blant. Yng Nghymru, mae UNCRC yn rhan o Gyfraith Cymru, o dan hawliau Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried hawliau plant o dan UNCRC wrth greu deddfau newydd.

Mae rhai plant yn gwybod y byddan nhw’n ddiogel yn y cartref. I blant eraill, fel Sinderela, dydy hynny ddim yn wir. Mae Erthygl 9 (UNCRC) yn dweud bod gen ti’r hawl i fyw gyda dy rieni ac i beidio â chael dy wahanu oddi wrthyn nhw, ar yr amod dy fod ti’n cael gofal priodol. Os wyt ti’n cael dy esgeuluso neu dy gam-drin mewn unrhyw ffordd, dydy hynny ddim yn lefel dderbyniol o ofal. Os ydy hynny’n digwydd i ti, mae ’na bobl a sefydliadau sy’n gallu dy helpu di. Fe alli di siarad ag oedolyn arall, fel dy athrawon, a fydd yn gwneud eu gorau i dy amddiffyn di.

Fel mae Erthygl 19 (UNCRC) yn dweud, dwyt ti ddim i fod i gael niwed, ac rwyt ti i fod i gael gofal a chael dy gadw’n ddiogel. Os bydd dy athrawon di’n meddwl neu’n cael gwybod dy fod ti’n cael dy gam-drin, bydd yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r awdurdod lleol. Mae Adran 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud bod athrawon a gweithwyr iechyd a chymdeithasol proffesiynol yn gorfod rhoi gwybod i’r awdurdod lleol os oes ganddyn nhw achos rhesymol dros feddwl bod plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu gael niwed mewn rhyw ffordd arall. Mewn geiriau eraill, mae’r gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid iddyn nhw riportio hynny!

Os oes pryder ynghylch y gofal rwyt ti’n ei gael, mae gan dîm amddiffyn plant yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i’r sefyllfa. Os oes plentyn mewn perygl ar yr union foment honno, mae’r awdurdod lleol yn gallu mynd drwy’r llysoedd i dynnu’r plentyn o gartref y person sy’n ei gam-drin, a mynd â’r plentyn i rywle lle bydd yn ddiogel. Os nad ydy’r plentyn mewn perygl ar yr union foment honno, bydd anghenion y plentyn yn cael eu hasesu i ddechrau. O dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol i asesu anghenion plentyn os ydy hi’n edrych yn debyg bod angen mwy o gefnogaeth ar y plentyn na’r hyn mae’r teulu’n ei ddarparu. Os ydy hi’n edrych yn debyg bod plentyn yn cael ei niweidio’n sylweddol neu mewn perygl o hynny, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymchwilio o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

Felly, drwy ofyn am help, mae’n bosib y byddai dy rieni di’n cael gwell cefnogaeth i ofalu amdanat ti, neu mae’n bosib y byddet ti’n cael gofalwr mwy addas am gyfnod. Bydd hyn yn dibynnu ar dy amgylchiadau di. Yn ystod y broses yma, mae gen ti hawliau sy’n gwarchod dy farn di a dy lais di. Beth sydd orau i ti ydy’r flaenoriaeth bob amser. Mae Erthygl 12 (UNCRC) yn gwarchod dy hawl i ddweud beth wyt ti’n meddwl ddylai ddigwydd, ac fe ddylai pobl wrando arnat ti. Mae’n bwysig cofio hynny; fydd dy farn di ddim yn cael ei hanwybyddu!

Mae’n amlwg yn stori Sinderela nad oedd ganddi safon byw uchel. Doedd ganddi hi ddim dillad addas, dim maeth na gwely i gysgu. Mae gan bob plentyn hawl i gael safon byw uchel, o dan Erthygl 27 (UNCRC). Mae dy ddatblygiad di’n bwysig iawn, ac felly fe ddylet ti gael amodau byw diogel.

Os wyt ti, fel Sinderela, yn cael niwed seicolegol, neu os wyt ti’n cael niwed corfforol drwy gael dy gam-drin yn emosiynol, mae gen ti hawl o dan Erthygl 39 (UNCRC) i gael help arbennig er mwyn gwella pethau. Mae’r hawl yma’n berthnasol i unrhyw fath o esgeuluso, neu driniaeth neu gosb sy’n gwneud i ti deimlo’n ddrwg amdanat ti dy hun. Mae unrhyw fath o gam-drin yn annerbyniol, ac mae gen ti hawl i gael dy warchod rhag hyn, ac i gael help i ddod dros unrhyw brofiadau o’r fath.

Crynodeb

Er bod y blog yma’n sôn am themâu annymunol, mae’r sefyllfaoedd yma’n gallu digwydd mewn bywyd go iawn, ac fe ddylai pawb fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Rydyn ni i gyd yn bobl, ac mae’r gyfraith yno i helpu i warchod pawb, plant ac oedolion.

Os nad wyt ti’n gwybod beth sy’n digwydd nesaf i Sinderela, dal ati i ddarllen. Mae’r stori oesol yma yn ein hatgoffa ni y bydd calon fawr yn llwyddo yn y diwedd.

Kaitlin Markey ydw i, a dwi wedi ennill gradd LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar. Dwi’n gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus ond, yn y cyfamser, dwi’n mwynhau gwirfoddoli pan fydda i’n gallu. Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i wrth fy modd yn darllen llyfrau Harry Potter (a dwi’n dal i’w mwynhau!), ond fy hoff awduron i oedd Jacqueline Wilson a Cathy Cassidy.