Siopau a Gwasanaethau
- Nid yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ymdrin yn benodol â siopau a gwasanaethau, ond dylai eich hawliau cyffredinol eich diogelu os cewch eich trin yn anheg
- Rydych hefyd yn cael eich diogelu fel ‘defnyddiwr’ – rhywun sydd yn defnyddio gwasanaeth neu prynu eitem – gan gyfraith y DU
- Efallai y gwelwch nad oes hawl gennych i wneud rhywbeth, brynu rhai pethau. Gall y cyfyngiadau yma eu rhoi mewn cyfraith sydd wedi eu dylunio i ddiogelu chi a’r cyhoedd
Byddwch yn defnyddio gwasanaethau ac yn mynd i mewn i siopau o oedran ifanc iawn. Mae gwasanaethau’n cynnwys pethau fel mynd i nofio neu i’r sinema, yn ogystal â phethau fel gwasanaethau iechyd neu’r llyfrgell. I ddechrau, byddwch gyda’ch rhieni neu pwy bynnag sy’n gofalu amdanoch. Wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn dechrau defnyddio gwasanaethau a mynd i’r siopau i brynu pethau ar eich pen eich hun. Os cewch eich trin yn wahanol ac yn annheg am ryw reswm, efallai y bydd eich hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o gymorth i chi. Fe ddylech allu prynu nwyddau a defnyddio gwasanaethau yn union fel pawb arall, heb i neb wahaniaethu yn eich erbyn.
Os nad oes rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, ond eich bod wedi talu am rywbeth sydd ddim beth oeddech chi ei eisiau, neu sydd wedi torri, mae gennych hawliau hefyd – fel ‘defnyddiwr’ – i ddychwelyd yr eitem rydych wedi’i brynu a chael eich arian yn ôl. Os ydych chi wedi talu am wasanaeth sydd ddim cystal ag y dylai fod, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael eich arian yn ôl am hynny hefyd.
Darllen ein blog a newyddion
Chwalu’r Rhwystrau rhag mynediad yn y gymuned
Dydi mynediad yn y gymuned ddim yn syml bob tro ... Dychmygwch hyn: Rydych chi wedi penderfynu eich bod chi eisiau gweld rhai o’ch ffrindiau, rydych chi wedi gweithio allan beth i’w wneud, ble rydych chi am gwrdd â nhw, a sut rydych chi'n mynd i gyrraedd. Rydych chi'n...