Arsylwadau i Gloi Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn

Ein prif alwadau am newid:

  • Gwaith monitro ac adrodd cadarn parhaus am gynnydd (neu ddiffyg cynnydd) Arsylwadau i Gloi Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn 2023
  • Llywodraeth Cymru a chyflawnwyr dyletswyddau allweddol eraill yn rhoi sylw i argymhellion Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Mae Dr Rhian Croke yn aelod gweithredol o Grŵp Monitro CCUHP Cymru, sy’n dwyn ynghyd tystiolaeth am y cynnydd (neu’r diffyg cynnydd) ar hawliau plant yng Nghymru, ac yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn.

Cyflwynom dystiolaeth am y meysydd canlynol yn 2022-23:

  • Mesurau Gweithredu Cyffredinol,
  • Noeth-chwiliadau o Blant,
  • Gorchmynion Amddifadu o Ryddid,
  • Ymwelwyr Annibynnol
  • Ceiswyr Lloches Ifanc
  • Cyfiawnder Ieuenctid

Mynychodd Dr Croke y gwrandawiad cyn-sesiynol yn Genefa ar 6 Chwefror 2023, gyda’i chydweithiwr Sean O’ Neill o Blant yng Nghymru, ar ran Grŵp Monitro CCUHP Cymru, gan arsylwi archwiliad parti Gwladwriaeth y DU ar 18 ac 19 Mai.  Bu hwn yn gyfle i wthio am newid ynghylch hawliau plant gyda chynghreiriau hawliau plant eraill y DU, Comisiynwyr Plant, Sefydliadau Hawliau Dynol Annibynnol a sefydliadau a arweinir gan blant o bob cwr o’r DU.

Estynnwyd gwahoddiad i Dr Croke gyflwyno am Adroddiad Amgen NGO Cymru a’i myfyrdodau am y gwrandawiad cyn-sesiynol yn Genefa, yn ystod gweminar a gynhaliwyd gan Blant yng Nghymru i bobl ar draws Cymru.

Rydym yn falch iawn bod Arsylwadau i Gloi 2023 Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn adlewyrchu’r dystiolaeth a gyflwynom.  Mae Dr Croke wedi ysgrifennu blog defnyddiol sy’n esbonio’r broses ac sy’n rhoi crynodeb o’r Arsylwadau.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r Arsylwadau i Gloi ym mis Gorffennaf 2023.  Gallwch weld ei hymateb yma a fersiwn i bobl ifanc yma.

BLOG

Arsylwadau i Gloi 2023 Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn.