Gan Alex Davies

Y llyfr diweddaraf rydym yn rhoi sylw iddo yng nghyfres ‘Darllen fy Hawliau’ yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant yw ‘Lies we Tell Ourselves’ gan Robin Talley. Cyrhaeddodd y llyfr y rhestr fer ar gyfer Medal Carnegie ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel “Nofel deimladwy a phwysig i oedolion ifanc” gan y Daily Telegraph.

Wedi’i gosod yng nghanol yr ugeinfed ganrif yn America, pan oedd y frwydr dros hawliau sifil i’r gymuned Affricanaidd Americanaidd yn ffyrnig. Mae ‘Lies we tell ourselves’ yn nofel sy’n archwilio’r hawliau dynol sylfaenol sydd gan bawb, waeth o ble maen nhw’n dod neu liw eu croen. Yn y blog hwn, rwyf wedi tynnu sylw at ddiffyg parch rhai o gymeriadau’r nofel at hawliau dynol a lle byddai’r gyfraith yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn amddiffyn rhag hyn petai’n digwydd heddiw.

Os ydych chi’n ystyried darllen ‘Lies we tell ourselves’, neu am ei roi i rywun fel anrheg, mae’n syniad da i chi wybod bod y llyfr yn addas i oedolion ifanc, ond mae’n cynnwys iaith gignoeth sy’n cyd-fynd â’r cyfnod y mae’r stori wedi’i gosod ynddo, ac yn pwysleisio sefyllfa ddybryd y digwyddiadau. Cynghorir y darllenwyr i ddefnyddio eu doethineb!

 

Sut mae CCUHP yn gweithio yn y DU:

Mae’r hawliau allweddol sy’n bwysig yn y llyfr hwn wedi’u cynnwys yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, neu fel y’i gelwir yn fwy cyffredin, CCUHP.

Nid yw CCUHP yn dod â’r DU at ei gilydd, ond mae’n gosod rhwymedigaethau ar y wladwriaeth, er enghraifft, Cymru neu Loegr, i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu diogelu. Mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bwerau i lunio cyfreithiau sy’n gallu gwneud yr hawliau o dan CCUHP yn realiti. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori CCUHP mewn cyfraith – Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.  Mae hyn yn gorfodi Llywodraeth Cymru i ystyried CCUHP wrth lunio cyfreithiau.  Nid yw gweddill y DU wedi dilyn ei esiampl ond mae wedi cyhoeddi deddfwriaeth a ddylai ddiogelu hawliau plant

Mae’r materion sy’n cael eu codi yn Lies We Tell Ourselves yn cael eu cynnwys dan gyfreithiau a gaiff eu llunio gan y DU – cyfreithiau sy’n ymdrin â gwahaniaethu, troseddau casineb, rhyddid crefyddol, mynediad at gyfiawnder.

 

Defnydd o Eiriau Hiliol:

Mae’r cymeriadau Cawcasaidd yn defnyddio rhegfeydd drwy’r nofel i ddisgrifio lliw croen y cymeriadau Affricanaidd Americanaidd. Mae hyn yn frawychus iawn i ni heddiw mewn cymdeithas lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn pawb, waeth beth fo’u hil, cenedligrwydd, lliw eu croen, rhywioldeb ac ati, ond mae’r stori wedi’i gosod yn ystod y frwydr am hawliau sifil pan oedd iaith fel hon yn cael ei defnyddio’n rheolaidd i ddychryn y  gymuned Affricanaidd Americanaidd yn America.

Our blog looks at legal issues in the young adult novel The Lies we Tell OurselvesYn ogystal â bod yn frawychus, mae defnyddio rhegfeydd i ddisgrifio nodweddion personol rhywun megis lliw ei groen, yn wahaniaethu, sef rhywbeth nad yw CCUHP yn ei ganiatáu.

Yr erthyglau CCUHP a fyddai’n debygol o gael eu galw i rym am ddefnyddio geiriau hiliol yn erbyn plant fyddai Erthygl 2, Erthygl 8 ac Erthygl 19. Mae Erthygl 2 o CCUHP yn ymwneud â pheidio â gwahaniaethu yn erbyn y plentyn. Mae’r defnyddio rhegfeydd yn fath o wahaniaethu gan ei fod yn gosod yr Americanwyr Affricanaidd ar wahân i’r bobl Cawcasaidd yn y stori.

Mae Erthygl 8 o CCUHP yn ymwneud â diogelu a chadw hunaniaeth y plentyn. Drwy ganiatáu defnyddio iaith hiliol nid oedd llywodraeth America yn helpu i ddiogelu hunaniaeth unigolion Affricanaidd Americanaidd yn ystod y cyfnod hwn o hanes.

Mae Erthygl 19 o CCUHP yn ymwneud ag amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae defnyddio geiriau hiliol yn fath o gam-drin ac ychydig iawn sy’n cael ei wneud gan yr ysgol neu’r llywodraeth i amddiffyn y plant hyn rhag y math hwn o gam-drin. Thema gyffredin drwy gydol y nofel hefyd yw bod y cymeriadau Affricanaidd Americanaidd yn dioddef gweithredoedd treisgar. Mae Chuck yn cael ei anfon i’r ysbyty ar ôl i Bo ei guro oherwydd lliw ei groen.

O ran y gyfraith yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pawb rhag gwahaniaethu.  Byddai’r trais a’r gamdriniaeth a ddioddefodd y myfyrwyr Affricanaidd Americanaidd yn y llyfr hefyd yn cael eu hystyried fel ‘troseddau casineb’ o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

Mae’r llyfr yn dangos i’r darllenydd y dylai pawb barchu ei gilydd am lawer o resymau. Nid yw gwahaniaethu’n chwarae unrhyw ran mewn cymdeithas weithredol ac mae’r llyfr hwn yn cyfleu’r neges hon yn glir. Caiff hyn ei gyfleu wrth i Linda yn dod yn agos at Sarah ym mhenodau diweddarach y llyfr.

 

Chuck yn cael ei guro gan Bo:

Yn nes ymlaen yn y nofel, gwelir gweithred arall o wahaniaethu pan fydd cymeriad Affricanaidd Americanaidd yn cael ei arestio am drosedd dim ond oherwydd lliw ei groen. Unwaith eto, byddai hyn yn torri Erthygl 2 CCUHP, yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn ond byddai hefyd yn torri Erthygl 40 CCUHP.

Erthygl 40 yw’r hawl i gyfiawnder ieuenctid. Mae hyn yn golygu y dylai plentyn yr amheuir ei fod yn cyflawni trosedd gael ei drin yn deg a chael treial teg os yw’n mynd mor bell â hynny. Yr unig reswm pam yr amheuwyd y cymeriad Affricanaidd Americanaidd o gyflawni’r drosedd dan sylw oedd oherwydd lliw ei groen, sy’n torri Erthygl 40. Nid yw wedi cael ei drin yn deg wrth gael ei arestio ac mae’n debygol na fyddai’n cael ei drin yn deg pe bai’r achos yn mynd i dreial llawn.

Er nad yw cyfiawnder ieuenctid yn un o egwyddorion allweddol y gyfraith a drafodwyd yn ‘Lies we tell ourselves’ mae’n un bwysig iawn o ran eich helpu i ddeall eich hawliau petaech chi’n mynd i drafferthion o ran y gyfraith yn y Deyrnas Unedig.

Credoau crefyddol

Find out more about the law on religious discrimination and the role of the UNCRC behind the novel The Lies we Tell OurselvesUn thema allweddol drwy gydol ‘Lies we tell ourselves’ yw cred mewn Duw. Er nad yw’n berthnasol i’ch credoau chi efallai, mae’n berthnasol i lawer o bobl. Mae Erthygl 14 CCUHP yn rhoi’r hawl i blant gael parch o ran eu safbwyntiau a’u credoau. Drwy gydol ‘Lies we tell ourselves’, mae Linda ac eraill yn dangos eu bod yn credu yn Nuw a’r ffydd Gristnogol. Mae Erthygl 14 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i ddiogelu rhag camwahaniaethu a cham-drin pobl am arddel y credoau hyn. Petai hyn yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, byddai plant sy’n arddel y credoau crefyddol hyn yn cael eu diogelu gan y cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu.

Unwaith eto, nid yw’r hawl i barch at eich credoau crefyddol yn un o’r prif egwyddorion cyfreithiol sy’n codi drwy gydol y nofel hon ond credaf ei bod yn hawl bwysig i fod yn ymwybodol ohoni.

 

Materion ychwanegol ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol:

Yn sicr, nid y materion cyfreithiol a drafodwyd uchod yw’r unig faterion a amlygir yn y nofel, ond dyma rai o’r elfennau pwysicaf. Mae’r llyfr hefyd yn ymdrin â hiliaeth gan yr heddlu, a’r cwestiwn ynghylch gallu plant i wneud eu penderfyniadau eu hunain yng nghyswllt eu haddysg.

 

Fy marn am y llyfr:

Mae ‘Lies we tell ourselves’ yn nofel dda a hynod ddirdynnol. Mae’n codi rhai materion hollbwysig i ddysgu ohonynt fel oedolion ifanc, fel y gallu i drin pobl yn gyfartal waeth beth fo lliw eu croen a materion eraill fel amrywiaeth o gredoau, sy’n gwbl hanfodol heddiw yn y 21ain ganrif. Mae’n llyfr gwych, ysbrydoledig y mae angen i bawb ei ddarllen, yn fy marn i.

Cadwch lygad allan am argraffiadau pellach o ‘Darllen fy Hawliau’.

Alex Davies ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Fy uchelgais yw dod yn Gyfreithiwr Teulu ac mae prosiectau megis ‘Reading your Rights’ yn fy helpu i ddod yn gyfarwydd â’r gyfraith sy’n ymwneud â phlant. Fy hoff lyfrau pan oeddwn yn blentyn oedd llyfrau Captain Underpants ond dim ond oherwydd nad oeddwn i’n darllen llawer o lyfrau pan oeddwn i’n iau. Y llyfr olaf i mi ei ddarllen mewn gwirionedd oedd llyfr cyfraith Chwaraeon o’r enw ‘Done Deal’ gan Daniel Geey. Mae’n llyfr gwych i unrhyw un sydd eisiau edrych ar fyd pêl-droed mewn ffordd wahanol.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau fy adolygiad o ‘Lies We Tell Ourselves’ ac fe fyddwn yn sicr yn argymell eich bod yn darllen y llyfr eich hun.