Cymorth
Prosiect bach yw Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Mae’n ddrwg iawn gennym ond ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol i aelodau o’r cyhoedd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw cefnogi achosion ymgyfreitha strategol, darparu gwybodaeth am y Gyfraith fel y mae’n effeithio ar blant yng Nghymru, a rhedeg rhaglen addysg. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2021
Sut i gael help os oes gennych broblem gyfreithiol
Os ydych chi, neu’r person rydych yn poeni amdano, yn cael ei frifo neu mewn perygl ar hyn o bryd, cysylltwch â’r heddlu drwy ffonio 999
Os oes gennych broblem gyfreithiol, neu â diddordeb yn y gyfraith yng Nghymru, gallwch ofyn i Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru am wybodaeth drwy anfon e-bost at childrenslegalcentre@swansea.ac.uk
Sut gall Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru helpu?
Mae Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru yn brosiect sy’n darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc ynglŷn â’r gyfraith sy’n effeithio arnyn nhw yng Nghymru. Gall y wybodaeth a ddarparwn eich helpu i ateb cwestiynau am y gyfraith neu unrhyw broblem gyfreithiol a allai fod gennych.
Os oes gennych broblem gyfreithiol, gall gwybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn. Mae gan ein gwefan wybodaeth am y gyfraith mewn 10 o feysydd gwahanol mewn bywyd:
Sut mae’r gyfraith yn effeithio chi?

Gartref

Mewn Traferth

Yn yr Ysgol (neu ddim)

Perthnasoedd

Gwaith

Chwarae

Arlein

Iechyd & Lles

Siopau & Gwasanaethau

Ar y Stryd
Sut ydw i’n gwybod os oes gen i ‘broblem gyfreithiol’?
Gall problemau cyfreithiol godi ym mhob math o sefyllfaoedd. Dyma rai enghreifftiau:
- Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc anabl, a bod angen help a cefnogaeth arnoch chi a’ch teulu i fyw gartref
- Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd dysgu yn yr ysgol a bod angen help a chefnogaeth arnoch chi
- Os ydych chi’n mynd i drwbl yn yr ysgol a bod posibilrwydd y cewch eich gwahardd
- Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych chi’n cael eich trin yn wahanol i bobl eraill oherwydd eich rhyw, eich hil, eich oedran neu oherwydd eich bod chi’n berson anabl
- Os ydych chi’n cael eich bwlio (yn yr ysgol neu mewn clwb ieuenctid, neu rywle arall yn y gymuned) oherwydd eich rhyw, eich hil, eich oedran neu oherwydd eich bod yn berson anabl
- Os oes rhywun yn eich brifo chi
- Os nad ydych chi’n derbyn y gofal iawn gartref
- Os ydych wedi cael eich arestio gan yr heddlu, neu os ydych chi wedi brifo rhywun arall, wedi dwyn rhywbeth neu ddifrodi eiddo rhywun arall.
Mewn unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn, ac mewn nifer o sefyllfaoedd eraill, gallai gwybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud fod o gymorth i chi.
Mae’n debyg na fydd y gyfraith yn gallu eich helpu os:
- nad ydych chi’n cyd-dynnu â’ch rhieni, ond eu bod nhw’n gofalu amdanoch chi’n iawn a dydych chi ddim yn cael eich brifo
- dydych chi ddim yn cyd-dynnu â phobl yn yr ysgol ond does neb yn eich brifo chi a dydych chi ddim yn cael eich bwlio oherwydd eich rhyw, eich hil, eich oedran neu oherwydd eich bod chi’n berson anabl
Ddim yn gwybod os oes gennych ‘broblem gyfreithiol’?
Os na allwch weithio allan a oes gennych broblem gyfreithiol neu beidio, ceisiwch siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi ynglŷn â beth sy’n digwydd I chi. Yn dibynnu ar y sefyllfa, gallai fod yn:
- un o’ch rhieni
- mam-gu neu dad-cu/nain neu daid neu berthynas arall fel modryb, ewythr, neu gefnder/cyfnither hŷn
- athro neu athrawes yn yr ysgol
- gweithiwr ieuenctid
- gweithiwr cymdeithasol
Gallwch anfon e-bost atom yn childrenslegalcentre@swansea.ac.uk
Gall Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru eich cyfeirio a rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â phroblemau cyfreithiol yng Nghymru.
- Os ydych chi wedi darllen y wybodaeth ar ein gwefan ynglŷn â’ch problem gyfreithiol, a bod angen cyngor cyfreithiol arnoch chi, efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol, cychwynnol, am ddim gan Glinig y Gyfraith Abertawe
- Os oes angen cyfreithiwr arnoch chi, efallai y bydd tudalennau ‘Dod o Hyd i Gyfreithiwr’ Cymdeithas y Gyfraith o help i chi. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim, os gallwch gael mynediad i gymorth cyfreithiol. Nid yw hwn ar gael ar gyfer pob math o achos.
- Os ydych wedi cael eich arestio, ac angen cyngor a chymorth cyfreithiol, efallai y bydd y Gwasanaeth Amddiffynwyr Cyhoeddus yn gallu eich helpu chi.
Hyd yn oed os nad yw’n broblem ‘gyfreithiol’, gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan sefydliadau eraill o hyd.
Sefydliadau eraill a allai eich helpu yng Nghymru
Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc anabl, neu os oes gennych anghenion dysgu arbennig / anghenion dysgu ychwanegol a’ch bod yn cael problem cael yr help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi yn yr ysgol i ddysgu, efallai y bydd SNAP Cymru yn gallu helpu.
I gael gwybodaeth am fudd-daliadau, gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl, gall Kin Cymru helpu.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am y problemau rydych chi’n eu cael (beth bynnag ydyn nhw – gyda’ch rhieni, neu ffrindiau neu yn yr ysgol neu rywbeth arall) gallwch ffonio Meic.
Os oes angen rhywun arnoch i’ch helpu i siarad am eich problemau gyda’r sefydliad rydych chi’n cael trafferth ag ef, gall eiriolaeth eich helpu chi. Gall NYAS a TGP Cymru gynnig cymorth eiriolaeth.
Mae Comisiynydd Plant Cymru wastad â diddordeb i glywed wrth blant a phobl ifanc sy’n wynebu problemau, ac efallai y gallan nhw eich helpu chi.
Cael y wybodaeth gywir ynglŷn â’r gyfraith lle rydych chi’n byw
Mae’r gyfraith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn aml yn wahanol i’r gyfraith yng Nghymru. Os ydych chi’n byw yn un o’r gwledydd hynny, mae angen i chi sicrhau eich bod chi’n cael y wybodaeth gywir am y gyfraith lle rydych chi’n byw.
Os ydych chi’n byw yn Lloegr, gallwch gael cyngor a chymorth cyfreithiol gan y Coram Children’s Legal Centre a Just For Kids Law.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch gael cyngor a chymorth cyfreithiol gan Clan Child Law.
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor a chymorth cyfreithiol gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant.