Hawliau plant mewn ysgolion
Ein prif alwad am newid:
- Rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd profiad plentyn o addysg ac wrth wraidd gwaith cynllunio, addysgu, gwneud penderfyniadau, polisïau ac arfer mewn ysgolion.
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Mae Cymru yn mynd trwy’r broses o newid y system addysg yn sylweddol, wrth ymwreiddio cwricwlwm newydd. Caiff hawliau plant a hawliau dynol eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd, sy’n nodi wrth gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm: ‘mae gan benaethiaid a llywodraethwyr ddyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Rhan 1 CCUHP, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Unigolion sydd ag anableddau, Adran 64 Deddf Cwricwlwm (Cymru) 2021’.
Mae’n gam arwyddocaol wrth ymwreiddio hawliau plant a hawliau dynol eu bod wedi cael eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi hefyd bod sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall eu hawliau, ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am eu dysgu a’u profiad ehangach yn yr ysgol, yn themâu trawsbynciol yn y cwricwlwm. Nodir:
‘Dylai dysgwyr brofi eu hawliau trwy eu haddysg a meithrin dealltwriaeth allweddol o’r ffordd y mae eu profiad addysgol yn cefnogi eu hawliau. Gall ysgolion a lleoliadau ddatblygu’r profiad hwn trwy fabwysiadu dull gweithredu hawliau plant. (Canllawiau Llywodraeth Cymru 2022).’
Datblygodd Dr Croke ac Athro Hoffman ganllaw a oedd yn trawsnewid dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn arfer ar gyfer cyrff cyhoeddus. Galwyd y dull gweithredu hwn ‘Y Ffordd Gywir’ gan Gomisiynydd Plant Cymru. Ers datblygu’r ‘Ffordd Gywir’ wreiddiol, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi creu canllawiau dilynol defnyddiol, ac mae un ohonynt yn canolbwyntio ar ddull gweithredu seiliedig ar hawliau plant tuag at addysg. Mae’r canllaw addysg yn nodi pwysigrwydd ymwreiddio hawliau plant, gan sicrhau eu bod yn rhan greiddiol o brofiad plant o addysg.
Mae CGPC yn gweithio i gynghori a chynorthwyo addysgwyr, yn ogystal â phlant, i ddeall ac ymwreiddio hawliau plant yng nghyd-destun addysg.
Mae CGPC yn datblygu dull gweithredu ar draws Cymru gyfan er mwyn grymuso pobl ifanc trwy gyfrwng addysg gyfreithiol am hawliau dynol. Mewn prosiect a ariannir gan Sefydliad Paul Hamlyn, mae Swyddog Arweiniol Addysg ac Ymgysylltu CGPC, Rhian Howells, yn gweithio gyda phlant i gynllunio a pheilota sesiynau rhyngweithiol ar gyfer pobl ifanc 11 – 17 oed (gellir troi at ragor o wybodaeth yma). Mae Rhian hefyd yn helpu addysgwyr gyda syniadau a chyngor defnyddiol ynghylch sut i ymwreiddio hawliau plant yn yr ysgol (gellir troi at y wybodaeth yma).
Mae Athro Jane Williams yn cymryd rhan mewn prosiect a ariannir gan ESRC ar hyn o bryd, sy’n archwilio sut y mae modd ymwreiddio hawliau cyfranogi plant iau yn well mewn ysgolion (gellir troi at y wybodaeth yma ac erthygl o ddiddordeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar yma).
Cynhaliodd Dr Croke, Athro Jane Williams ac Arwyn Roberts waith ymchwil am effaith Covid-19 ar Lais y Disgybl – mae’r gwaith ymchwil hwn o ddiddordeb oherwydd ei fod yn olrhain ac yn ystyried Llais y Disgybl a datblygiadau sy’n ymwneud â hawliau plant mewn ysgolion yng Nghymru ers datganoli.
BLOG
Beth mae ar blant yng Nghymru eisiau ei wybod am y Gyfraith? Adolygiad o Adnoddau Addysg Gyfreithiol Plant (2024)
BLOG
Pum ffordd o wreiddio hawliau plant mewn ysgolion
YMCHWIL AC ADRODDIADAU
Yr ‘Anialwch’: Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
YMCHWIL AC ADRODDIADAU
Hawliau cyfranogol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru: Dadansoddi rhethreg y polisi.