Tlodi Plant
Ein prif alwadau am newid:
- Llywodraeth y DU i derfynu’r cyfyngiad dau blentyn a’r cap ar fudd-daliadau.
- Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu clir a fframwaith monitro sy’n cynnwys targedau sy’n seiliedig ar hawliau.
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Mae tlodi plant yn fater sy’n torri ar draws nifer o hawliau plant ac sy’n niweidio bywydau nifer o blant. Gyda 28% o blant yn byw mewn tlodi, mae Cymru yn cynnwys y gyfradd tlodi plant uchaf yn y DU.
Ysgrifennodd Dr Croke am ei phryderon mewn perthynas â thlodi plant mewn blog yn 2022, gan gynnwys gwneud cyfeiriad at gyfyngiad dau blentyn a chap ar fudd-daliadau Llywodraeth y DU, yn ogystal â ffocws ar ddulliau o gyflawni newid yng Nghymru, gan gynnwys yr alwad am Strategaeth Tlodi Plant o’r newydd gan Lywodraeth Cymru.
Ar ôl ymgyrchu helaeth gan y trydydd sector, gan gynnwys CGPC, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd yn 2023. Estynnwyd gwahoddiad i Dr Croke gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar gyda Chomisiynydd Plant Cymru, i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar Strategaeth Tlodi Plant Ddrafft Llywodraeth Cymru.
Er ein bod yn falch y gwrandawyd ar ein galwadau am gyfeiriad mwy amlwg at hawliau plant a Dull sy’n Ystyried Hawliau Plant, mae’n amlwg o’r Strategaeth bod heriau o hyd wrth esbonio beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Yn ogystal, nid yw Llywodraeth Cymru, yn ei Strategaeth Tlodi Plant, wedi gwneud digon i ddangos targedau clir a deilliannau er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a’i effaith ar blant a’u teuluoedd, a’i leihau.
Mae CGPC wedi meithrin partneriaethau strategol gyda sefydliadau allweddol sy’n gweithio ar dlodi plant, gan gynnal yr Uwchgynhadledd Tlodi Plant lwyddiannus iawn a ariannwyd gan Sefydliad Esmee Fairbairn ym mis Tachwedd 2023, gydag argymhellion allweddol i gyflawnwyr dyletswyddau yng Nghymru.
BLOG
Hyrwyddo Dull sy’n Ystyried Hawliau Plant wrth ymdrin â thlodi plant yng Nghymru
BLOG
Tlodi a hawliau plant
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar Strategaeth Tlodi Ddrafft Llywodraeth Cymru.
CYFLWYNIAD
Tystiolaeth Dr Croke ar lafar i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd
Trawsgrifiad: https://record.senedd.wales/Committee/13640
YMCHWIL AC ADRODDIADAU
Adroddiad Uwchgynhadledd Tlodi Plant (Tachwedd 2023)
Fframweithiau’r Gyfraith a Pholisi sy’n Berthnasol i Ddull Gweithredu sy’n Gefnogol o Hawliau Plant yng nghyswllt Tlodi Plant yng Nghymru
Dr Rhian Croke a’r Athro Simon Hoffman (Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol), Ionawr 2025