Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant (AEHP)
Ein prif alwad am newid:
- Defnydd effeithiol a gorfodol o Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant gan Lywodraeth Cymru
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Defnyddir asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (AEHP) i archwilio bod polisi a deddfwriaeth yn cydymffurfio â hawliau plant ac fe’i argymhellir gan Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn.
Mae gofyniad dan Gynllun Plant Llywodraeth Cymru (sy’n nodi’r trefniadau er mwyn gweithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 i gynnal AEHP er mwyn dangos bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyladwy i CCUHP. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dros 250 AEHP ers iddynt gael eu cyflwyno. Credir mai hwn yw nifer uchaf yr AEHP a gynhaliwyd gan unrhyw lywodraeth ar draws y byd.
Fodd bynnag, gan nad oes gofyniad statudol i gynnal AEHP, mae hyn yn arwain at sefyllfa lle na fyddant wastad yn digwydd neu lle y byddant yn digwydd yn rhy hwyr yn ystod y broses i gael effaith. Adroddwyd tystiolaeth o’r ffaith bod y defnydd o AEHP yn afreolaidd ac yn anghyson gan Athro Hoffman ac O’Neill yn 2018 ac unwaith eto gan Athro Hoffman yn 2020.
Mewn gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer y Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmyn Plant (ENOC) gan Dr Croke ac Athro Hoffman am Fesurau Brys Covid 19 a’u heffaith ar hawliau plant, adroddwyd mai dim ond lleiafrif o awdurdodaethau yng ngwaith ymchwil ENOC oedd wedi cynnal AEHP ynghylch y broses o wneud penderfyniadau wrth ddatblygu Mesurau Brys. Cynhaliwyd AEHP yng Nghymru, ond dim ond yn ddiweddarach yn ystod y pandemig, ac ni chawsant eu cynnal mewn ffordd gyson.
Fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, a nifer o sefydliadau yn y sector plant yng Nghymru, rydym wedi bod yn galw am AEHP o gyllideb Llywodraeth Cymru. Diben hyn yw er mwyn sicrhau y gallwn ddeall a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol, trwy ddangos eu bod yn gwario ‘uchafswm yr adnoddau sydd ar gael’ i gyflawni hawliau plant yng Nghymru (Erthygl 4 CCUHP). Fodd bynnag, gwrthodwyd yr alwad am AEHP o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Gwelwyd enghraifft o Lywodraeth Cymru yn methu cynnal AEHP ym mis Mehefin 2023, pan na chynhaliodd Llywodraeth Cymru AEHP am y penderfyniad i derfynu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Cefnogom Public Law Project gyda’r her gyfreithiol lwyddiannus a arweiniodd at yr Uchel Lys yn datgan bod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn anghyfreithlon. Am ragor o wybodaeth am yr achos hwn, trowch at y blogiau gwych hyn gan Dr Croke ac Athro Hoffman.
Mae Dr Croke gyda’i phartneriaid yn y Grŵp Ymgyfreitha Strategol yn monitro’r defnydd o AEHP gan Lywodraeth Cymru, gan ystyried cyfleoedd i wneud heriau cyfreithiol pellach.
BLOG
Rhoi terfyn ar brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yng Nghymru: Perthnasedd hawliau plant
BLOG
Her prydau ysgol am ddim yng Nghymru: A oes gobaith?
BLOG
Gweithredu CCUHP yng Nghymru: Strwythurau a Mecanweithiau Effeithiol ar gyfer Plant
BLOG
Myfyrdodau am gyfranogiad plant wrth wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig.
BLOG
Mae ymatebion llywodraeth i Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar hawliau plant ledled Ewrop.
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Pwyllgor Cyllid y Senedd: Diffyg asesiadau o’r effaith ar hawliau plant ar gyllideb Llywodraeth Cymru a phwysigrwydd ehangach cyllidebu ar gyfer hawliau plant.
YMATEB I YMGYNGHORIAD
Cyflwyniad i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar flaenoriaethau’r 6ed Senedd.
YMCHWIL AC ADRODDIADAU
Mapio Effaith Mesurau Brys a Gyflwynwyd er mwyn ymateb i Bandemig Covid-19 ar Hawliau Plant mewn Aelod-wladwriaethau ENOC