Llywodraeth wedi’i chydlynu ar gyfer plant
Ein prif alwadau am newid:
- Gweinidog Cabinet dros Blant i Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb dros Hawliau Plant
- Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Hawliau Plant a monitro tryloyw
Yng Nghymru, nid oes gennym Weinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Blant o hyd. Gan nad oes gan blant dan 16 oed yr hawl i bleidleisio na chael sedd wrth y bwrdd lle y gwneir penderfyniadau, credwn bod yn rhaid cael Gweinidog sy’n cynrychioli hawliau a buddiannau plant ar y lefel hon.
Yn ogystal, mae angen cael atebolrwydd a monitro mwy effeithiol a gwell, a chynllun gweithredu cenedlaethol sy’n defnyddio dangosyddion hawliau plant, targedau sy’n rhwym i amserlenni penodol a chyllidebau clir a thryloyw (Am wybodaeth bellach, gweler blog Dr Croke yma).
Rydym hefyd yn gweithio mewn ffordd weithredol i hyrwyddo bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystyried hawliau dynol o ddifrif, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw atchwelyd ar ddiogelu hawliau dynol (Gweler blog Dr Croke yma).