Codi’r Oed Ieuengaf ar gyfer Cyfrifoldeb Troseddol

Ein prif alwad am newid:

  • Codi’r Oed Ieuengaf ar gyfer Cyfrifoldeb Troseddol i 14 oed.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Mae’r oedran cyfrifoldeb troseddol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU o hyd.

Yn 10 oed, mae Cymru a Lloegr wedi cael eu beirniadu am gael un o’r oedrannau cyfrifoldeb troseddol ieuengaf yng Ngorllewin Ewrop.  Mae ymennydd plant yn datblygu o hyd, ac mae gweithredu’r un safonau o ran cyfrifoldeb troseddol i blentyn 10 oed ag y byddem yn ei wneud i oedolyn, yn anwybyddu symiau mawr o dystiolaeth am anaeddfedrwydd plant yr oedran hynny.  Nid yw’r oedran cyfrifoldeb troseddol yn cyd-fynd â deddfwriaeth arall sy’n seiliedig ar oedran i blant.

Profir bod gan blant sy’n cael cyswllt â’r system cyfiawnder troseddol anghenion cymhleth iawn neu maent wedi profi trawma.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pobl ifanc sydd ag anawsterau iaith a lleferydd,
  • plant sy’n niwrowahanol neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • problemau iechyd meddwl,
  • plant sy’n cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • a phlant sydd wedi derbyn gofal.

 

Ceir gorgynrychiolaeth plant o gefndiroedd difreintiedig ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol hefyd.

Profwyd nad yw troseddoli plant yn gweithio, a’i fod yn gwneud mwy o niwed na daioni mewn gwirionedd.  Er mwyn atal troseddu;  mae ymyrraeth gynnar, arferion dargyfeiriol ac ailintegreiddio’r plentyn mewn cymdeithas yn sicrhau canlyniadau gwell i blant na delio â’r plentyn trwy’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r Comisiwn Cyfiawnder wedi argymell y dylid codi’r oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru.  Os caiff pwerau dros Gyfiawnder Ieuenctid eu datganoli i Gymru, (fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru), efallai y bydd posibilrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r oedran cyfrifoldeb troseddol i 14 oed yn unol ag argymhelliad Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn (para 54 a).

Mae Dr Rhian Croke wedi pwysleisio pwysigrwydd codi’r Oedran Ieuengaf ar gyfer Cyfrifoldeb Troseddol fel rhan o drafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi sylw i Arsylwadau i Gloi Pwyllgor CU.

YMATEB I YMGYNGHORIAD

Ymchwiliad Ar Goll ar yr Ymylon Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd

YMCHWIL AC ADRODDIADAU

“Yr Oed Ieuengaf ar gyfer Cyfrifoldeb Troseddol:  Yr Angen am Ddull Gweithredu Holistig.”