Gwarcheidiaeth Ceiswyr Lloches ar eu Pen eu Hunain
Ein prif alwad am newid:
- Gwasanaeth Gwarcheidiaeth statudol a fyddai’n darparu gwarcheidwad ar gyfer pob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru sy’n ceisio lloches.
Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith
Gyda’n partneriaid yn Sefydliad Bevan, Cymdeithas y Plant a’r Groes Goch Brydeinig, rydym wedi paratoi nodyn briffio ymchwil, lle’r ydym yn dadlau dros gael Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol ar gyfer yr holl Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru.
Plant ar eu Pen eu Hunain yw rhai o’r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae gofyn iddynt ymgysylltu â phroses gymhleth ceisio lloches, wrth brofi trawma a chyfnod o newid mawr yn eu bywydau ar yr un pryd yn aml. Dylai unrhyw blentyn, gan gynnwys un sy’n ceisio lloches, fod yn gallu mwynhau eu holl hawliau a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a dylent fod yn cael yr un diogelwch ag unrhyw blentyn arall sy’n cael eu hamddifadu o amgylchedd eu teulu dros dro neu’n barhaol.
Gwnaethpwyd yr alwad am Wasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer yr holl Blant ar eu Pen eu Hunain dros sawl blynedd, a chaiff ei chefnogi gan gyrff uchel eu parch yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth wedi bod yn ddisgwyliad clir gan Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn ers dyddiau cynnar datganoli. Yn ei Arsylwadau i Gloi 2023, argymhellodd Pwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn unwaith eto y dylid cyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer yr holl Blant ar eu Pen eu Hunain.
Gwnaethpwyd galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru er 2005, a gwnaethpwyd yr alwad fwyaf diweddar yn 2023 mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwasanaethau cyngor mewnfudo yng Nghymru.
Mae ein nodyn briffio yn nodi bylchau yn y cymorth ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain, yn enwedig mewn perthynas â’u gallu i fanteisio ar wasanaethau hanfodol, i fanteisio ar gyfiawnder ac i ymgysylltu â’r broses o geisio lloches.
Rydym yn trafod yr angen am wasanaeth o’r fath ac yn cyflwyno tystiolaeth o’i fanteision, gan nodi nodweddion allweddol gwasanaeth effeithiol, gan gynnwys y prif fanteision y byddai Gwarcheidwaid yn eu cynnig.
Ers cyhoeddi ein Briff Ymchwil cyntaf ym mis Ebrill 2024, rydym ni’n falch o adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i “archwilio sut y gallai gwasanaeth gwarcheidiaeth weithio, yr adnoddau sydd eu hangen i’w weithredu, a’r elfennau croestoriadol â chymorth statudol arall megis cynghorwyr personol a darpariaeth eirioli.”
Rydym ni wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac maent wedi gofyn i ni ystyried ymhellach a all y gwasanaethau presennol ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ar Blant ar eu Pen eu Hunain.
Mae’n bleser gennym ni rannu ein papur briffio dilynol ar ein galwad am Wasanaeth Gwarcheidwadaeth ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, sy’n ceisio mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Ysgrifennwyd y papur briffio hwn gan Sefydliad Bevan, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, Cymdeithas y Plant a TGP Cymru. Roeddem ni’n gallu cyfeirio at dystiolaeth fanwl gan TGP Cymru, sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, ac rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig am rannu astudiaethau achos gyda ni, gan dynnu sylw ymhellach at brofiadau’r garfan hon o blant sy’n agored i niwed hon.
Ar sail ein hymchwil a’n harchwiliad ni ein hunain, nid oes gan y gwasanaethau presennol hyn y gallu neu nid oes ganddynt yr arbenigedd perthnasol i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen ar y plant hyn ar frys.
Agorwch ein cyd-bapur briffio dilynol.
NODYN BRIFFIO
Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru – Briff Ymchwil ar y cyd 2024
NODYN BRIFFIO
Gwarcheidiaeth ar gyfer Plant Digwmni yng
Nghymru: briff ar weithrediad
Chwefror 2025