Ein Cyllidwyr
Sefydliad Esmee Fairbairn
Mae Sefydliad Esmee Fairbairn yn darparu cyllid craidd ar gyfer gwaith Canolfan Gyfreithiol y Plant neu’r CLC (2019-2022) sy’n ein galluogi i gyflogi Golygydd Cynnwys cyfreithiol a datblygu gwefan CLC a gwybodaeth sy’n addas i blant a phobl ifanc am y gyfraith yng Nghymru.
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton (Prifysgol Abertawe)
Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn dod â disgyblaethau’r Gyfraith a Throseddeg at ei gilydd mewn amgylchedd academaidd ffyniannus, gyda chefnogaeth staff sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda’r llywodraeth, y gymuned a chymdeithas sifil ar y sialensiau byd-eang sy’n wynebu cymdeithas. Mae’r Ysgol yn darparu amrywiaeth o raglenni, o lefel israddedig i PhD. Mae’r Ysgol yn gweithio’n galed i hybu cyfleoedd cyflogaeth ein myfyrwyr gyda chyfleoedd dysgu trwy brofiad, fel gweithio gyda’r CLC a’n Clinig Cyfreithiol.
Mae’r Ysgol yn cefnogi CLC mewn sawl ffordd gan gynnwys darparu cyfleusterau swyddfa a gofod gweithio ar gyfer ein gweithgareddau gwahanol dan arweiniad myfyrwyr, staffio, rheoli ac adnoddau.
Derbyniodd y CLC Gyllid ‘Angen Mwyaf’ gan Brifysgol Abertawe i wella hygyrchedd ein gwefan yn 2020.
Sefydliad Paul Hamlyn
Mae Sefydliad Paul Hamlyn yn gyllidwr annibynnol sy’n gweithio i helpu pobl i oresgyn anfantais a diffyg cyfleoedd, fel y gallant wireddu eu potensial a mwynhau bywydau boddhaus a chreadigol.
Derbyniodd y CLC gyllid sbarduno wrth Sefydliad Paul Hamlyn yn 2016. Dyma’r gefnogaeth sylweddol gyntaf gan gyllidwr allanol. Fe wnaeth alluogi i ni sefydlu’r CLC.
Sefydliad Addysg Gyfreithiol
Mae’r Sefydliad Addysg Gyfreithiol (LEF) yn sefydliad sy’n rhoi grantiau drwy ddefnyddio addysg gyfreithiol i ddatblygu cymdeithas sy’n meithrin egwyddorion cyfiawnder a thegwch.
Darparodd LEF grant i’r CLC yn 2018 i ddatblygu manyleb y wefan. Mae’r LEF hefyd yn rhoi cymorth i gyflogi ein ‘Cymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf’ am ddwy flynedd o Ionawr 2020. Mae ein Cymrawd yn gyfreithiwr dan hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo mynediad at gyfiawnder i blant. Mae’r Cymrawd yn gweithio’n agos â chyfreithwyr partner lleol.
Rhwydwaith Ymchwil Addysg Gyfreithiol
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Addysg Gyfreithiol (LERN) yn gymuned o ysgolheigion sy’n hyrwyddo, cefnogi ac hysbysu pob agwedd ar ymchwil addysg gyfreithiol.
Derbyniodd y CLC gyllid ymchwil wrth LERN yn 2017 i ystyried argaeledd Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Cymdeithas y Gyfraith Abertawe a’r Cyffiniau
Mae Cymdeithas y Gyfraith Abertawe a’r Cyffiniau yn gymdeithas brysur sy’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd, digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau hyfforddi i gyfreithwyr sy’n byw neu’n ymarfer yn Abertawe a’r cyffiniau.
Rhoddodd y Gymdeithas gyfraniad i’r CLC yn 2017.

Funky Dragon
Funky Dragon oedd Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru tan 2014. Roedd yn sefydliad o dan arweiniad cymheiriaid a roddodd gyfleoedd i bobl ifanc hyd at 25 oed ddweud eu dweud ar faterion a oedd yn effeithio arnyn nhw.
Rhoddodd Funky Dragon, a ddaeth yn gyfarwydd fel yr Ymgyrch dros Gynulliad Ieuenctid Cymru, gyfraniad i’r CLC yn 2019.