Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithia Strategol ac Eiriolaeth ar Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru

Mae troseddau cyllyll ymhlith plant yn fater pryderus iawn sy’n gofyn am ymagwedd feddylgar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r ystadegau swyddogol diweddar yn dangos bod troseddau cyllyll ymhlith plant yn gostwng, er gwaethaf yr hyn sy’n cael ei awgrymu yn y cyfryngau.

Roedd nifer y troseddau a gyflawnwyd gan blant â chyllyll ac arfau ymosodol (Cymru/Lloegr) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 wedi gostwng 6% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol lle gwelwyd gostyngiad. O’r troseddau a gyflawnwyd, roedd 99.7% yn cynnwys plant â chyllyll yn eu meddiant, gyda dim ond 0.1% yn ymwneud â bygwth pobl eraill. Mae’n hanfodol ein bod yn sylweddoli bod mwyafrif llethol y troseddau cyllyll yn cael eu cyflawni gan oedolion, ac nid plant. Mae hyn yn dangos er bod yn rhaid inni roi sylw i’r digwyddiadau hyn, mae’r un mor bwysig nad ydym yn pardduo plant, gan nad yw’r rhan fwyaf erioed wedi ystyried cario cyllell, heb sôn am ddefnyddio un.

Pwysigrwydd Ymateb sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth

Mae ymateb sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn allweddol i ddeall ac i roi sylw i’r mater hwn yn effeithiol. Mae gwybodaeth ddiweddar gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) ac arbenigwyr eraill yn dangos bod y rhesymau pam mae plant yn cario cyllyll yn gysylltiedig yn aml â ffactorau cymdeithasol, fel tlodi, ymyleiddio, ofn a thrawma. Rhaid cymryd profiadau bywyd plant, gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE), camfanteisio troseddol ac erledigaeth, o ddifrif wrth chwilio am ddatrysiadau.

Mae prosiect ymchwil Prifysgol Abertawe, rhan o’u rhaglen Lleisiau o Ymchwil, yn un o’u hymdrechion niferus sy’n ceisio deall yn well pam mae plant yn cario cyllyll. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant, mi allwn sicrhau bod ein hymateb yn un tosturiol ac wedi’i lywio gan blant.[i]

Edrych ar yr Ymyriadau Presennol

Mae edrych ar yr ymyriadau presennol yr un mor bwysig. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai cyfyngedig fu llwyddiant rhai strategaethau poblogaidd. Mae canlyniadau cynlluniau ildio cyllyll, rhaglenni addysg, ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau wedi bod yn wan neu aneglur yn aml. Er enghraifft, mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod ymgyrchoedd yn y cyfryngau mewn gwirionedd yn codi ofnau ac yn cynyddu’r tebygrwydd y byddai plant yn cario cyllyll. Yn yr un modd, nid yw arferion stopio a chwilio’n effeithiol yn eu hymdrechion i atal troseddau cyllyll, a’u bod hefyd yn cael effaith anghymesur ar blant Du. Hefyd, dangoswyd fod isafswm dedfrydau gorfodol yn niweidiol i blant, ac maent yn aml yn cynyddu stigma a chyfraddau aildroseddu.

Strategaethau Llwyddiannus

Ar y llaw arall, dangoswyd fod strategaethau sy’n rhoi pwyslais ar ddargyfeirio ac ymyriadau cynnar yn fwy effeithiol. Mae rhaglenni fel Dargyfeirio Cyn Mynd i’r Llys  wedi arwain at ostyngiad o 13% mewn aildroseddu, ac mae gan Gymru enw da am weithredu rhaglenni dargyfeirio.[ii] Mae Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid Llywodraeth Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd y dulliau hyn.

Mae asesiadau wedi’u teilwra sy’n edrych ar ystyriaethau ehangach fel addysg, tai ac iechyd meddwl hefyd yn hanfodol i fynd i’r afael ag anghenion sylfaenol plant sy’n ymwneud â throseddau cyllyll. Mae Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, sy’n gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill yng Nghymru mewn sefyllfa gref i gynnig dull sy’n galluogi mwy o gymorth effeithiol, unigol ac sy’n lleihau’r tebygrwydd o niwed tymor hir.

Rhoi Sylw i’r Achosion Sylfaenol

Mae atal troseddau cyllyll yn golygu mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o amddifadedd, allgau cymdeithasol, ac esgeulustod, mae plant yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â thrais.

Yng Nghymru, mae bron un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi, a all fod yn gysylltiedig â cham-drin, esgeulustod a ffactorau risg eraill. Ar ôl blynyddoedd lawer o gyni gyda thoriadau i wasanaethau plant, addysg, iechyd meddwl, a gwasanaethau iechyd meddwl, a mesurau nawdd cymdeithasol llym, fel y cap ar fudd-daliadau a’r cyfyngu i ddau o blant, mae llai o gyfleoedd i blant a’u teuluoedd gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae mynd i’r afael â thlodi plant a buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth atal.

Effaith Troseddau Cyllyll mewn Ysgolion yng Nghymru

Mae’n ddealladwy bod yr achosion diweddar o droseddau cyllyll mewn ysgolion a gafodd sylw yn y cyfryngau yng Nghymru wedi achosi braw. Fodd bynnag, mae’r achosion hyn yn rhai prin, ac mae’n bwysig nad ydym yn gorymateb nac yn cosbi pob plentyn am weithredoedd lleiafrif bychan. Ni ddylai ysgolion fod yn fannau sy’n gwahardd plant; dylent yn hytrach fod yn ofodau diogel sy’n darparu addysg o safon uchel a hefyd cymorth i blant agored i niwed. Mae polisïau gwahardd cyffredinol yn aml yn gwaethygu’r broblem, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd plant yn cael eu hamlygu i ac yn cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol neu gamfanteisio. Mae dull “Plant yn Gyntaf, Hawliau Plant, a Diogelu”, sy’n rhoi pwyslais ar ddeall amgylchiadau pob plentyn, yn hanfodol. Dylid ymdrechu i ddarparu ymyriadau priodol sy’n helpu’r plentyn ac sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu hymddygiad.

Annog Deialog a Dealltwriaeth

Mae arbenigwyr fel Pennaeth Estyn a Chomisiynydd Plant Cymru wedi dangos pa mor bwysig yw deall y rhesymau sydd wrth wraidd yr ymddygiadau troseddau cyllyll hyn ac maent hefyd yn annog dulliau cefnogol yn hytrach na chosbi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan na fydd yn cyflwyno swyddogion diogelwch, patrolau gan yr heddlu na sganwyr mewn ysgolion. Mae hi’n hytrach wedi cyhoeddi y bydd “Uwchgynhadledd Ymddygiad Cenedlaethol” yn cael ei chynnal ym mis Mai, gyda phwyslais ar ddeialog a dull mwy cefnogol i ddelio â’r heriau mae plant yn eu hwynebu.

Casgliad

I gloi, er bod troseddau cyllyll a gyflawnir gan blant yn fater difrifol, rhaid i’r ymateb fod yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar ddeall y ffactorau cymdeithasol ehangach sy’n cyfrannu at yr ymddygiadau hyn a dysgu’n uniongyrchol gan blant. Drwy fuddsoddi mewn atal, ymyriadau cynnar, a gwasanaethau cymorth, mi allwn roi sylw i achosion sylfaenol troseddau cyllyll a gwarchod llesiant plant yng Nghymru.

 

NODIADAU  

 

[i] Yng Nghanolfan Gyfreithiol Plant Cymru, rydym hefyd yn cynnal sesiynau addysg ac ymgysylltu â phlant mewn ysgolion uwchradd, gan ddysgu drwy blant yn ogystal â sicrhau eu bod yn deall y ffeithiau am droseddau cyllyll a’u bod yn cael eu grymuso i ddeall eu hawliau cyfrithiol.

[ii] Gweer: Haines, K., Case, S., Davies, K., & Charles, A. (2013). The Swansea Bureau: A model of diversion from the youth justice system. International Journal of Law, Crime and Justice41(2), 167-187; Haines, K., & Charles, A. (2010). The Swansea Bureau: Children first, offending second. Report, Swansea Youth Offending Service, Swansea; WILLIAMS, K. S., & Llywelyn, D. (2016). An Independent Evaluation of the Dyfed-Powys Bureaus; Case, S., & Haines, K. (2015). Children first, offenders second: The centrality of engagement in positive youth justice. The Howard Journal of Criminal Justice54(2), 157-175.