Gan Amber Wassall

Mae ‘Oliver Twist’ gan Charles Dickens yn stori am fachgen amddifad naw mlwydd oed sy’n rhedeg i ffwrdd o’r wyrcws ac fel prentis i ymgymerwr yn Llundain. Yn Llundain, mae’n cwrdd â Jack Dawkins sy’n cael ei adnabod hefyd fel yr ‘Artful Dodger’ ac yn ymuno â gang o bobl ifanc oedd yn dwyn o bocedi pobl.

Beth sy’n digwydd a phwy sy’n gofalu amdanoch os yw eich rhieni yn marw?

Mae’r llyfr yn sôn bod rhieni Oliver wedi marw, sy’n golygu bod Oliver yn amddifad. Mae’n debyg nad oedd gan rieni Oliver ewyllys felly cafodd ei fagu yn y wyrcws y cafodd ei eni ynddo. Yn y gymdeithas sydd ohoni, nid oes gan 59% o rieni ewyllys cyfoes neu ewyllys o gwbl. Mae’n bwysig bod gan rieni ewyllys oherwydd gallan nhw nodi pwy yr hoffen nhw i ofalu am eu plant os byddan nhw’n marw cyn i’r plant droi’n 18 oed.

Yn y llyfr, Mr Bumble oedd rhingyll y wyrcws lle roedd Oliver yn byw. Oherwydd hynny, mae’n ymddangos mai Mr Bumble fyddai’r unigolyn â chyfrifoldeb rhiant dros Oliver neu’r peth agosaf at hynny. Byddai cyfrifoldeb rhiant yn caniatáu i Mr Bumble fod yn rhan o’r penderfyniadau ym mywyd Oliver. Serch hynny, gellid dadlau bod gweithredoedd Mr Bumble yn ymosodol tuag at Oliver. Er enghraifft, cael ei lwgu bron iawn, ei esgeuluso a’i gam-drin yn gorfforol.

Yn y DU, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn nodi hawliau penodol a roddir i blentyn. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn adlewyrchu’r hawliau hyn yng nghyfraith Cymru. Mae hawliau’r UNCRC a fyddai’n berthnasol i Oliver Twist yn cynnwys:

  • Erthygl 3 – Budd pennaf y plentyn
  • Erthygl 12 – Parchu barn y plentyn
  • Erthygl 19 – Diogelu rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Erthygl 20 – Plant ddim yn gallu byw gyda’u teulu

Beth sy’n digwydd os cewch eich gorfodi i weithio fel plentyn?

Yn y llyfr, mae Oliver yn cael ei fagu mewn wyrcws ac roedd gweithio mewn pyllau glo neu ffatrïoedd yn gyffredin. Gallai’r gwaith hwn fod yn beryglus i blentyn. Yn y gymdeithas sydd ohoni, a fyddai Oliver wedi cael gwneud gwaith mor beryglus?

Mae deddfau yn y DU sy’n sicrhau na all plant wneud gormod o waith. Yn gyffredinol, mae’r deddfau yn cyfyngu unrhyw un o dan 14 oed rhag gweithio. Serch hynny, gall rhywun 13 oed wneud ‘gwaith ysgafn’. Nid fyddai gweithio mewn pwll glo neu ffatri, fel y gwnaeth Oliver, yn cael ei ystyried yn ‘waith ysgafn’. Hefyd, gan mai 9 oed oedd Oliver, mae’n annhebygol iawn y byddai’n gallu gweithio’n gyfreithiol yn y wyrcws.

Yn ogystal, mae Erthygl 32 o’r UNCRC yn canolbwyntio ar lafur plant. Mae’n nodi y dylid diogelu plant rhag camfanteisio economaidd, gwaith a allai fod yn beryglus, a bod isafswm oedran yn cael ei bennu er mwyn i blentyn weithio. I gyflawni hyn, mae deddfau fel Deddf Cyflogi Menywod, Plant a Phobl Ifanc 1920 ac adran 18 o Ddeddf Swyddfeydd, Siopau ac Eiddo Rheilffordd 1963 wedi’u creu er mwyn gwahardd y defnydd a’r camfanteisio ar blant mewn llafur peryglus.

O archwilio’r gyfraith, gellir gweld yng nghyfraith heddiw na fyddai Oliver yn cael ei orfodi i weithio o dan amodau o’r fath, ac o ystyried ei oedran, byddai’n anghyfreithlon gweithio yn yr amodau a’i wynebai.

Beth sy’n digwydd os ydych yn ymuno â gang fel plentyn?

Ar ôl ei siwrnai i Lundain, daw Oliver yn rhan o ‘Fagin’s Gang’ sef gang o o bobl ifanc oedd yn dwyn o bocedi pobl. Nid yw bod yn rhan o gang yn broblem yn y lle cyntaf. Mae’r broblem yn codi pan fydd y gweithgaredd y mae’r gang yn cymryd rhan ynddo yn troi’n dreisgar a/neu’n droseddol. Daw hyn yn broblem i blentyn, gan y gallai arwain at gofnod troseddol a allai achosi anawsterau pellach yn hwyrach mewn bywyd. A fyddai Oliver mewn trwbl cyfreithiol yng nghymdeithas heddiw am ei weithgareddau gyda ‘Fagin’s Gang?’

Mae Adran 34 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2009 yn diffinio ‘gang’. Mae’n nodi mai grŵp yw ‘gang’ sy’n:

  • Cynnwys mwy na 3 aelod
  • Mae ganddo un neu fwy o nodweddion sy’n galluogi i’w aelodau gael eu hadnabod fel grŵp
  • Cymryd rhan mewn trais fel gang neu’n rhan o farchnad gyffuriau anghyfreithlon

O hyn, gellir gweld y byddai Fagin’s Gang yn cael eu hystyried fel gang yn ôl y gyfraith oherwydd bod mwy na 3 o aelodau yn gysylltiedig â lladrata a dwyn o bocedi pobl o amgylch strydoedd Llundain. Serch hynny, nid oedd plant Fagin’s Gang wedi cyflawni unrhyw drais.

Mae Adran 51 SCA yn canolbwyntio ar waharddebau gangiau. Gellir gosod y rhain ar aelodau gangiau i’w gwahardd rhag cymryd rhan mewn trais sy’n gysylltiedig â gangiau. Gellid dadlau y gallai’r rhain gael eu gorfodi ar y plant yn y grŵp gan gynnwys Oliver ei hun. Serch hynny, mae Adran 34 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 yn nodi mai dim ond yn erbyn unigolyn sy’n 14 oed a throsodd y gellir rhoi gwaharddeb. Gan mai 9 oed oedd Oliver, ni fyddai modd rhoi gwaharddeb yn ei erbyn i’w atal rhag gwneud y gweithgaredd anghyfreithlon hwn.

I gloi, er nad oes nifer o ffyrdd cyfreithiol amlwg i atal plentyn rhag ymuno â gang, yn y gymdeithas sydd ohoni, mae yna adnoddau eraill i gael help fel ysgolion, mudiadau gwirfoddol lleol ac ar-lein a allai helpu Oliver i beidio â gwneud penderfyniadau a allai lesteirio ei ddyfodol.

Fy enw i yw Amber Wassall. Rwy’n fyfyrwraig ail flwyddyn yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Fy uchelgais ar hyn o bryd yw cwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith ar ôl gorffen fy ngradd. Rwy’n ansicr ym mha faes yr hoffwn ymarfer ynddo ar hyn o bryd, ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn Cyfraith Teulu yn ogystal â Chyfraith Hawliau Dynol, a dyna pam mae gen i ddiddordeb mawr mewn cymryd rhan yn y prosiect ‘Darllen Fy Hawliau’.