Mewn Trafferth
- Gallwch fod mewn trafferth mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd
- Mae gennych hawliau hyd yn oed os ydych mewn trafferth
- Mae eich hawliau yno i’ch diogelu ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn
Mae gennych hawliau hyd yn oed os ydych mewn trafferth gyda’r heddlu. A dweud y gwir, yng Nghymru, os ydych o dan 18 ac yn torri’r gyfraith, fe ddylech gael eich trin fel ‘plentyn yn gyntaf, a throseddwr yn ail’. Dyw hynny ddim yn golygu na fyddwch yn cael eich cosbi –ond mae’n golygu y cewch eich trin mewn ffordd sy’n canolbwyntio arnoch chi fel person ifanc, a beth sydd orau i chi. Efallai eich bod yn poeni am fod mewn trafferth gartref neu yn yr ysgol am eich bod wedi torri’r rheolau. Efallai eich bod yn poeni am ganlyniadau torri’r rheolau, hyd yn oed os nad ydych wedi torri’r gyfraith, felly rydym yn trafod beth fydd yn digwydd os torrwch chi’r rheolau hefyd.
Yn yr adran hon, rydym hefyd yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd os ydych chi’n dioddef trosedd – os oes rhywun yn eich brifo neu’n dwyn rhywbeth oddi arnoch, neu os oes angen i chi ddweud wrth yr heddlu beth mae rhywun arall wedi’i wneud.
Darllen ein blog a newyddion
Beth mae Dear Martin yn ei ddweud wrthym am eich hawliau fel plentyn yng Nghymru
Mae Dear Martin gan Nic Stone yn adrodd hanes Justyce McAllister, dyn croenddu penderfynol 17 oed sy’n byw bywyd anodd, yn ei gymuned dlawd, sydd dan fygythiad gan droseddwyr drwy’r amser, ac yn yr ysgol lle mae mwyafrif llethol y disgyblion yn wyn. Er ei bod yn deall...
The Curious Incident Of The Dog In The Night-Time – Darllen fy Hawliau
Mae 'The Curious Incident of the Dog In The Night-Time’ gan Mark Haddon yn llyfr sy’n dilyn taith Christopher, bachgen 15 mlwydd oed sydd ag awtistiaeth. Pan fydd yn dod o hyd i gi ei gymydog wedi marw, mae Christopher yn mynd ati i ddatrys y dirgelwch am bwy oedd yn...
Smacio plant yng Nghymru – pam bydd y gyfraith yn wahanol i Loegr cyn bo hir?
Cyn bo hir bydd smacio plant yng Nghymru yn cael ei wahardd (o 2022 ymlaen). Efallai eich bod wedi gweld hyn ar y newyddion yn gynharach eleni pan gyhoeddwyd y newid hwn yn y gyfraith yng Nghymru. Felly pam bod y gyfraith yn newid yng Nghymru a pha wahaniaeth fydd hyn...