Mae Dear Martin gan Nic Stone yn adrodd hanes Justyce McAllister, dyn croenddu penderfynol 17 oed sy’n byw bywyd anodd, yn ei gymuned dlawd, sydd dan fygythiad gan droseddwyr drwy’r amser, ac yn yr ysgol lle mae mwyafrif llethol y disgyblion yn wyn. Er ei bod yn deall bod anghyfiawnder hiliol yn rhan annatod o hanes ei deulu, mae ganddo obeithion gwirioneddol o fynd ymlaen i Brifysgol Yale ar ôl graddio.

Mae’n clywed un noson fod ei hen gariad, Melo, wedi meddwi gormod i yrru adref o barti mewn ardal gyfoethog, felly mae’n mentro allan i’w gyrru adref. Mae plismon gwyn, sydd wedi bod yn creu proffil hiliol o Justyce cyn iddo ganfod Melo hyd yn oed, yn camddehongli bwriadau’r dyn ifanc ac yn ei arestio ar gam. Mae hyn yn cael effaith emosiynol fawr ar Justyce ac mae’n colli pob ffydd ym mhawb sy’n gorfodi’r gyfraith. Yn anffodus, nid yw’n cael llawer o gydymdeimlad gan neb, gan gynnwys ei ffrind croenddu, Manny, sydd mor gyfoethog fel nad yw’n gallu gweld beth yw realiti bywyd i ddyn croenddu ifanc, tlawd.

Mae ei awydd i wneud synnwyr o’r hyn mae wedi’i brofi, yn arwain Justyce i ddarllen gwaith Dr. Martin Luther King, Jr., gan gynnwys y llythyrau rhyngddo ag aelodau eraill o’r Mudiad Hawliau Sifil, ac mae’n sylweddoli ei fod yn rhyw fath o ferthyr yn y frwydr yn erbyn hiliaeth ac anghyfiawnder systematig. Drwy gyfres o lythyrau mae Justyce yn eu hysgrifennu yn ei ddyddiadur (“Dear Martin…”), mae’n cychwyn ar ei daith i geisio cael dealltwriaeth a phwrpas ymhlith y gymuned Americanaidd Affricanaidd sydd, yn anffodus, yn rhanedig o ganlyniad i fraint ac anfantais economaidd.

Adnabod Hiliaeth 

Drwy gydol Dear Martin, mae Justyce yn cael ei amlygu i wahaniaethu hiliol. Mae ei ffrindiau breintiedig (du a gwyn) yn analluog neu’n amharod i gydymdeimlo â’i frwydr fel dyn croenddu difreintiedig mewn cymdeithas fodern ac i weld graddfa’r hiliaeth systematig sy’n bodoli mewn sefydliadau fel yr heddlu. Mae’n bwysig gallu adnabod gwahaniaethu pan fydd yn digwydd i chi neu i rywun rydych yn ei adnabod, ac i ddeall y sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru – cyfreithiau a wnaed gan y DU sy’n rhoi sylw i faterion fel gwahaniaethu, troseddau casineb a mynediad at gyfiawnder – a sut mae hyn yn diogelu pobl ifanc yn y sefyllfaoedd hyn.

Ar ddechrau’r nofel, mae Justyce yn cael ei roi mewn gefynnau ac yn cael ei daro sawl gwaith gan blismon. Mae’r plismon yn rhegi arno ac yn dweud ei fod yn gwybod ‘am ei fath o’. Mae Justyce yn ceisio egluro’r sefyllfa ond mae’n cael ei rybuddio mewn ffordd ymosodol gan y plismon i gadw’n dawel. Mae gweithredoedd y plismon yn enghreifftiau clir o wahaniaethu a cham-drin heb sail, sy’n frawychus i gymdeithas fwy goleuedig heddiw sy’n fwy parod i dderbyn pawb, beth bynnag yw eu hil, eu cenedligrwydd, lliw eu croen neu eu rhywioldeb. Ond mae hyd yn oed y geiriau a ddefnyddiwyd gan y plismon i ddisgrifio nodweddion personol yn wahaniaethol, yn sarhaus ac yn mynd yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Eich Hawliau

Mae’r Llywodraeth yng Nghymru wedi llofnodi’r UNCRC ac mae ei erthyglau’n rhoi hawliau i blant.

  • Dywed Erthygl 2 fod gan bob plentyn yr hawliau sydd wedi’u disgrifio yn yrUNCRC, pwy bynnag ydynt, ble bynnag maent yn byw, beth bynnag mae eu rhieni’n ei wneud, pa bynnag iaith maent yn ei siarad, os ydynt yn fachgen neu ferch, beth bynnag yw eu diwylliant, a oes ganddynt anabledd neu beidio, ac a ydynt yn gyfoethog neu dlawd.
  • Mae Erthygl 8 yn cyfeirio at warchod a chadw hunaniaeth y plentyn, gan roi i bob plentyn yr hawl i gael cofnod swyddogol o bwy ydynt a bywyd teuluol, cydnabod pwysigrwydd brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau a pherthnasau eraill i hunaniaeth plentyn.
  • Mae Erthygl 19 yn datgan yn glir bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais, corfforol a geiriol, yn yr un ffordd â phawb arall.
  • Mae Erthygl 40 yn rhoi’r hawl i blant i gael help cyfreithiol a thriniaeth deg mewn system gyfiawnder sy’n parchu eu hawliau.

Yn ychwanegol at yr UNCRC, mae’r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn golygu bod pawb yn cael eu diogelu rhag gwahaniaethu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwahaniaethu’n golygu cael eich trin yn wahanol neu’n annheg, oherwydd pwy ydych chi. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw o “nodweddion gwarchodedig” – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol –  ac mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr, darparwyr iechyd a gofal, ysgolion, a chyrff cyhoeddus fel adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau lleol, i ddefnyddio unrhyw un o’r naw yma i gyfiawnhau trin unrhyw un yn wahanol i bawb arall. Mae Justyce yn profi gwahaniaethu anghyfreithlon oherwydd ei hil. Hefyd, byddai’r trais a’r sarhad mae Justyce yn ei ddioddef yn cael ei gyfrif fel “trosedd gasineb” ac o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae hynny hefyd yn anghyfreithlon.

Mynd yn groes i Hawliau Justyce

Prif themâu’r llyfr yw gwahaniaethu a llygredd gan yr heddlu, sydd i’w gweld drwy eiriau a gweithredoedd plismon rhagfarnllyd, sydd wedi mynd yn groes i hawliau Justyce drwy:

  • Proffilio a dilyn Justyce yn y lle cyntaf oherwydd lliw ei groen, gan dybio nad oes gan unigolyn croenliw hawl i fod mewn ardal gyfoethog
  • Anwybyddu pob ymdrech gan Justyce i egluro ei bresenoldeb neu ei weithredoedd
  • Bychanu Justyce fel person, gan ddefnyddio iaith sy’n ei sarhau a’i ddifenwi
  • Ymosod yn gorfforol ar Justyce
  • Cyhuddo Justyce ar gam am drosedd nad oedd wedi’i chyflawni

Hefyd, mae sut mae’r cyfryngau’n trin Justyce yn dangos i ba raddau y gall gwahaniaethu a rhagfarn effeithio ar gymdeithas ac arwain at fynd yn groes i’r hawliau y mae gan bob dinesydd hawl i’w mwynhau.

Fy marn am y llyfr

Mae Dear Martin yn ein rhybuddio nac oes gan wahaniaethu le o gwbl mewn cymdeithas weithredol. Mae hefyd yn dangos sut, mewn ffyrdd bach a mawr, amlwg a chynnil, y gall gwahaniaethu effeithio’n negyddol ar sut mae pobl yn cael eu trin. Mi oedd y llyfr wedi fy nghyfareddu. O’r dechrau i’r diwedd, ni allwn ei roi i lawr. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth byr ond dwys i’w ddarllen – mi wnes i ei orffen mewn ychydig ddyddiau – dyma’r llyfr i chi.

Cadwch olwg am ragor o flogiau yn y gyfres ‘Darllen fy Hawliau’.

Adam ydw i, ac rwy’n dod o Flaenau Gwent. Rwyf newydd gwblhau fy ngradd israddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe a byddaf yn cychwyn ar fy LPC ym mis Medi. Ar ôl gorffen yn y brifysgol, rwyf yn gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus