The Hunger Games, gan Suzanne Collins, yw un o’r llyfrau mwyaf llwyddiannus erioed a masnachfraint ffilm fwyaf proffidiol y 21ain ganrif. Mae’n dilyn stori Katniss Everdeen, sy’n enwebu ei hun fel Tribute pan mae ei chwaer, Prim, yn cael ei dewis i gystadlu yn yr Hunger Games. Caiff y digwyddiad ei ddarlledu’n genedlaethol ar y teledu ac mae’n rhaid i bob un o’r Tributes ymladd hyd at farwolaeth nes mai dim ond un sydd ar ôl.
Mae Katniss Everdeen yn Ofalwr Ifanc i’w mam a’i chwaer ar ôl i’w thad gael ei ladd mewn damwain yn y pwll glo. Mae problemau emosiynol difrifol ar y fam ac mae Katniss yn cymryd rôl y gofalwr ac yn teimlo’n amddiffynnol o Prim, a dyna pam mae hi’n gwirfoddoli fel Tribute.
Amcangyfrifir bod 700,000 o ofalwyr ifanc yn y DU, gyda thua 30,000 o ofalwyr yng Nghymru o dan 25 oed, sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iawn i Katniss Everdeen. Cymru sydd â’r gyfran fwyaf o ofalwyr o dan 18 oed yn y DU. Mae Cyfraith Cymru yn diogelu ac yn helpu Gofalwyr Ifanc mewn sawl ffordd wahanol, felly rydyn ni’n mynd i edrych ar sut mae’r gyfraith yn berthnasol i Katniss a sut gallai fod yn berthnasol i chi hefyd.
Eich Hawliau yng Nghymru
Mae Cyfraith Cymru yn ei lle fel bod Gofalwyr Ifanc yn dal i allu mwynhau eu plentyndod ac i gael yr un hawliau a chyfleoedd â phob plentyn arall. Mae Cymru wedi ymuno â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) i sicrhau bod gan bob plentyn hawliau. Nid yw llawer o bobl ifanc sy’n darparu gofal yn sylweddoli y gallent fod yn ofalwyr ifanc, ac efallai eich bod chi yn un o’r bobl hynny hefyd.
O dan yr UNCRC, mae gennych hawl i:
- Cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu (erthygl 2)
- I lunio a mynegi eich barn eich hun (erthygl 12)
- I fyw, goroesi a datblygu’n iach (erthygl 6)
- I dreulio amser gyda ffrindiau (erthygl 15)
- I fwynhau cyfleoedd hamdden ac i ymlacio a chwarae (erthygl 31)
- I gael addysg (erthygl 28 a 29)
Mae’r hawliau hyn wedi’u hymgorffori i Gyfraith Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc cymaint o ddiogelwch â phosib. Mae’r Ddeddf yn diffinio gofalwr ifanc fel “person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl”.
Sut alla i gael help?
Yn y llyfr, nid yw Katniss a’i theulu yn derbyn unrhyw help, ond does dim rhaid iddo fod yr un peth i chi. Mae gennych hawl i asesiad gan eich awdurdod lleol, lle bydd eich sefyllfa’n cael ei hystyried a chael gwybod pa gymorth y gallwch ei dderbyn. Byddan nhw’n deall sut mae eich sefyllfa yn effeithio arnoch a beth hoffech chi ddigwydd, yn ogystal â’r hyn yr hoffai’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch hefyd. Byddan nhw’n edrych ar y sefyllfa gyfan yn ogystal â’ch oedran.
Ar ôl i chi gael eich asesiad, bydd yr awdurdod lleol mewn sefyllfa i’ch cynghori ynglŷn â’r hyn y bydd ei angen arnoch chi fel Gofalwr Ifanc. Byddan nhw’n sicrhau, os oes angen help arnoch gyda’ch hawliau, fel hawl i addysg neu dreulio amser gyda ffrindiau neu fwy o amser hamdden, a dod o hyd i ffrindiau, perthnasau neu grwpiau chwaraeon cymunedol i’ch helpu chi.
Ar ôl eich asesiad, a bod yr awdurdod lleol yn dod i’r casgliad bod angen rhywfaint o help arnoch, bydd cynllun cymorth yn cael ei greu i chi. Fel pan mae Katniss yn gofyn i Gale ofalu am Prim a’i Mam er mwyn iddi allu cymryd rhan yn yr Hunger Games, ni ddylech encilio na bod yn amharod i gael help. Bydd cynllun cymorth yn disgrifio ac yn egluro’r hyn y bydd ei angen arnoch chi’n yr hirdymor – fel eich dymuniadau a’ch canlyniadau personol – a bydd yr awdurdod lleol yn amlinellu pa gymorth y bydd yn ei roi i chi er mwyn gwireddu hynny. Bydd yn rhoi gwybod i chi am yr holl gymorth a fydd yn cael ei gynnig i chi, yn ogystal â gwneud taliadau uniongyrchol i chi o bosib. Nid yw’r cynllun cymorth, y bydd gennych gopi ohono hefyd, o reidrwydd yn barhaol ac os ydych chi’n teimlo nad yw’n gweithio i chi, gallwch wastad ofyn i’r awdurdod lleol ei adolygu.
Diogelu eich Hawliau yng Nghymru
Gallwch weld nawr bod sawl ffordd y gallwch chi dderbyn help yng Nghymru os ydych yn Ofalwr Ifanc, a ddylai fod ar gael yn hawdd i chi. Mae’r system wedi’i chynllunio’n benodol i’ch helpu chi mewn unrhyw sefyllfa, fawr neu fach. Yn wahanol i Katniss, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gael eich cefnogi fel nad oes rhaid i chi, ac na ddylech, orfod brwydro ar eich pen eich hun.
Fy enw i yw Kayleigh Moore ac rydw i newydd raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd yn y Gyfraith ac Astudiaethau Americanaidd. Byddaf yn dychwelyd i Abertawe ym mis Medi i ddechrau Gradd Meistr Ymarfer y Gyfraith ac Uwch Ddrafftio Cyfreithiol, er mwyn gallu bod yn gyfreithiwr un dydd gobeithio! Tra’n Abertawe, gwirfoddolais gyda sawl prosiect i helpu pobl gyda chyngor cyfreithiol, ond fy hoff brosiect oedd edrych ar achosion o gamweinyddu cyfiawnder i weld a allai pobl a gafwyd yn euog ar gam apelio yn erbyn eu hachos. Pan oeddwn yn yr ysgol, roeddwn yn chwilio am unrhyw esgus i wirfoddoli gyda phlant, ac mae bod yn y brifysgol wedi fy nysgu pa mor bwysig yw hi bod pawb yn deall eu hawliau, waeth pa mor hen ydyn nhw, felly roeddwn i’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r Prosiect ‘Darllen fy Hawliau’. Pan nad wyf yn brysur gyda fy ngwaith, rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini a rhoi cynnig ar brosiectau crefft newydd. Yn ystod y cyfnod clo, rwyf wedi dechrau dosbarthiadau yoga ar-lein, yn ogystal â dysgu fu hun i wnïo, felly gobeithio y galla i barhau gyda’r diddordebau newydd hyn pan ddaw bywyd nôl i normal!
