Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ein prif alwad am newid:

  • Gweithrediad effeithiol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 fel bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cymorth priodol i fodloni eu hanghenion dysgu ychwanegol

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Datblygwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i gynorthwyo plant sydd ag anghenion ychwanegol mewn addysg, ac arweiniodd at ddatblygu’r System Anghenion Dysgu Ychwanegol i blant a phobl ifanc 0-25 oed.  Pasiwyd y Ddeddf yn 2018, dechreuwyd gweithredu’r system ADY ym mis Medi 2021 a chyhoeddwyd y cod ADY (2021) yn 2021.

Mae deddfwriaeth ADY yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff GIG i ystyried CCUHP.  Mae cyfranogiad plant yn rhan hanfodol o’r dull gweithredu hawliau a nodir yn Adran 6 y Ddeddf hefyd.  Mae’r Cod yn nodi dull gweithredu hawliau plant ac mae’n cyfeirio at egwyddorion Comisiynydd Plant Cymru, Y Ffordd Gywir.

Mae’r gyfraith newydd yn dweud bod ‘plentyn’ yn unigolyn dan oedran ysgol gorfodol (16 oed), a bod ‘person ifanc’ yn rhywun rhwng 16 a 25 oed, dros yr oedran ysgol gorfodol.

Caiff y ddeddfwriaeth ADY ei chyflwyno fesul cam dros 3 blynedd, sy’n golygu y bydd yr hen system AAA a’r system ADY bresennol yn rhedeg law yn llaw tan fis Medi 2025 (sy’n esbonio’r cyfeiriadau at “AAA/ADY”).

Mae’r ddeddfwriaeth, a sefydlodd y system newydd, yn cadw’r un diffiniad ar gyfer ADY ag yr oedd ar gyfer AAA, sy’n berthnasol pan fydd gan blentyn (Gweler Adran 2 y Ddeddfwriaeth):

  • anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran (na ellir rhoi sylw iddo trwy gyfrwng addysgu gwahaniaethol yn unig), neu
  • anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran, ac
  • mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY).

Mae gan bob dysgwr sydd ag ADY ac sydd wedi symud i’r system newydd, yr hawl i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol.

Mae’r CDU yn disodli’r Datganiad AAA, y Cynllun Addysg Unigol neu’r Cynllun Dysgu a Sgiliau presennol.  Bydd unrhyw ddatganiadau sy’n bodoli eisoes yn parhau i fod yn ddogfennau cyfreithiol nes y byddant yn cael eu disodli gan CDU neu nes bydd yr awdurdod lleol yn bwriadu terfynu datganiad.

Mae canllawiau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cadarnhau “os oes gan blentyn AAA, mae’n debygol y bydd ganddynt ADY”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri chanllaw gweithredu (2021/22):

  • canllaw technegol
  • canllaw i ymarferwyr
  • a chanllaw i rieni.

Maent hefyd wedi datblygu llwybr dysgu i Gydlynwyr ADY ac athrawon.

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi rhannu pryderon ac argymhellion mewn perthynas ag ADY mewn dau Ymchwiliad, a gallwch droi at y wybodaeth yma:

Gweithredu diwygiadau addysg (senedd.cymru)

 

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?  (senedd.cymru)

Mae CGPC yn gweithio gyda phartneriaid cyfreithiol a thrydydd sector ar hyn o bryd i rannu a dysgu gan yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, gyda gweithrediad y Ddeddf.  O’r sail dystiolaeth hon, rydym yn ystyried cyfleoedd ymgyfreitha strategol ac eiriolaeth polisi a allai arwain at newidiadau cadarnhaol i blant.

Mae CGPC hefyd yn atgyfeirio rhieni/gofalwyr a phlant i’n partneriaid cyfreithiol uchel eu parch os ceir tystiolaeth o achos lle y torrir hawliau cyfreithiol plant a gaiff eu diogelu gan y ddeddfwriaeth.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol ac am ddim er mwyn cael yr addysg gywir i blant a phobl ifanc sydd â phob math o anghenion addysgol arbennig (AAA) / anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau.