‘Harry Potter and the Deathly Hallows’, a gafodd ei ysgrifennu gan JK Rowling, ydy’r seithfed llyfr a’r llyfr olaf yng nghyfres Harry Potter. Mae Harry Potter yn fachgen sy’n cael gwybod ar ei ben-blwydd yn 11 oed ei fod yn ddewin, ac y bydd yn mynd i ysgol Hogwarts. Yn y llyfrau mae Harry Potter a’i ddau ffrind, Ron Weasley a Hermione Granger, yn wynebu llawer o heriau yn yr ysgol.

Ond, mae un dewin wedi troi’n ddrwg, ac yn peryglu bywyd yr holl wrachod a dewiniaid. Enw’r dewin yma ydy Lord Voldemort. Yn y llyfr olaf yma mae Harry, Ron a Hermione yn mynd ati i geisio dinistrio Voldemort, er mwyn ei rwystro rhag concro’r byd dewinol. Maen nhw’n penderfynu gadael eu cartrefi, cyn eu bod nhw’n 18 oed, i geisio dod o hyd i’r ‘Horcruxes’. Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n cael gadael cartref cyn bod yn 18 oed a bod yn oedolyn? Mae’r gyfraith yng Nghymru yn cydnabod plentyndod fel rhywbeth datblygiadol, sy’n golygu ei bod yn gadael i blant ddatblygu galluoedd ar wahanol gamau yn eu bywyd. Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gyfraith yn cydnabod hynny. Capasiti sy’n datblygu ydy’r enw am hyn.

Dy hawliau di yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (mae’n cael ei alw’n UNCRC yn aml iawn). Mae hynny’n golygu bod y Llywodraeth wedi llofnodi confensiwn, sy’n rhoi hawliau i blant.

Un o dy hawliau di ydy bod dy gapasiti sy’n datblygu yn cael ei ystyried. Mae’r wybodaeth yma i’w gweld ym mharagraff 5 UNCRC. Rhaid i reolaeth y rhiant a’r gwarcheidwad dros y plentyn fod yn briodol, gan ystyried datblygiad y plentyn a’i gapasiti sy’n datblygu. Mae capasiti sy’n datblygu yn ceisio cael cydbwysedd rhwng gadael i blant fyw eu bywyd eu hunain a dewis pryd i ddefnyddio eu hawliau, a gwarchod unigolion sy’n agored i niwed oherwydd eu bod yn ifanc ac yn anaeddfed.

Beth fydd yn digwydd os bydda i eisiau defnyddio fy hawl capasiti sy’n datblygu?

Mae UNCRC yn cydnabod bod gallu plant yn datblygu wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a datblygu, ac mae’n rhaid i rieni neu warcheidwaid addasu eu harweiniad er mwyn i blant allu cymryd mwy o reolaeth dros eu bywyd. Nod datblygiad ydy hybu a gwella lles yn ogystal â chapasiti plant, ac mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswyddau clir i gymryd camau priodol i gyflawni’r nod honno ar gyfer pob plentyn. Mae UNCRC yn gallu bod yn ffordd o hybu datblygiad, gallu a dewisiadau plant.

Mae Harry, Ron a Hermione yn dangos sut mae eu haeddfedrwydd yn datblygu drwy’r gyfres, drwy fod yn gryf wrth ymladd dewiniaid drwg a delio â marwolaeth. Maen nhw wedi gadael i’r enghreifftiau yma eu gwneud nhw’n gryfach ac yn fwy penderfynol o drechu Voldemort.

Mae Harry wedi gorfod delio â marwolaeth ers yn ifanc iawn, ac wedi tyfu i fyny heb ei fam a’i dad a gafodd eu lladd gan Voldemort. Mae Harry wedi dangos ei aeddfedrwydd drwy allu ymdopi â marwolaeth ei rieni, yn ogystal â gorfod byw gyda’i Anti a’i Yncl sy’n ei drin yn wael.

Mae Hermione wedi dangos ei haeddfedrwydd drwy ei gwybodaeth am y byd dewinol er nad yw ei rhieni yn ddewiniaid. Mae hi’n cael ei hadnabod fel y wrach fwyaf disglair yn ei blwyddyn, ac mae hi’n gallu rhoi ei gwybodaeth ar waith yn rhwydd pan fydd hi a’i ffrindiau’n wynebu heriau.

Mae Ron wedi dangos ei aeddfedrwydd drwy wynebu ei ofnau sawl gwaith. Yn yr ail lyfr, ‘Harry Potter and the Chamber of Secrets’, mae Ron yn dilyn trywydd o bryfed cop gyda Harry, er mai pryfed cop yw ei ofn mwyaf.

Mae’r pethau hyn gyda’i gilydd yn enghreifftiau o sut mae Harry, Ron a Hermione yn dangos eu haeddfedrwydd, a byddai eu gwarcheidwaid yn ystyried hynny wrth benderfynu faint o reolaeth sydd ganddyn nhw dros eu bywyd. Mae pobl ifanc yn gallu dangos eu haeddfedrwydd mewn ffordd debyg, er enghraifft: delio â marwolaeth, wynebu heriau ac ofnau, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Diogelu dy hawliau yng Nghymru

Rwyt ti wedi gweld bod y gyfraith yng Nghymru wedi cael ei chreu i amddiffyn plant, ond i adael hefyd iddyn nhw fyw bywyd hapus. Mae’r gyfraith yn cydnabod bod plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol. Mae hynny’n rhoi hyblygrwydd pan fydd plentyn eisiau defnyddio ei hawliau.

Cadwa lygad am fwy o flogiau yn y gyfres ‘Darllen fy Hawliau’.

Megan ydw i, a dwi’n astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Ar ôl gorffen fy ngradd, dwi’n gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus.