Ymwelwyr Annibynnol

Ein prif alwadau am newid:

  • Cynnig gweithredol i blant sy’n derbyn gofal i gael mynediad i Ymwelydd Annibynnol (os yw hynny er eu budd pennaf)
  • Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru nad oes ganddynt wasanaeth Ymwelydd Annibynnol ar hyn o bryd weithredu i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwybodaeth gefndirol a chyflwyniad i’n gwaith

Dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 98, mae’n ofyniad statudol bod gan bob plentyn sy’n derbyn gofal yr hawl i gael Ymwelydd Annibynnol (YA).  Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o hyn yn isel iawn o hyd, a gwelir mai nifer gyfyngedig iawn o blant sy’n derbyn gofal sy’n gallu manteisio ar y gwasanaeth hwn.

Mae Dr Croke wedi ysgrifennu blog am y mater hwn er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r methiant i gyflawni Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Mae’r blog yn dadlau bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru lunio a gweithredu cynllun mewn ffordd ragweithiol i gynorthwyo awdurdodau lleol i flaenoriaethu gwasanaethau YA a neilltuo adnoddau iddynt.  Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru nad oes ganddynt wasanaeth YA ar hyn o bryd weithredu i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol dan y ddeddf.

Ar ôl cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor CU ar Hawliau’r Plentyn am y mater hwn, roedd hi’n dda iawn gweld bod Arsylwadau i Gloi y DU wedi cynnwys argymhelliad penodol i Gymru am y tro cyntaf, mewn perthynas â’r ffaith bod plant yn gallu manteisio ar Ymwelwyr Annibynnol.  Mae argymhelliad 38 b yn sicrhau:  ‘bod plant sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal yn cael mynediad i wasanaeth ymwelydd annibynnol’.

Rydym yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argymhelliad hwn gan nodi y byddant yn gweithio i archwilio gwella gwasanaethau ymweliadau annibynnol.  Mawr obeithiwn, fodd bynnag, y byddwn yn gweld hwn yn cael ei drawsnewid yn gynllun gweithredu clir am newid cyn gynted ag y bo modd.

BLOG

Nid yw plant sy’n derbyn gofal yn cael mynediad at Ymwelwyr Annibynnol