Gwaith
- Fel plentyn, eich prif hawliau yw i dyfu a datblygu fel plentyn. Ni ddylech orfod gweithio
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn canolbwyntio ar eich cadw’n ddiogel rhag cael eich ecsbloetio gan oedolion, yn hytrach na rhoi hawliau i chi os ydych yn dymuno gweithio
- Os ydych eisiau gweithio, mae cyfreithiau yng Nghymru sydd yn eich diogelu
Yng Nghymru, mae eich hawliau wrth i chi dyfu i fyny yn ymwneud â bod yn ddiogel, byw gyda’ch teulu a chael addysg. Os ydych chi eisiau gweithio, mae rheolau sy’n golygu y gallwch barhau i gael addysg hyd yn oed os ydych chi’n gweithio, a chael y cyfnodau o orffwys a chwarae sydd eu hangen arnoch i dyfu i fyny’n iach hefyd. Os nad ydych chi’n cael mynd i’r ysgol neu’n cael chwarae, ac os ydych chi’n gorfod gweithio i rywun yn lle hynny, mae hynny’n anghywir.
Darllen ein blog a newyddion
No Results Found
The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.