Beth mae Matilda Roald Dahl yn ei ddweud wrthym am y ddeddf ar fynd i’r ysgol

Beth mae Matilda Roald Dahl yn ei ddweud wrthym am y ddeddf ar fynd i’r ysgol

Beth yw eich hoff lyfr gan Roald Dahl? Rwy’n hoff ohonyn nhw i gyd, ond fy ffefryn mwyaf yw Matilda. Os nad ydych chi wedi ei ddarllen (neu weld y ffilm, neu’r sioe gerdd), mae am ferch fach arbennig y mae ei theulu yn ei thrin fel baw – a dim ond wedi iddi gwrdd â Miss Honey, ei hathrawes, y mae oedolyn yn dechrau ei gwerthfawrogi.  Ond cyn y gall Matilda ddod o hyd i ddiweddglo hapus, mae’n gorfod brwydro yn erbyn ei theulu a’r ofnadwy Miss Trunchbull, sef Pennaeth Ysgol Gynradd Crunchem Hall.

Mae straeon Roald Dahl yn gwneud mwy na dim ond cydio yn ein dychymyg maent hefyd yn cadw’n diddordeb hyd y diwedd mewn arwyr ac arwresau sydd weithiau’n gorfod bod ychydig bach yn ddrwg ei hunain er mwyn ennill y dydd. Gall ei straeon ef ein helpu i ddeall ein hawliau ar waith, a sut y mae’r gyfraith yn gweithio yng Nghymru. Mae Matilda yn rhoi sawl cyfle i ni feddwl am y gyfraith sy’n berthnasol yn yr ysgol a’ch hawliau chi, a hefyd ynghylch sut y dylech gael eich trin gan oedolion yn gyffredinol.

Y gyfraith ynghylch mynd i’r ysgol

Roedd Matilda ychydig yn hwyr yn dechrau yn yr ysgol gynradd. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dechrau yn yr Ysgol Gynradd yn bump oed neu hyd yn oed yn gynt, ond roedd rhieni Matilda, oedd ddim yn poeni llawer naill ffordd na’r llall am addysg eu merch, wedi anghofio gwneud y trefniadau cywir. Roedd hi’n bump a hanner pan aeth i’r ysgol am y tro cyntaf.

Mae gennych chi hawl i addysg a ddylai ddatblygu eich personoliaeth a’ch doniau i’r eithaf, a’ch annog chi i barchu eich rhieni, eich diwylliant a diwylliant pobl eraill, a’r amgylchedd.  Mae’r hawliau hyn yn rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) – Erthyglau 28 a 29, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru.

Rhaid i’ch rhieni neu ofalwyr wneud penderfyniadau ynghylch sut y byddwch yn derbyn eich addysg. Mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn mynd i’r ysgol. Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i chi fynd i’r ysgol o 5 oed hyd nes eich bod yn 16 oed. Mae’r flwyddyn ysgol yn rhedeg o fis Medi hyd ddiwedd Awst, a byddwch yn dechrau’r ysgol yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn 5 oed. Mae gan wahanol ysgolion ffyrdd gwahanol o gael plant i setlo yn yr ysgol, felly weithiau bydd plant iau yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol gyntaf honno, neu’n cael dyddiau byr am gyfnod.

Does dim rhaid i chi fynd i’r ysgol, cyn belled â’ch bod yn cael eich addysg mewn rhyw ffordd arall, ac mae addysg gartref yn gweithio’n dda i rai plant. Mae oddeutu 2,000 yng Nghymru yn cael eu haddysgu gartref.

Dylai rhieni Matilda, Mr a Mrs Bogtrotter, fod wedi cofrestru Matilda fel na fyddai’n dechrau’r ysgol yn hwyr, neu fod wedi sicrhau ei bod yn cael addysg mewn rhyw ffordd arall. Mae’r wir y byddai Matilda yn mynd draw i’r llyfrgell ac y gallai ddarllen a gwneud gwaith lluosi cymhleth erbyn iddi ddechrau’r ysgol, ond doedd gan ei rhieni ddim rhan yn hynny!

Y gyfraith ynghylch sut y dylech gael eich trin yn yr ysgol gan athrawon

Os byddwch chi’n canfod eich hun ar yr ochr anghywir i Miss Trunchbull fe all hi eich troi’n hylif fel moronen mewn peiriant cymysgu…Byddai’n ddoeth i bawb ohonoch gofio bod Miss Trunchbull yn trin unrhyw un sy’n camfihafio yn yr ysgol hon yn ddifrifol iawn

Dyma’r cyngor a roddir gan Miss Honey, athrawes Matilda, i’r dosbarth ar eu diwrnod cyntaf yn Ysgol Gynradd Crunchem Hall. Mae cosbau Miss Trunchbull yn cynnwys troelli plant o gwmpas gerfydd plethau eu gwallt yn y lle chwarae, eu gorfodi i fwyta cacen siocled enfawr, ac yn fwyaf brawychus o’r cwbl o bosibl, eu cloi mewn lle o’r enw “Y Tagwr” – cwpwrdd tal, cul gyda darnau o wydr wedi torri yn sownd yn y waliau. Mae Miss Trunchbull hefyd yn enwog am wneud penderfyniadau sydyn ynghylch plant  a’u cosbi, waeth os ydynt wedi camymddwyn ai peidio.  Does dim “Tagwr” yn eich ysgol chi, ond d’yw hynny ddim yn golygu na all eich ysgol wneud rhywbeth os nad ydych chi wedi ymddwyn yn y ffordd a ddisgwylir yn yr ysgol.

Gan ddechrau gyda CCUHP, mae Erthygl 28 yn dweud bod yn rhaid i bob gwlad a lofnododd y CCUHP sicrhau bod disgyblaeth yr ysgol yn parchu eich ‘urddas dynol’. Felly mae CCUHP yn cydnabod y bydd disgyblaeth yn yr ysgol, ond na ddylech chi gael eich bwlio gan athrawon na’ch sarhau’n gyhoeddus.

Yng Nghymru, rhaid i bob ysgol gael system ddisgyblaeth sy’n golygu eich bod yn deall yr ymddygiad a ddisgwylir gennych, ac y gall eich athrawon ddelio gyda chi os nad ydych chi’n ymddwyn yn y ffordd a ddisgwylir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ynghylch sut y dylai ysgolion ac athrawon ddelio gydag ymddygiad, a gallwch eu gweld yma.  Rhaid i’r polisi ymddygiad mewn ysgolion ystyried y canllawiau, boed yn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd.

Gallwch ddarllen rhagor am eich hawliau a’r gyfraith yn yr ysgol ar ein gwefan – ac os oes gennych chi gwestiwn am y gyfraith, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu i gysylltu â ni.

Rhagor o ffyrdd o ddarllen am eich hawliau

Mae llyfrau a straeon yn aml yn cynnwys sefyllfaoedd a allai ddigwydd mewn bywyd go iawn – hyd yn oed os ydyn nhw yn cael eu gorliwio yn y llyfr. Pryd bynnag y bydd annhegwch neu rhyw fath arall o broblem, mae’n debygol pe byddai’r un peth yn digwydd mewn bywyd go iawn, y byddai cyfraith yn bodoli a allai eich amddiffyn chi. Yn ein cyfres ‘Darllen am fy Hawliau’ rydyn ni wedi edrych ar sut y gallai’r gyfraith eich amddiffyn chi:

Gadael Ymateb