Wrth i chi fynd yn hŷn cewch fwy a mwy o gyfle i wneud pethau drosoch eich hun ac i wneud eich penderfyniadau eich hun.
+ Mynd i’r ysgol
+ Yfed alcohol gartref neu ar safle preifat arall – ond mae’n debyg y bydd gan eich rhieni neu’r bobl rydych yn byw gyda nhw reolau ynglŷn â hyn.
+ Mae’n rhaid i chi fynd i’r ysgol neu gael addysg pan fyddwch yn 5 oed
+ Bod yn euog o drosedd – os torrwch chi’r gyfraith a chithau o dan 10 oed, gall camau gael eu cymryd yn eich erbyn chi neu eich rhieni, ond chewch chi ddim eich trin fel troseddwr.
+ Teithio heb sedd plentyn yn y car ond mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch.
+ Gwylio ffilm â thystysgrif ‘12’, a gwylio ffilm ‘12A’ heb oedolyn
+ Cael eich hyfforddi i gymryd rhan mewn ‘perfformiadau peryglus’ – os yw’r awdurdod lleol yn rhoi trwydded i chi.
+ Cael rhai cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – does dim cyfraith ynghylch pryd y cewch chi gyfrif cyfryngau cymdeithasol ond mae gan bob llwyfan ei reolau ei hun. Ar gyfer llawer ohonynt, 13 yw’r isafswm oedran ar gyfer cael cyfrif.
+ Cael swydd – Mae cyfyngiadau ar pryd y cewch weithio ac am faint o amser y cewch weithio, yn dibynnu ar eich oedran. I gael gwybod mwy ewch i’r adran ‘Gwaith’
+ Bod yn gyfrifol am wisgo eich gwregys diogelwch eich hun yn y car – hyd nes eich bod yn 14, y gyrrwr sy’n gyfrifol.
+ Rhoi tystiolaeth ‘ar lw’ yn y llys – mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi dyngu llw cyn rhoi tystiolaeth, yn addo dweud y gwir.
+ Gwylio ffilm â thystysgrif 15
Pan fyddwch yn 16, cewch wneud mwy o lawer heb ganiatâd eich rhieni neu ofalwyr.
+ Newid eich enw
+ Cael eich pasbort eich hun
+ Teithio ar eich pen eich hun mewn awyren
+ Cael trwydded i yrru moped
+ Gadael cartref
+ Cael tŷ cyngor
+ Cael rhif Yswiriant Gwladol
+ Hawlio Lwfans Cynnal Addysg os ydych yn dal mewn addysg
+ Hawlio Lwfans Chwilio am Waith neu Gymhorthdal Incwm
+ Gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol
+ Cael rhyw
+ Priodi – gyda chaniatâd eich rhieni; gall cyplau o’r ddau ryw neu o’r un rhyw briodi
+ Cael partneriaeth sifil – gyda chaniatâd eich rhieni; dim ond cyplau o’r un rhyw sy’n cael cofrestru partneriaeth sifil ond fe allai’r gyfraith newid cyn hir
+ Yfed alcohol mewn tafarn neu fwyty gyda bwyd os oes rhywun arall (sy’n 18 neu’n hŷn) yn ei brynu i chi
+ Prynu paent chwistrell aerosol
+ Prynu tocyn loteri
+ Prynu rhai meddyginiaethau dros y cownter, os yw hyn yn cyd-fynd â pholisi oedran y siop
+ Gadael yr ysgol – cewch adael yr ysgol ac addysg yng Nghymru ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn 16. Mae hynny’n golygu y bydd pobl sy’n cael eu pen-blwydd ym mis Gorffennaf neu Awst yn cael gadael addysg pan fyddant yn 15.
+ Gweithio’n llawn amser – er bod rhai cyfyngiadau ar nifer yr oriau y cewch weithio a’r gweithgareddau y cewch gymryd rhan ynddynt hyd nes eich bod yn 18. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran ‘Gwaith’
+ Prynu bondiau premiwm
+ Agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA)
+ Prynu eich anifail anwes eich hun
+ Gwasanaethu yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol neu’r Awyrlu Brenhinol – gyda chaniatâd eich rhieni
+ Gwneud cais am gymorth cyfreithiol
+ Cael ‘cynllun llwybr’ – os ydych wedi bod yn derbyn gofal
+ Dysgu gyrru
Pan fyddwch yn 18, rydych yn oedolyn; does gan eich rhieni ddim cyfrifoldeb rhiant amdanoch mwyach. Rydych yn cael
+Priodi
+ Gwneud cais am fwy o wybodaeth am eich mabwysiadu – os cawsoch eich mabwysiadu cewch gysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu i gael mwy o wybodaeth. Cewch hefyd ofyn i’ch enw gael ei roi ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu
+ Gwneud cais am dystysgrif newid rhywedd
+ Gwneud ewyllys
+ Ymddangos mewn llys oedolion
+ Gwasanaethu ar reithgor
+ Ymuno â’r lluoedd arfog a’r gwirfoddolwyr wrth gefn heb ganiatâd rhiant
+ Ymuno â’r gwasanaeth tân
+ Ymuno â’r heddlu
+ Prynu tŷ, dal tenantiaeth, a gwneud cais am forgais
+ Gweithio’n llawn amser yn ddigyfyngiad
+ Ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
+ Pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol a lleol – DS fe allai’r oedran pleidleisio yng Nghymru ostwng i 16
+ Cewch fod yn AS, yn AC, yn gynghorydd lleol neu’n faer
+ Prynu alcohol
+ Prynu sigaréts
+ Prynu ail-lenwad nwy i leitar neu doddyddion eraill
+ Prynu tân gwyllt
+ Cael tatŵ
+ Cael trwydded masnachu ar y stryd
+ Cael eich cyfrif banc eich hun
+ Gwylio ffilm â thystysgrif ‘18’
+ Prynu cyllell neu ddryll – bydd angen trwydded arnoch i brynu dryll
+ Cael cerdyn credyd
+ Cael gorddrafft
+ Rhoi gwaed
+ Optio allan o roi organau yng Nghymru
+ Defnyddio gwely haul – heblaw bod meddyg wedi rhoi presgripsiwn i chi i drin rhai cyflyrau, ac os felly efallai y cewch ddefnyddio gwely haul pan fyddwch o dan 18.
Beth gaf i ei wneud beth bynnag yw fy oedran?
Mae rhai pethau nad oes isafswm oedran penodol arnynt. I wneud rhai o’r pethau hyn, mae’n rhaid i chi a’r oedolion sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch wneud penderfyniad synhwyrol ynghylch a ydych yn ddigon hen i wneud y pethau hyn ar eich pen eich hun.
Mae’r rhain yn cynnwys
Mae’r NSPCC yn awgrymu na ddylech fel rheol gael eich gadael ar eich pen eich hun os ydych o dan 12, ac na ddylai plant o dan 16 gael eu gadael gartref ar eu pen eu hunain dros nos. Ond does dim isafswm oedran cyfreithiol.
Bydd angen i riant y plentyn rydych yn ei warchod benderfynu a ydych yn ddigon hen i wneud hyn.
Os yw aelod o’r staff neu’r cyhoedd yn pryderu amdanoch mae’n bosib y byddant yn gofyn pam eich bod ar eich pen eich hun, neu’n cysylltu â’r heddlu i weld a ydych yn iawn.
Yn y stryd neu yn y parc neu ar y traeth neu mewn man cyhoeddus arall.
Heblaw bod gan y siop sy’n gwerthu’r feddyginiaeth bolisi ar werthu meddyginiaeth dros y cownter.
Os ydych o dan 16 bydd y meddyg yn penderfynu a yw’n meddwl eich bod yn deall y driniaeth, ac efallai y bydd yn rhaid i’r meddyg siarad â’ch rhieni neu ofalwyr i gael cydsyniad i roi triniaeth benodol os nad yw’n meddwl eich bod yn ddigon aeddfed i ddeall.
Os ydych gyda rhywun sydd dros 18.
Ond efallai y bydd yn rhaid i un o’ch rhieni fynd gyda chi i roi eu cydsyniad.
Gyda chydsyniad pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch.
Ond gall rheolwr y sinema ddewis gadael i chi fynd i mewn neu beidio.
Os oes oedolyn gyda chi
Ond gall y siopwr ddewis ei rhentu neu ei gwerthu i chi neu beidio.
Ond gall pwy bynnag sy’n cadw’r cofnodion wrthod eu dangos i chi os byddai hynny’n achosi niwed difrifol i chi neu i rywun arall.
Ond gall pwy bynnag sy’n cadw’r cofnodion wrthod eu dangos i chi os byddai hynny’n achosi niwed difrifol i chi neu i rywun arall.
Ond gall pwy bynnag sy’n cadw’r cofnodion wrthod eu dangos i chi os byddai hynny’n achosi niwed difrifol i chi neu i rywun arall.
Os ydych yn ddigon hen i ddeall y cwestiynau ac yn gallu eu hateb yn glir.
Ond os ydych o dan 16 efallai y bydd yn rhaid i chi ddod â’ch achos i’r llys gyda chymorth ‘cyfaill cyfreitha’.
Ond chewch chi ddim eich cyfrif yn gyfrifol am unrhyw ddyled hyd nes eich bod yn 18.
Ond bydd angen cyfaill cyfreitha arnoch i wneud hynny.
Os ydych yn ddigon aeddfed i ddeall yr hyn y mae hynny’n ei olygu.
Mae’n rhaid bod gan y gyrrwr drwydded lawn (nid un dros dro). Mae’n rhaid i chi wisgo’r helmed gywir ac mae’n rhaid bod eich dwy droed yn gallu cyrraedd y troedleoedd i deithwyr.
Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2018