Gan Nikita Austin
Mae ‘The Story of Tracy Beaker’ gan Jacqueline Wilson yn dilyn hanes Tracy Beaker sy’n ddeg oed ac yn byw mewn cartref gofal i blant y mae hi’n ei alw yn ‘dumping ground’. Mae Tracy yn mynd o un helbul i’r llall ac mae hi bob amser yn dadlau gyda phlant eraill yn y cartref, yn enwedig Justine Littlewood!
Mae Tracy yn aros i deulu ei maethu. Mae hi wedi mynd at ddau deulu maeth o’r blaen ond yn anffodus, wnaeth pethau ddim gweithio felly bu’n rhaid i Tracy fynd yn ôl i’r cartref plant. Mae Tracy yn hiraethu am ei mam go iawn ac yn credu ei bod hi’n gyfoethog ac yn enwog. Mae hi’n gobeithio y daw hi i’w chasglu un diwrnod. Tra mae Tracy yn y cartref plant, mae hi’n cyfarfod awdur o’r enw Cam. Mae Tracy eisiau i Cam ei mabwysiadu. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn amddiffyn plant mewn llawer o sefyllfaoedd tebyg i Tracy, felly roeddem yn meddwl y gallem edrych ar sut mae’r gyfraith yn berthnasol i Tracy a sut y gallai fod yn berthnasol i chi.
Beth sy’n digwydd os bydd rhywun sy’n gofalu amdanoch yn eich taro
Roedd un o deuluoedd maeth Tracy yn ei tharo pan oedd yn byw gyda nhw. Os yw hyn yn digwydd i chi neu i rywun rydych yn ei adnabod, efallai yr hoffech wybod beth yw’r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru a sut mae’n amddiffyn plant.
Eich hawliau yng Nghymru
Mae’r Llywodraeth yng Nghymru wedi llofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae hyn yn sicrhau hawliau i blant. Un o’ch hawliau yw cael eich amddiffyn rhag camdriniaeth. Gellir gweld hyn yn Erthygl 19 y CCUHP. Ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, cytunodd Llywodraeth Cymru i roi ‘sylw dyledus’ i hawliau CCUHP wrth lunio unrhyw gyfreithiau newydd. Maent yn defnyddio hyn i newid y gyfraith sy’n caniatáu i rieni neu ofalwyr daro eu plant.
Mae’n anghyfreithlon taro unrhyw un. Ond gall rhieni neu ofalwyr ddefnyddio’r amddiffyniad ‘grym rhesymol’ a dadlau eu bod yn taro eu plentyn fel cosb am rywbeth a wnaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio atal hyn drwy drafod y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Os bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno, bydd y Bil yn dod yn gyfraith yn 2020 felly ni fydd rhieni’n gallu cosbi plant yn gorfforol.
Beth fydd yn digwydd petaech yn cael eich mabwysiadu
Mae Tracy eisiau i Cam ei mabwysiadu ond nid yw hi’n gwybod a fydd hyn yn digwydd. Petai Cam yn mabwysiadu Tracy, mae’r gyfraith yng Nghymru a’r hawliau a roddir i blant gan CCUHP wedi’u cynllunio i amddiffyn plant fel Tracy a gwneud yn siŵr bod plant yn hapus gyda’u rhieni mabwysiadol.
Os na all eich rhieni eich hun ofalu amdanoch, dylai gweithwyr cymdeithasol sicrhau bod gennych rywle arall y gallwch fyw ynddo lle byddwch yn ddiogel ac yn hapus. Gallai hyn gynnwys byw gyda pherthnasau eraill neu ffrindiau agos neu eich rhieni. Gallai olygu eich bod yn mynd i fyw gyda rhieni maeth nad ydynt yn gysylltiedig â’ch teulu. Os nad oes un o’r dewisiadau hyn yn briodol, gellid ystyried mabwysiadu os mai dyna sydd orau i chi. Defnyddir mabwysiadu fel ‘dewis olaf’ oherwydd yn gyfreithiol, mae’n golygu eich bod yn rhoi’r gorau i berthyn i’ch teulu genedigol ac yn perthyn i’ch teulu mabwysiadol yn lle hynny. Mae mabwysiadu yn fwy tebygol o fod yn opsiwn i blant iau. Os mai mabwysiadu yw’r peth gorau i chi, bydd Erthygl 21 o CCUHP yn berthnasol.
Mae Erthygl 21 o CCUHP yn dweud y dylai plant gael eu mabwysiadu’n ddiogel ac yn gyfreithlon, er budd gorau’r plentyn. I ddechrau mabwysiadu yng Nghymru, bydd plentyn yn cael ei roi ar Gofrestr Mabwysiadu Cymru fel rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae hyn yn dwyn ynghyd yr holl awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ac yn gadael i oedolion wybod eich bod am gael eich mabwysiadu. Bydd yr awdurdodau lleol yn archwilio’r person – neu’r bobl sydd am eich mabwysiadu i weld a ydynt yn addas i chi ac yn gallu gofalu amdanoch yn iawn. Byddwch wedyn yn cwrdd â’ch gilydd ac yn dod i adnabod eich gilydd cyn i chi gael eich mabwysiadu. Bydd gweithiwr cymdeithasol wedyn yn cytuno ar gynllun lleoliad mabwysiadu a fydd yn cael ei gwblhau gan y llys. Mae’r cynllun hwn yn gwneud yn siŵr y byddwch yn hapus ac yn cael eich cefnogi yn eich teulu newydd mabwysiadol.
Mae’r broses fabwysiadu yn debyg iawn yng Nghymru a Lloegr. Ond mae gan Gymru ffyrdd ychwanegol o wneud yn siŵr eich bod yn hapus. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru helpu awdurdodau lleol fel bod y broses fabwysiadu yn ddiogel ac yn digwydd yn gynt. Ar ôl i chi gael eich mabwysiadu, byddwch yn dod yn rhan o’ch teulu mabwysiadol.
Diogelu eich hawliau yng Nghymru
Rydych bellach wedi gweld bod y gyfraith yng Nghymru wedi’i chynllunio i amddiffyn plant mewn llawer o sefyllfaoedd. Mae hyn er mwyn helpu plant i fyw bywydau hapus a helpu i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod yn digwydd gartref, yn yr ysgol neu mewn mannau eraill. O ran Tracy, bydd rhaid i chi ddarllen y llyfr i gael gwybod a gafodd hi ddiweddglo hapus gyda Cam!
Chwiliwch am fwy o flogiau yn y gyfres ‘Darllen Fy Hawliau’.
Nikita ydw i, rydw i’n dod o Wlad yr Haf yn wreiddiol ac rydw i’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd yn astudio’r gyfraith. Ar ôl gadael y brifysgol, rwy’n gobeithio bod yn gyfreithiwr llwyddiannus.
