- Fe ddylai ble bynnag rydych yn byw fod mewn cyflwr da. Mae hynny’n cynnwys y tŷ neu’r adeilad yn ogystal â’r ardal lle mae eich tŷ
- Os yw eich rhieni’n gofalu amdanoch yn iawn, ddylech chi ddim cael eich gwahanu oddi wrthynt er mwyn i chi allu byw yn rhywle addas – fe ddylech i gyd fyw gyda’ch gilydd
- Ddylech chi ddim gorfod poeni am ble bynnag rydych yn byw – eich rhieni ddylai wneud hynny, gyda help
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i fyw mewn amodau da, sef rhywle lle y gallwch ddatblygu’n gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol, yn foesol ac yn gymdeithasol. Efallai eich bod yn byw gyda’ch rhieni, gydag aelod arall o’r teulu neu ffrind, gyda rhieni maeth, neu mewn cartref plant. Ble bynnag rydych yn byw, fe ddylech allu tyfu i fyny’n ddiogel yno. Weithiau bydd y broblem yn ymwneud â’r adeilad ei hun, neu â’r bobl eraill sy’n byw o’ch cwmpas.
Mae eich cartref fel arfer yn gysylltiedig â phwy rydych yn byw gyda nhw a phwy sy’n gofalu amdanoch. Os ydych o dan 16, mae’n debyg y byddwch yn byw gydag o leiaf un o’ch rhieni, neu mewn amgylchedd ‘teuluol’ gyda rhywun arall – perthynas, ffrind i’r teulu neu mewn teulu maeth. Fe ddylai ble bynnag rydych yn byw fod yn addas er mwyn i chi gael byw a datblygu’n iach. Os nad yw’r bobl rydych yn byw gyda nhw’n gallu darparu hyn i chi, fe ddylai’r awdurdod lleol eu helpu i ddod o hyd i rywle i fyw sy’n addas i chi.
Mae’r rhan hon o’r wefan yn trafod eich hawliau i fyw mewn amodau da gyda’ch teulu.
Gall eich teulu fod heb gartref am lawer o resymau. Mae eich hawliau plentyn i fyw mewn amodau da yn golygu, os bydd eich teulu’n colli ei gartref, y dylai’r awdurdod lleol helpu eich teulu a gwneud yn siŵr bod gennych rywle i fyw. Os ydych o dan 16, neu o dan 19 ac mewn addysg lawn amser ac yn byw gyda’ch rhieni (neu riant), mae’n rhaid i’r awdurdod tai lleol roi blaenoriaeth i’ch angen i gael rhywle i fyw.
Os ydych yn byw mewn llety wedi’i ddarparu gan yr awdurdod lleol neu gymdeithas dai, mae’n rhaid i’r llety gyrraedd safonau penodol sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Mae’r safonau hyn yn ymwneud a phob agwedd ar y tŷ rydych yn byw ynddo ac fe ddylent olygu, os ydych yn rhentu tŷ gan y cyngor neu gymdeithas dai, y dylai fod mewn cyflwr da.
Hyd yn oed os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat sy’n cael ei rentu’n breifat (nid gan yr awdurdod lleol neu gyda chymdeithas dai), mae’n rhaid i’r landlord ei gadw mewn cyflwr da. Mae’n rhaid i’r landlord hefyd adael i chi ddefnyddio’r tŷ heb darfu arnoch. Os yw’r landlord eisiau dod i archwilio’r tŷ, mae’n rhaid iddo neu iddi roi gwybod ymlaen llaw.
Mae’n rhaid i landlordiaid ‘preifat’ yng Nghymru fod ar gofrestr. Mae’n rhaid i bobl sy’n gofalu am dai rhent preifat (gallai fod yn landlord neu gallai fod yn rhywun mae’r landlord yn ei dalu i ofalu am yr eiddo) gael trwydded.
Gallwch weld a yw landlord preifat, neu rywun (‘asiant’) sy’n gofalu am yr eiddo rydych yn ei rentu, wedi’i gofrestru neu ei drwyddedu drwy fynd i wefan Rhentu Doeth Cymru.
Os yw landlord neu asiant yn achosi problemau i chi, gallwch roi gwybod am hynny drwy Rhentu Doeth Cymru hefyd.
Os yw ble bynnag rydych yn byw mewn cyflwr gwael a’r landlord ddim yn gwneud gwaith atgyweirio, gallwch ddweud wrth yr awdurdod lleol. Os gallai’r problemau effeithio ar eich lles neu ar eich iechyd neu’ch diogelwch, gall y cyngor ddweud wrth y landlord am wneud gwelliannau i’r adeilad.
Efallai y bydd pobl eraill lle rydych yn byw – yn eich bloc, ar eich stad, i lawr y ffordd – sy’n ei gwneud yn anodd i chi fyw yno. Os bydd rhywun sy’n 10 oed neu’n hŷn yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol, gall llys wneud gorchymyn o’r enw Gwaharddeb i Atal Niwsans ac Aflonyddwch. Os bydd pobl yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol yn eich ardal chi, gallwch chi neu eich rhieni ffonio 101, neu gysylltu â’r awdurdod lleol a fydd yn gallu helpu.
Mae gennych chi (a’ch teulu) hawl i gael eich diogelu rhag cael eich trin yn wael oherwydd eich hil neu grefydd. Os ydych yn cael eich bygwth neu eich bwlio, neu os yw eich eiddo’n cael ei ddifrodi neu eich bod yn cael eich brifo neu’n cael eich targedu fel arall oherwydd eich hil neu grefydd, gallai hynny fod yn drosedd hil ac fe ddylai’r heddlu gael gwybod. Os oes raid i chi fyw gyda’r math yma o ymddygiad yn rheolaidd, gallwch ddweud wrth yr heddlu bob tro y mae’n digwydd.
Hyd yn oed os na fydd yr heddlu’n gallu profi bod hyn yn digwydd oherwydd eich hil neu grefydd, gallai fod yn drosedd serch hynny. Os oes modd profi ei fod yn digwydd oherwydd eich hil neu grefydd, fe allai pwy bynnag sy’n ymddwyn fel hyn gael cosb fwy llym gan y llys.
Mae gennych hawl i fyw gyda’ch rhieni os ydynt yn gofalu amdanoch yn iawn, ac os nad ydych yn cael eich esgeuluso, eich cam-drin na’ch brifo yn rhyw ffordd. Os nad oes neb i ofalu amdanoch, fe ddylai’r awdurdod lleol ddarparu rhywle i chi fyw. Os nad yw eich rhieni’n cytuno, gall yr awdurdod lleol gamu i mewn a gofyn i’r llys am orchymyn gofal. Er mai’r barnwr fydd yn penderfynu ble y byddwch yn byw, bydd yn ystyried eich barn a’ch teimladau. Bydd sefydliad o’r enw CAFCASS CYMRU yn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed.