- Weithiau, efallai na fydd eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch am ryw reswm
- Efallai y byddant yn gwneud trefniadau i rywun arall ofalu amdanoch
- Bydd eich rhieni’n gyfrifol amdanoch o hyd ac efallai y bydd yn rhaid iddynt fod yn rhan o benderfyniadau am yr hyn fydd yn digwydd i chi
Mae gennych hawl, fel plentyn, i fyw gyda’ch rhieni ac i beidio â chael eich gwahanu oddi wrthynt. Ond weithiau, efallai na fydd eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch yn iawn. Efallai y bydd yn rhaid i un ohonynt fynd i’r ysbyty, neu efallai y bydd yn rhaid iddynt fynd i fyw yn rhywle arall, dramor efallai, lle nad yw’n bosib neu’n ymarferol i chi fynd. Gall eich rhieni wneud trefniadau i chi i fyw gyda rhywun arall ar yr adegau hynny pan na fyddan nhw’n gallu gofalu amdanoch. Os na fyddant yn gallu gwneud y trefniadau hynny, mae’n bosib y bydd yr awdurdod lleol yn camu i mewn i helpu er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.
Weithiau, mae rhywbeth yn mynd o’i le i bobl. Efallai y bydd rhywbeth yn digwydd sy’n golygu na fydd eich mam a’ch tad (neu pa un bynnag rydych yn byw gydag ef neu hi) yn gallu gofalu amdanoch am gyfnod. Gallai fod am ychydig ddyddiau neu am fwy na hynny. Efallai y bydd yn rhaid iddynt fynd i’r ysbyty, neu efallai y byddant gyda’r heddlu am ryw reswm. Yn aml iawn, bydd eich rhieni wedi trefnu i rywun arall ofalu amdanoch. Os na allant wneud hyn, gall yr awdurdod lleol helpu drwy roi lle diogel i chi i fyw tra bo’r mater yn cael ei ddatrys.
Efallai hefyd y bydd yr awdurdod lleol yn ceisio cysylltu â pherthynas neu ffrind er mwyn i chi gael aros gyda nhw. Fel arall, efallai y cewch fynd i fyw gyda theulu maeth. Os felly, fe ddylech allu gweld eich rhieni a bydd ganddynt gyfrifoldeb rhiant amdanoch o hyd.
Efallai y bydd eich rhieni’n gofyn i berthynas agos neu ffrind ofalu amdanoch am fwy nag ychydig ddyddiau. ‘Gofal gan Berthynas’ neu ‘Ofal Teulu a Ffrindiau’ rydym yn galw hyn.
Os bydd eich rhieni’n gofyn i rywun sydd heb gysylltiad agos â chi ofalu amdanoch, rydym yn galw hynny’n ‘drefniant Maethu Preifat’. Hyd yn oed os nad yw hyn wedi ei drefnu gan yr awdurdod lleol, fe ddylai’r awdurdod lleol gael gwybod beth sydd wedi digwydd er mwyn iddo allu gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.
Os na all eich rhieni wneud y trefniadau hyn, efallai y byddant yn gofyn i’r awdurdod lleol wneud trefniadau (neu efallai y bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwneud trefniadau). Os na allwch fyw gyda rhywun sy’n perthyn i chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, efallai y cewch aros gyda gofalwr maeth.
Mae hwn yn benderfyniad mawr, hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr y bydd yr awdurdod lleol yn gofalu amdanoch. Fe ddylech allu dweud wrth rywun beth rydych yn ei feddwl a sut rydych yn teimlo am hyn cyn i’r penderfyniad gael ei wneud. Pan fydd yr awdurdod lleol yn gwneud unrhyw benderfyniad amdanoch, fe ddylai wrando ar eich barn a’i hystyried. Dylai pob penderfyniad fod yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i chi.
Fe ddylai fod cynllun sy’n dweud beth fydd yn digwydd i chi, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig ddyddiau y mae angen gofal arnoch, cyn i chi fynd yn ôl adref. Dylai’r cynllun gael ei adolygu’n rheolaidd a’i newid os oes angen er mwyn sicrhau eich bod yn cael digon o ofal. Os bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol ofalu amdanoch yn fwy parhaol, mae’n rhaid iddo gymryd camau i drefnu hynny fel bod pethau’n fwy sefydlog i chi.
Os nad yw eich rhieni eisiau i’r awdurdod lleol ofalu amdanoch, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a ddylai fynd at yr heddlu a’r llysoedd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Gallai hyn olygu bod yn rhaid i chi fyw yn rhywle arall. Fyddai hyn ddim ond yn digwydd pe byddech yn cael eich esgeuluso’n ddifrifol neu pe byddai eich rhieni’n gwneud niwed i chi. Cewch wybod mwy am hyn yn yr adran ‘Dyw fy rhieni ddim yn gofalu amdanaf yn iawn’.
Weithiau, mae perthynas pobl â’i gilydd yn gallu torri i lawr, er nad oes ‘bai’ ar neb. Wrth i chi fynd yn hŷn efallai y bydd gennych syniadau gwahanol i’ch rhieni ac yn y pen draw efallai na fyddwch yn gallu byw gyda’ch gilydd. Os ydych yn 16 neu’n hŷn, cewch adael, neu efallai y bydd eich rhieni’n gofyn i chi adael. Bydd yr awdurdod lleol yn gallu helpu i wneud trefniadau i ddod o hyd i rywle diogel i chi i fyw, a bydd yn gallu eich helpu chi a’ch rhieni i geisio gwella’r berthynas. Efallai y byddwch yn teimlo’ch bod yn gallu symud yn ôl adref i fyw. Hyd yn oed os na symudwch yn ôl adref, efallai y bydd y camau a gymerwch i wella eich perthynas â’ch rhieni’n helpu i roi pethau’n ôl ar y trywydd iawn.
Mae gennych yr un hawliau i beidio â chael eich gwahanu oddi wrth eich teulu, ac fe ddylai pob penderfyniad am eich gofal a ble y dylech fyw fod yn seiliedig ar y ffaith mai gyda’ch ‘teulu’ yw’r lle gorau i gael gofal, heblaw bod rhesymau pam na ddylai hynny ddigwydd.
Os ydych yn 16 neu’n 17 ac yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol gyda chydsyniad eich rhieni, mae pethau ychydig yn wahanol. Gall yr awdurdod lleol barhau i ddarparu llety i chi hyd yn oed os yw eich rhieni eisiau i chi fynd adref. (Os ydych o dan 16 a bod yr awdurdod lleol yn gofalu amdanoch gyda chydsyniad eich rhieni, gall eich rhieni ddod â’r trefniant hwn i ben ar unrhyw adeg.)
Os ydych yn 16 ac nad ydych eisiau i’r awdurdod lleol barhau i ddarparu llety i chi, cewch adael y llety a mynd i rywle arall i fyw.
Os ydych yn 16 neu’n 17 ac mewn sefyllfa lle rydych yn ‘ddigartref’ – neu os oes perygl i chi fod yn ddigartref – efallai oherwydd bod eich rhieni wedi gofyn i chi adael cartref, fe ddylai’r awdurdod lleol gydnabod eich hawl i gael gofal gan eich teulu a cheisio datrys unrhyw broblemau sydd gennych gyda’ch rhieni neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch. Os yw eich teulu’n eich trin yn wael, fe ddylech gael help i chwilio am rywle arall i fyw.
Os ydych yn 16 neu’n 17 ac nad ydych eisiau byw gartref mwyach, cewch wybod mwy am y dewisiadau sydd ar gael i chi yma.