Rydw i’n gofalu am rywun gartref

  • Yng Nghymru, mae tua 30,000 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc– pob un o dan 25
  • Mae gennych eich hawliau plentyn os ydych yn gofalu am rywun a chithau o dan 18
  • Os yw’r awdurdod lleol yn gallu bodloni eich angen o ran cymorth, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eich helpu

Er mai eich rhieni sydd i fod i ofalu amdanoch, weithiau mae rhywbeth yn digwydd sy’n golygu bod yn rhaid i chi ofalu am un o’ch rhieni neu berthynas arall, fel brawd neu chwaer, neu fam-gu neu dad-cu. Os ydych yn ofalwr ifanc, neu’n ofalwr sy’n oedolyn ifanc (os ydych dros 16), ddylech chi ddim colli’r cyfle i fod yn blentyn. Fe ddylech allu cael addysg, a chael amser i ymlacio a chwrdd â’ch ffrindiau, yn union fel pob plentyn arall yng Nghymru. Gall fod yn anodd iawn os ydych yn gofalu am rywun gartref, felly fe ddylech gael help i wneud yn siŵr eich bod yn cael cyfle i arfer eich hawliau i gyd.

Yn ogystal â’r holl hawliau y dylai pob plentyn eu cael, yng Nghymru mae llawer o gymorth ar gael i chi fel gofalwr ifanc neu ofalwr sy’n oedolyn ifanc. Gall gofalu am rywun arall beri straen a gofid mawr, yn enwedig os ydych yn ifanc. Os ydych yn gwybod bod cymorth ar gael i chi, ac i bwy bynnag rydych yn gofalu amdanynt, gall hynny eich helpu i wneud penderfyniadau am eich bywyd. Mae’r cymorth hwn yn golygu y bydd yn haws i chi fynd i’r ysgol, neu i’r gwaith os oes angen i chi wneud hynny, a chael amser i gwrdd â ffrindiau ac ymlacio.