Rhian Howells- Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu, Canolfan Gyfreithol Y Plant Cymru
Dyma gwestiwn rydyn ni’n ei ofyn drwy’r amser yn ein sesiynau allgymorth:
“Pa oedran sydd raid i chi fod i gael eich arestio?”
Dros hanner yr amser, mae pobl ifanc ac oedolion yn ateb yn anghywir. Yr ateb mwyaf cyffredin ydy 16 oed. Ond mae’r ateb cywir yn synnu llawer o bobl
Pa oedran sydd raid i chi fod i gael eich arestio yng Nghymru?
Yng Nghymru a Lloegr, yr oedran cyfrifoldeb troseddol ydy 10 oed yn unig. Felly, os yw’r heddlu’n meddwl eich bod chi wedi cyflawni trosedd, gallwch chi gael eich arestio a’ch dal yn gyfrifol yn droseddol o 10 oed ymlaen.
Beth ydy ystyr “Oedran Cyfrifoldeb Troseddol”?
Dyma’r oedran pan fydd y gyfraith yn dweud eich bod chi’n ddigon hen:
- I gael eich cyfweld a’ch cadw gan yr heddlu
- I gael eich noeth-chwilio
- I gael eich erlyn mewn llys ieuenctid neu lys y goron
- I gael eich dedfrydu i sefydliad troseddwyr ifanc
- I gael cofnod troseddol a all barhau hyd yn oed pan fyddwch yn oedolyn.
Er mai plentyn ydych chi o hyd yn ôl y gyfraith.
Ydy hyn yr un fath ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Nac ydy!
· Roedd yr Alban wedi codi’r oedran i 12 oed o dan Ddeddf Oedran Cyfrifoldeb Troseddol (Yr Alban) 2019. Mae Cymru a Lloegr wedi parhau i’w gadw ar 10 oed
Mae llawer o eiriolwyr hawliau plant yn galw am newid hyn. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi argymell codi’r oedran i 14 oed o leiaf. Mae Uwch-farnwyr yn galw am godi’r oedran. Yng Nghymru, galwodd y Comisiwn dros Gyfiawnder yn 2019 hefyd am godi’r oedran. Ychydig wythnosau’n ôl, ar 14 Ionawr, cafwyd dadl yn Senedd Cymru a chyflwynwyd dadleuon i godi’r oedran, a dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru y byddant, cyn bo hir, yn cwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o ddadl y Senedd.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru’r pŵer i newid y gyfraith, oherwydd bod y pwerau dros gyfraith cyfiawnder troseddol heb gael eu datganoli, maent yn aros gyda Llywodraeth y DU.
Cwestiwn Mawr: Ydy hyn yn gwneud synnwyr?
Yng Nghymru:
- Chewch chi ddim pleidleisio tan 16 oed
- Ond gallwch chi fod yn droseddol gyfrifol pan fyddwch yn 10 oed
Felly, rydych chi’n cael eich ystyried yn rhy ifanc i ddewis pwy sy’n rhedeg y wlad, ond yn ddigon hen i gael eich cosbi gan y system cyfiawnder troseddol? Efallai eich bod chi hefyd yn gwybod bod dadl ac ymgynghoriad cenedlaethol yn holi a ddylid gwahardd pob plentyn dan 16 oed rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Os daw’r gwaharddiad i rym, byddai hyn yn golygu bod plant o dan 16 oed yn cael eu hystyried yn rhy ifanc i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ond yn ddigon hen i gael eu cosbi gan y system cyfiawnder troseddol.
Dyna pam mae llawer o bobl yn meddwl ei bod yn bryd ailfeddwl cyfiawnder plant. Gweler y blogiau canlynol sy’n ystyried y cwestiynau hyn: Rhy ifanc i bleidleisio yn 15 oed – ond yn Droseddol Gyfrifol yn 10 oed?Amser i Ailfeddwl am Gyfiawnder Plant yng Nghymru a Lloegr | Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Rhy Ifanc ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol — Digon Hen ar gyfer Cyfrifoldeb Troseddol? Amser i Ailfeddwl am Gyfiawnder Plant yng Nghymru a Lloegr | Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.
Beth am Wledydd Eraill?
Mae’n wahanol iawn ar draws y byd, er enghraifft:
- Cymru a Lloegr, ar y cyd â’r Swistir, sydd â’r oedran isaf ar gyfer cyfrifoldeb troseddol yn Ewrop, sef 10 oed.
- Yn y rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop, mae’r oedran cyfrifoldeb troseddol yn fwy na 14 oed
Gweler rhai enghreifftiau yn y Tabl isod:
Gwlad Oedran Cyfrifoldeb Troseddol
Cymru/Lloegr 10 – yr ieuengaf yn Ewrop
Yr Alban 12
Gwlad Belg 12
Yr Iseldiroedd 12
Yr Almaen 14
Yr Eidal 14
Sbaen 14
Sweden 15
Norwy 15
Y Ffindir 15
Portiwgal 16
Lithwania 16
Lwcsembwrg 15
Felly, mae Cymru a Lloegr mewn gwirionedd yn wahanol i lawer o leoedd eraill.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae deall eich hawliau yn rhywbeth pwerus. Po fwyaf o bobl ifanc sy’n gwybod sut mae’r system yn gweithio, y gorau y gallwn ni i gyd bwyso am newid sy’n deg, diogel a chefnogol. Mae gwefan Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn cynnwys gwybodaeth sy’n addas i bobl ifanc.
