Rydw i oddi cartref

  • Os ydych chi yng Nghymru ond eich bod oddi cartref, mae gennych hawliau i’ch diogelu
  • Mae gennych yr un hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn â phob plentyn arall yng Nghymru – does dim ots a ydych wedi byw yma gydol eich oes neu a ydych newydd gyrraedd
  • Mae help ar gael i chi i gael mynd adref os dyna rydych ei eisiau, neu efallai y cewch aros yng Nghymru os byddai hynny’n well i chi

Os ydych yn blentyn yng Nghymru, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eich diogelu. Does dim ots a ydych wedi byw yng Nghymru gydol eich oes neu a ydych newydd gyrraedd. Mae eich hawliau’n bwysicach fyth os ydych chi oddi cartref ac i ffwrdd oddi wrth y bobl a fyddai fel arfer yn eich diogelu ac yn gofalu amdanoch os ydych o dan 18.

Mae gennych hawl i gadw mewn cysylltiad â phobl gartref hyd yn oed os nad ydych yn byw gartref. Os ydych oddi cartref, ac yn byw yn rhywle wedi’i drefnu gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae gennych hawliau i wneud yn siŵr bod ble bynnag rydych yn byw yn ddiogel a’ch bod yn byw mewn amodau da. Os ydych oddi cartref oherwydd bod rhywun wedi mynd â chi i ffwrdd a dod â chi i Gymru ac os ydych yn cael eich brifo neu eich cam-drin, mae eich hawliau’n golygu y dylech gael eich diogelu rhag cael eich trin fel hyn.

Nid Cymru yw fy nghartref

Gan mai plentyn ydych chi, mae gennych hawl i gael gofal gan eich rhieni. Mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant amdanoch sy’n golygu mai nhw sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau mawr ynglŷn â’ch bywyd. Mae eich hawliau i gyd yn seiliedig ar allu byw gyda’ch rhieni cyhyd ag y bo modd. Os bydd eich rhieni’n penderfynu symud i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig, neu o wlad arall, bydd eich ‘cartref’ gyda nhw, heblaw bod rheswm pam nad byw gyda nhw yw’r peth gorau i chi.

Os yw eich rhieni wedi gwahanu ac wedi cytuno gyda phwy y dylech fyw neu os yw llys wedi penderfynu gyda phwy y dylech fyw, bydd disgwyl i chi fyw gyda’r rhiant hwnnw. Os ydych chi eisiau aros, bydd yn rhaid newid y trefniadau sydd wedi’u gwneud. Os yw’r rhiant rydych yn byw gydag ef neu hi wedi symud, neu eisiau symud, i Gymru, sy’n golygu y byddwch yn bellach oddi wrth eich rhiant arall a ble bynnag rydych yn meddwl amdano fel ‘gartref’, bydd disgwyl i chi barhau i fyw gyda’r rhiant hwnnw heblaw eich bod yn gallu dod o hyd i ffordd o newid y trefniadau. Weithiau, gall y rhiant arall ofyn i’r llys atal y cynlluniau i symud.

Gallwch geisio siarad â’r rhiant rydych yn byw gydag ef neu hi i gael gweld a allwch newid pethau, neu wneud trefniadau gwahanol. Os bydd yn rhaid i lys benderfynu ynghylch hyn, fe ddylai wrando ar yr hyn rydych chi ei eisiau a bydd yn gwneud y penderfyniad sydd, ym marn y llys, orau i chi ynglŷn â gyda phwy y dylech fyw – a ble y dylech fyw.

Os oes rhywun wedi dod â chi i Gymru ac yn eich gorfodi i weithio, neu os ydych yn cael eich cam-drin, gallwch gael cymorth i fynd adref os allwch chi ddweud wrth rywun am yr hyn sy’n digwydd i chi. Os cewch gyfle i fynd allan ar eich pen eich hun, gallech geisio dweud wrth yr heddlu beth sy’n digwydd i chi. Gallech gysylltu â sefydliad fel Childline neu’r Runaway Helpline.

Hyd yn oed os oes rhywun sy’n eich trin yn wael wedi dod â chi i Gymru, neu os oes rhywun wedi eich rhoi i bobl eraill sydd wedi eich trin yn wael, efallai na fyddwch eisiau mynd ‘adref’ oherwydd yr hyn a allai ddigwydd i chi ar ôl i chi gyrraedd.

Gan mai plentyn ydych chi, mae gennych holl hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac felly mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylech fynd adref ai peidio bob amser fod yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i chi. Os yw eich cartref yn rhywle arall yn y DU, ond eich bod yn cael eich trin yn wael yno ac nad ydych eisiau mynd adref, mae’n bosib y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio penderfynu beth ddylai ddigwydd nesaf. Fe ddylent bob amser siarad â chi am yr hyn rydych chi ei eisiau, a gwneud y penderfyniadau sydd orau i chi.

Yng Nghymru y mae fy nghartref

Fe allech orfod byw oddi cartref am gyfnod am lawer o wahanol resymau. Gallai fod oherwydd nad yw eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch yn iawn, neu oherwydd bod rhywun wedi eich brifo gartref. Efallai fod angen cymorth ychwanegol ar eich rhieni a’r bobl gartref i ofalu amdanoch, a gallai hynny olygu byw oddi cartref. Efallai y bydd yn rhaid i chi fyw oddi cartref am gyfnod hefyd os ydych chi wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu ac yn gorfod mynd i Lety Cadw Ieuenctid.

Yn dibynnu beth yw’r sefyllfa a beth sydd orau i chi, fe ddylech allu cadw mewn cysylltiad â’ch teulu gartref hyd yn oed os ydych yn byw gyda gofalwyr maeth neu mewn cartref plant. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu amdanoch ei gwneud yn hawdd ac yn hwylus i chi gadw mewn cysylltiad â’ch rhieni a phobl eraill gartref rydych chi eisiau cadw mewn cysylltiad â nhw.
Bydd eich teulu’n cael dod i ymweld os ydych mewn Llety Cadw Ieuenctid. Mae gwahanol reolau ar gyfer Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, Canolfannau Hyfforddi Diogel neu Gartrefi Diogel i Blant. Cewch wybod mwy yn ein hadran ar fod yn y ddalfa.

Unwaith eto, mae rheolau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o Lety Cadw Ieuenctid, ond byddwch yn cael cadw mewn cysylltiad â’ch teulu drwy lythyrau a galwadau ffôn.

Os ydych yn byw gyda’ch rhieni, neu gyda’ch brodyr a’ch chwiorydd, neu gydag aelodau eraill o’r teulu, efallai y byddwch eisiau cadw mewn cysylltiad â nhw.

Mabwysiadu

Os ydych wedi cael eich mabwysiadu, rydych yn dod yn rhan o’r teulu mabwysiadol. Yn gyfreithiol, nid ydych yn perthyn i’ch teulu biolegol mwyach, ond er hynny, dylech gael gwybod am eich cefndir a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu biolegol, os yw hyn yn iawn ac yn ddiogel chi.

Mae gwaith ‘Taith Bywyd’ gyda gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr yn un ffordd y gallwch gael gwybod am eich cefndir.  Ynghyd â’ch gwaith taith bywyd, bydd cynllun ar waith ar gyfer cynnal cyswllt gyda’ch teulu biolegol. Bydd hyn yn cynnwys fel arfer ‘cyswllt anuniongyrchol’ – a elwir yn aml yn ‘gyswllt blwch llythyrau’ – sydd wedi ei seilio ar gyfnewid llythyrau.

Diben y cyswllt anuniongyrchol yw eich helpu chi i ymgartrefu â’ch teulu mabwysiadol a’ch amddiffyn rhag risgiau a allai ddod o gyswllt uniongyrchol gyda’ch teulu biolegol, ond gan eich galluogi i gadw mewn cyswllt â nhw. Drwy gyswllt anuniongyrchol, gallwch gael gwybod am hanes aelodau o’ch teulu biolegol a gallant hefyd ddysgu yr un peth amdanoch chi. Yn y lle cyntaf, bydd y trefniadau hyn ar waith rhwng eich mabwysiadwyr a’ch rhieni biolegol a/neu frodyr neu chwiorydd. Gall eich mabwysiadwyr ddweud wrthych pa mor aml mae’r cyswllt hwn yn digwydd; efallai y byddwch eisoes wedi cyfnewid llythyrau neu greu lluniau i anfon at eich teulu biolegol.

Os oes gennych frodyr neu chwiorydd sydd hefyd wedi eu mabwysiadu, ond mewn teuluoedd eraill, neu os ydyn nhw mewn gofal maeth hirdymor, neu fathau eraill o leoliadau, efallai bydd y cynllun yn annog trefniadau cyswllt uniongyrchol – cyfarfodydd ac ymweliadau – gyda nhw.

Ni ellir gorfodi neb i barhau i gadw trefniadau cyswllt. Weithiau, ni fydd teuluoedd biolegol yn cadw mewn cyswllt. Yn yr un modd, er y caiff teuluoedd mabwysiadol eu hannog i gynnal y cyswllt, bydd achlysuron pan na fydd hyn yn digwydd. Efallai y bydd yn bosib i chi siarad â’ch rhieni mabwysiadol am y rheswm pam nad oes cyswllt yn digwydd neu ddweud yr hoffech i hyn newid. Os nad ydych yn teimlo’n gysurus am hyn, gall eich Asiantaeth Fabwysiadu neu eich Tîm Cymorth Mabwysiadu Rhanbarthol gynnig help a chymorth i chi.

Derbyn Gofal

Pan fo’r Awdurdod Lleol wedi cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb dros eich lles, y term am hyn yw eich bod yn ‘derbyn gofal’.

Os ydych yn derbyn gofal, dylai’r Awdurdod Lleol hyrwyddo’r cyswllt â’ch teulu biolegol, yn ogystal â’ch brodyr a’ch chwiorydd nad sydd yn byw gyda chi. Dylai eich cynllun gofal egluro’r trefniadau cyswllt.

Os oes gennych gwestiynau o ran cyswllt, neu os bydd eich dymuniadau o ran cadw cyswllt yn newid, gallwch siarad â’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu’r Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) sydd yno i sicrhau bod eich cynllun gofal yn gweithio.

Gall eich gweithiwr cymdeithasol eich helpu i gael cymorth eiriolaeth i’ch helpu i gyflwyno’r sylwadau yr hoffech eu gwneud am gysylltu â’ch brodyr neu chwiorydd neu eich rhieni biolegol.

Gofal gan Deulu a Ffrindiau/Gwarchodaeth Arbennig

Weithiau, efallai y byddwch yn byw gyda rhiant neu berthynas ond yn dal i fod yn ‘derbyn gofal’ oherwydd bod eich teulu yn cael cymorth gan yr Awdurdod Lleol.

Fel arall, gellid gwneud trefniadau i chi fynd i fyw gydag un o’ch rhieni, perthynas arall, neu gyda ffrindiau drwy naill ai Orchymyn Trefniadau Plant neu Warchodaeth Arbennig. Unwaith y bo trefniadau ar waith, ni fyddwch yn cynnal cysylltiad parhaus gyda Gweithiwr Cymdeithasol na gyda SAA.

Os hoffech siarad am gynnal cysylltiad gyda brodyr neu chwiorydd, neu aelodau eraill o’ch teulu, y lle cyntaf i ddechrau fydd y bobl sy’n gofalu amdanoch a all esbonio rhagor am yr hyn a ddigwyddodd a’ch helpu i greu cysylltiad.

Mwy o wybodaeth!

Mae eich hawliau plentyn yn canolbwyntio ar gael gofal gan eich teulu. Os nad yw eich teulu’n gofalu amdanoch yn iawn neu os yw’n eich trin yn wael, mae cyrff cyhoeddus fel yr awdurdod lleol yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu.

Hyd nes eich bod yn 16, bydd y trefniadau a fydd yn cael eu gwneud i’ch diogelu’n cynnwys dod o hyd i rywle arall i chi i fyw lle y byddwch yn ddiogel. Gallai hynny fod gydag aelod arall o’r teulu neu ffrind, gyda theulu maeth neu mewn cartref plant.

Os ydych yn 16 neu’n 17 a bod perygl i chi fod yn ddigartref oherwydd rhywbeth sy’n digwydd i chi gartref, fe ddylai gwasanaethau cymdeithasol ac adran dai eich awdurdod lleol weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i rywle addas i chi i fyw. Oherwydd eich bod yn hŷn, gallai hyn olygu dod o hyd i fflat i chi neu rywle arall sy’n fwy annibynnol.

Os nad ydych yn cael eich diogelu a chithau wedi rhedeg i ffwrdd o gartref, neu os ydych wedi rhedeg i ffwrdd o gartref am nad ydych yn hoffi’r hyn sydd wedi’i drefnu i’ch cadw’n ddiogel, gallech fod yn eich rhoi eich hun mewn perygl. Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn meddwl mai’r peth gorau i chi fyddai aros mewn Cartref Diogel i Blant am gyfnod.