Beth mae plant a phobl ifanc yng Nghymru eisiau ei wybod am y gyfraith heddiw? A sut maen nhw eisiau cael gafael ar gymorth cyfreithiol pan fydd ei angen arnyn nhw?

Dyma’r cwestiynau y tu ôl i’n harolwg diweddar i 143 o bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed. Mae eu hymatebion yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut mae plant yn deall y gyfraith, pa fathau o broblemau cyfreithiol maen nhw’n dod ar eu traws, a pha gymorth maen nhw’n teimlo sydd ddim ar gael. Er bod ymchwil debyg a gynhaliwyd wyth mlynedd yn ôl wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn addysg gyfreithiol a chael gafael ar wybodaeth gyfreithiol yng Nghymru, mae’r canfyddiadau diweddaraf yn ein helpu i ddeall sut mae anghenion a disgwyliadau plant yn datblygu.

Yn anad dim, mae’r canlyniadau’n dangos bod pobl ifanc eisiau gwybodaeth ymarferol am y gyfraith sy’n gysylltiedig â’r materion sy’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.

 

Beth mae plant yn ei ddweud am y gyfraith yn eu bywydau nhw

Pan ofynnwyd iddynt sut mae’r gyfraith yn effeithio ar eu bywydau nhw, cymysg oedd yr ymatebion. Dim ond grŵp bach ddywedodd fod y gyfraith yn effeithio arnyn nhw bob dydd (15 o ymatebwyr), a dywedodd 27 o ymatebwyr fod y gyfraith yn effeithio arnyn nhw ar adegau. Teimlai’r mwyafrif mai anaml y mae’r gyfraith yn effeithio arnynt (50) neu nad yw’n cael unrhyw effaith ar eu bywydau o gwbl (35).

Mae’r canfyddiad hwn yn arbennig o ddiddorol o’i gymharu ag ymchwil gynharach ar addysg gyfreithiol gyhoeddus yng Nghymru. Awgrymodd arolygon blaenorol fod llawer o bobl ifanc yn credu bod y gyfraith yn chwarae rhan lawer mwy gweladwy yn eu bywydau bob dydd, gydag ychydig o dan hanner yn dweud bod y gyfraith yn effeithio arnynt bob dydd.

Mae’n bosibl bod y cyferbyniad yn adlewyrchu sut mae plant yn parhau i brofi fframweithiau cyfreithiol – drwy reolau’r ysgol, gweithgarwch ar-lein, perthnasoedd teuluol, a gwasanaethau cyhoeddus, heb eu cydnabod o reidrwydd fel materion “cyfreithiol”. Mae’r bwlch hwn rhwng profiad bywyd a dealltwriaeth gyfreithiol yn parhau i fod yn thema gyson ar draws y ddwy astudiaeth.

Problemau bob dydd gyda dimensiynau cyfreithiol

Er bod llawer o ymatebwyr yn dweud mai anaml y mae’r gyfraith yn effeithio arnynt, dywedodd lleiafrif sylweddol eu bod wedi dod ar draws sefyllfaoedd lle gallai cyngor cyfreithiol fod wedi helpu.

Dywedodd wyth ar hugain o bobl ifanc eu bod wedi cael problem a oedd yn galw am gyngor cyfreithiol. Y problemau mwyaf cyffredin oedd trafferthion yn yr ysgol (16 ymateb), problemau ar-lein (12), cyswllt â’r heddlu (9), problemau iechyd meddwl (8), anawsterau mewn perthynas â theulu (8), a phrofiadau o gam-drin neu esgeuluso (8).

Nid yw’r materion hyn yn anghyffredin yng nghyd-destun bywydau plant. Mae pobl ifanc yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser mewn ysgolion, gofodau digidol ac amgylcheddau teuluol, ac mae’r rhain hefyd yn feysydd sy’n cael eu llywodraethu gan hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Wyth mlynedd yn ôl, canfu ymchwil debyg fod plant yn aml yn cysylltu materion cyfreithiol yn bennaf â’r heddlu neu gyfiawnder troseddol, er bod llawer o’u hanghenion cyfreithiol gwirioneddol yn ymwneud ag addysg, cyfraith teulu neu wasanaethau cymorth.

Mae’r arolwg diweddaraf yn awgrymu bod y patrwm hwn yn dal i fodoli, ond mae hefyd yn amlwg bod materion newydd – yn enwedig y materion sy’n gysylltiedig â bywyd ar-lein – yn dod yn fwyfwy amlwg.

 

Beth mae plant eisiau ei wybod am y gyfraith nawr

Un o’r mewnwelediadau mwyaf gwerthfawr o’r arolwg yw’r amrywiaeth o bynciau y mae pobl ifanc yn dweud yr hoffent gael gwybodaeth neu gyngor cyfreithiol amdanynt.

Trafferthion yn yr ysgol ac iechyd meddwl oedd y meysydd a ddewiswyd amlaf (26 o ymatebion yr un). Mynegodd pobl ifanc ddiddordeb hefyd mewn dysgu am faterion ar-lein (20), gwahaniaethu (18), perthnasoedd teuluol (14), cam-drin (11), digartrefedd (10), anghenion dysgu ychwanegol (9), a bywyd yn y system ofal (8).

Mae’r pynciau hyn yn adlewyrchu’r pwysau gwirioneddol sy’n wynebu pobl ifanc heddiw. Maent hefyd yn tynnu sylw at sut mae materion cyfreithiol i blant yn aml yn gysylltiedig ag addysg, lles, tai ac iechyd.

Yn bwysig iawn, mae’r ymatebion yn dangos nad mewn rheolau neu brosesau cyfreithiol yn unig y mae gan bobl ifanc ddiddordeb. Maen nhw eisiau gwybodaeth sy’n eu helpu i ddeall eu hawliau a llywio drwy sefyllfaoedd anodd pan fyddant yn codi.

 

Cael gafael ar gyngor: digidol, dibynadwy a hyblyg

Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar ble y byddai pobl ifanc yn mynd pe bai angen cyngor cyfreithiol arnynt.

Llwyfannau digidol oedd y dewis mwyaf poblogaidd.

  • Dywedodd 78% y byddent yn defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth
  • Dewisodd 30% WhatsApp
  • Dewisodd 17% sgwrs ar y we
  • Dewisodd 23% llinell ffôn

Ar yr un pryd, mae perthnasoedd personol yn parhau i fod yn hanfodol. Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr y byddent yn gofyn am gyngor gan riant, gofalwr neu warcheidwad (55). Roedd yn well gan rai ymatebwyr ymweld â chanolfan wybodaeth wyneb yn wyneb hefyd (32).

Mae’r ymatebion hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd nifer o lwybrau cymorth. Mae pobl ifanc yn amlwg yn gwerthfawrogi adnoddau ar-lein sy’n hawdd cael gafael arnynt, ond maen nhw hefyd yn dibynnu ar oedolion dibynadwy a mannau ffisegol lle gallan nhw ofyn cwestiynau a chael arweiniad.

Mae’r cyfuniad hwn o gymorth digidol a chymorth dynol yn adleisio ymchwil ehangach ar lythrennedd cyfreithiol yng Nghymru, sy’n pwysleisio bod yn rhaid i wybodaeth hygyrch fynd law yn llaw â chyfleoedd i gael cyngor a chymorth pan fo angen.

 

Dysgu am y gyfraith: galw mawr gan bobl ifanc

Neges allweddol arall o’r arolwg yw bod llawer o bobl ifanc eisiau dysgu mwy am y gyfraith.

Dywedodd wyth deg o ymatebwyr yr hoffent ddysgu am y gyfraith yng Nghymru. Nodwyd mai ysgolion yw’r lle mwyaf effeithiol i wneud hyn, gydag 80 o ymatebwyr yn dewis sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ysgol fel y ffordd orau o ddysgu.

Mae hyn yn awgrymu mai gwreiddio addysg gyfreithiol yn amgylchedd yr ysgol—naill ai drwy ddeunyddiau’r cwricwlwm, gweithdai neu bartneriaid allanol—fyddai’r dull mwyaf effeithiol a theg.

Roedd opsiynau eraill yn cynnwys dysgu drwy glybiau ieuenctid neu leoliadau cymunedol (42), y rhyngrwyd (52), ac apiau (25).

Pan ofynnwyd iddynt am ddulliau addysgu, fformatau rhyngweithiol a diddorol yr oedd pobl ifanc yn ei ffafrio. Gweithdai rhyngweithiol oedd y dull mwyaf poblogaidd (83 o ymatebion), ac yna fideos (66). Roedd podlediadau, taflenni ffeithiau a chylchlythyrau yn llai poblogaidd ond yn dal i gael eu hystyried yn ddeunyddiau ategol defnyddiol.

Mae’r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd yn agos ag ymchwil gynharach i addysg gyfreithiol yng Nghymru, a welodd gefnogaeth gref i ddarparu addysg gyfreithiol drwy ysgolion a gweithgareddau rhyngweithiol fel gweithdai, dadleuon a chwarae rôl.

Fodd bynnag, mae’r galw parhaus am y math hwn o ddysgu yn awgrymu bod cyfleoedd yn parhau i fod yn gyfyngedig ac yn anwastad.

 

Mae pobl ifanc eisiau siapio’r deddfau sy’n effeithio arnyn nhw

Roedd yr arolwg hefyd yn ystyried a yw pobl ifanc eisiau cymryd rhan yn y gwaith o lunio cyfreithiau a pholisïau sy’n effeithio ar eu dyfodol.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (66) yr hoffent gael cyfleoedd i fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu ymgyrchoedd neu ddylanwadu ar bolisïau. Mae hyn yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol y dylai plant a phobl ifanc chwarae rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Gall cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y gyfraith a pholisi hefyd fod yn ffordd bwerus o feithrin dealltwriaeth gyfreithiol a hyder. Pan fydd pobl ifanc yn gweld sut mae cyfreithiau’n cael eu creu a sut gall eu lleisiau ddylanwadu ar newid, maen nhw’n dod i werthfawrogi’n well sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio.

 

Myfyrio ar gynnydd

Wyth mlynedd yn ôl, roedd ymchwil i addysg gyfreithiol gyhoeddus (PLE) wedi disgrifio Cymru fel “anialwch PLE”, gan dynnu sylw at ddarpariaeth dameidiog a chydlyniad cyfyngedig mewn addysg a gwybodaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc.

Er bod mentrau pwysig wedi dod i’r amlwg ers hynny, mae canfyddiadau’r arolwg diweddaraf hwn yn awgrymu bod llawer o’r heriau sylfaenol yn parhau. Nid yw addysg gyfreithiol wedi’i gwreiddio’n gyson yn addysg plant, ac mae cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy am hawliau a phrosesau cyfreithiol yn dal yn anwastad.

Ar yr un pryd, mae lleisiau pobl ifanc yn yr arolwg hwn yn cyfeirio at gyfleoedd clir. Maen nhw eisiau gwybodaeth ymarferol am y gyfraith, wedi’i chyflwyno mewn ffyrdd diddorol, mewn mannau lle maen nhw eisoes yn treulio eu hamser – yn enwedig ysgolion ac amgylcheddau ar-lein.

Maen nhw eisiau gwybodaeth am faterion sy’n bwysig iddyn nhw nawr: addysg, iechyd meddwl, diogelwch ar-lein, gwahaniaethu, a bywyd teuluol. Ac maen nhw eisiau ffyrdd o ofyn cwestiynau a gofyn am help pan fydd problemau’n codi.

 

Gwrando ar beth mae plant yn ei ddweud

Mae’r wers bwysicaf o’r ymchwil hon yn syml: mae plant yn gwybod beth maen nhw ei angen.

Mae eu hymatebion yn dangos chwilfrydedd am y gyfraith, awydd i ddeall eu hawliau, a pharodrwydd i ymgysylltu â’r systemau sy’n siapio eu bywydau nhw. Drwy wrando ar y lleisiau hyn – ac adeiladu gwasanaethau, addysg a pholisi o’u cwmpas – gallwn ddechrau cau’r bwlch rhwng y gyfraith fel y mae’n bodoli a’r gyfraith wrth i blant ei phrofi.

Wyth mlynedd ar ôl i’r ymchwil cyntaf dynnu sylw at yr angen am lythrennedd cyfreithiol cryfach yng Nghymru, mae pobl ifanc unwaith eto’n dweud yr un peth wrthym: mae gwybodaeth am y gyfraith yn bwysig, ac mae arnynt eisiau’r adnoddau i’w deall.