- Gan mai plentyn ydych chi, mae gennych hawl i fod yn ddiogel gartref
- Os nad ydych yn cael eich trin yn iawn gartref, fe ddylech gael eich diogelu ac fe ddylech gael rhywle arall i fyw
- Os nad ydych eisiau byw gartref, mae pobl a sefydliadau ar gael i’ch helpu
Os ydych o dan 18, mae gennych hawl i fyw gyda’ch rhieni a chael gofal ganddynt wrth i chi dyfu a datblygu a manteisio ar eich hawliau eraill – hawliau i gael addysg a gofal iechyd ac i dreulio amser gyda’ch ffrindiau ac ymlacio. Ond dyw pethau ddim bob amser mor hawdd â hynny. Os oes rhywun yn eich brifo gartref, neu os nad ydych yn cyd-dynnu â’r bobl rydych yn byw gyda nhw, efallai na fyddwch eisiau byw yno mwyach. Efallai eich bod eisoes yn byw oddi cartref, naill ai mewn gofal maeth neu mewn cartref plant, ac efallai na fyddwch eisiau aros yn y fan honno chwaith.
Mae eich hawliau’n golygu y dylech bob amser gael rhywle diogel i fyw, gyda rhywun i ofalu amdanoch a gwneud penderfyniadau drosoch. Os ydych eisiau gadael cartref am ryw reswm, mae’n rhaid i’r bobl a’r sefydliadau sy’n gyfrifol amdanoch wneud yn siŵr bod gennych rywle diogel i fyw – eich rhieni efallai, neu adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol.
Mae eich rhieni’n gyfrifol amdanoch hyd nes eich bod yn 18, ond pan fyddwch yn 16 tybir eich bod yn ddigon hen i benderfynu symud oddi cartref ar eich pen eich hun. Fydd eich rhieni ddim yn gallu gwneud dim byd i’ch rhwystro rhag symud oddi cartref. Fydd neb fel y gwasanaethau cymdeithasol yn eich gorfodi i fynd gartref os byddwch wedi gadael. Os byddwch yn gadael cartref yn 16 neu’n 17, efallai y bydd pobl (eich rhieni, gweithwyr cymdeithasol, athrawon) yn ceisio eich perswadio i fynd gartref os mai dyna maen nhw’n meddwl sydd orau i chi, ond fydd neb yn gallu eich gorfodi.
Os ydych o dan 16 a bod gennych rywle diogel i fyw a bod eich rhieni’n cytuno, cewch adael cartref. Os byddwch yn gadael cartref a chithau o dan 16, ac nad oes gennych unman i fyw, fe allech fod mewn perygl o gael niwed. Efallai y bydd eich rhieni, yr awdurdod lleol a’r heddlu’n chwilio amdanoch. Os ydych wedi gadael cartref oherwydd eich bod yn cael eich brifo neu nad ydych yn cael digon o ofal mewn rhyw ffordd arall, fe ddylai’r awdurdod lleol wneud yn siŵr bod gennych rywle diogel i fyw. Os nad ydych chi a’ch rhieni’n cyd-dynnu, efallai y gallwch gael help i drafod eich problemau a cheisio datrys y mater er mwyn i chi deimlo’n well ynglŷn â byw gartref.
Efallai na fyddwch yn gallu rhentu rhywle i chi eich hun heb help gan y gwasanaethau cymdeithasol neu’r adran dai, tan eich bod yn 18. Efallai y bydd rhai landlordiaid yn fodlon i chi rentu lle os bydd rhywun dros 18 yn fodlon bod yn ‘warantwr’ a llofnodi’r gwaith papur.
Os byddwch yn gadael cartref neu’n rhedeg i ffwrdd, fyddwch chi ddim trafferth gyda’r heddlu. Dyw rhedeg i ffwrdd ddim yn erbyn y gyfraith. Byddai’r heddlu’n poeni mwy am gael gwybod beth wnaeth i chi redeg i ffwrdd ac a oes rhywun wedi eich brifo.
Fe fyddant hefyd eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ac nad oes perygl i chi gael niwed. Os bydd yr heddlu’n dod o hyd i chi ar ôl i chi redeg i ffwrdd, fe fyddant yn gallu eich helpu i fod yn ddiogel. Os dywedwch wrthyn nhw beth sy’n digwydd gartref, fe fyddant yn gallu cysylltu â phobl a sefydliadau eraill a fydd yn gallu eich helpu. Efallai y bydd yr heddlu’n cysylltu â’r awdurdod lleol er mwyn penderfynu beth sydd orau i chi. Cewch wybod mwy am eich hawliau a beth allai ddigwydd os nad ydych yn cael eich trin yn iawn gartref yma.
Os ydych wedi rhedeg i ffwrdd am nad yw eich rhieni neu rywun arall gartref yn gofalu amdanoch yn iawn, neu os ydych wedi cael eich cam-drin neu eich esgeuluso, bydd y gwasanaethau cymdeithasol eisiau cael gwybod beth maen nhw’n gallu ei wneud i’ch cadw’n ddiogel. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn os ydyn nhw’n meddwl bod angen help arnoch.
Os ydych yn 16 neu’n 17, cewch ofyn i’r awdurdod lleol am rywle i fyw. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi blaenoriaeth i chi yn enwedig os ydych wedi gadael cartref oherwydd y ffordd rydych yn cael eich trin. Os cysylltwch chi â thîm tai eich awdurdod lleol, efallai y bydd yn gofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol gael gwybod a ydych yn iawn a phenderfynu a oes gennych unrhyw anghenion gofal a chymorth. Os oes rhywun wedi bod yn eich trin yn wael gartref, cewch ddweud wrth yr heddlu hefyd. Mae sefydliadau sy’n rhoi cyngor a chymorth hefyd, fel Shelter Cymru, a fydd yn gallu eich helpu.
Os ydych o dan 16, cewch ofyn i’r awdurdod lleol neu’r heddlu am gymorth, neu sefydliadau fel Shelter Cymru. Bydd y rhain i gyd eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ac yn gallu byw yn rhywle lle y cewch eich diogelu rhag niwed.
Hyd nes eich bod yn 16, mae’n rhaid i’ch rhieni wneud yn siŵr bod gennych rywle diogel i fyw. Os ydych yn 16 a bod eich rhieni’n gofyn i chi adael cartref, mae’n debyg na fydd gennych ddewis arall ond gadael, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr bod gennych rywle i fynd. Fe allech geisio deall pam mae eich rhieni wedi gofyn i chi adael. Efallai y bydd modd trefnu i chi weld cwnselydd teulu i geisio datrys y mater er mwyn i chi allu aros gartref. Os na allwch aros gartref, fe ddylai’r awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw sy’n addas i chi.